Cynnal Safonau Proffesiynol 2022/23
Cyhoeddwyd 2024
English Cymraeg
Gair am yr adroddiad hwn
Hanfod ein cenhadaeth o hybu hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyfreithiol yw sicrhau bod cyfreithwyr yn gweithio i safonau proffesiynol uchel.
Rydym yn gosod ac yn cynnal y safonau hyn ac mae'n hanfodol ein bod yn cymryd camau cyflym a phriodol pan nad yw cyfreithwyr a chwmnïau yn eu cyflawni. Nod ein gwaith gorfodi yw diogelu'r cyhoedd, cynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd mewn gwasanaethau cyfreithiol, ac anfon neges glir at y rheini rydym yn eu rheoleiddio ei bod yn rhaid iddynt fodloni'r safonau uchel a ddisgwylir ganddynt.
Mae'r rhan fwyaf o gyfreithwyr a chwmnïau'n gwneud hynny, ond i'r rheini nad ydynt yn gwneud hynny, mae gennym amrywiaeth o bwerau i ddisgyblu cyfreithwyr a rheoli eu hymarfer yn y dyfodol. Yn yr achosion mwyaf difrifol, byddwn yn erlyn yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Mae'r Tribiwnlys yn gorff annibynnol, gyda phwerau i atal neu ddileu cyfreithwyr oddi ar y gofrestr a rhoi dirwyon diderfyn.
Drwy ein holl waith ymchwilio a gorfodi, ein ffocws yw sicrhau ein bod yn gweithio er budd y cyhoedd.
Meysydd allweddol sy'n cael eu trafod yn yr adroddiad hwn
Mae'r adroddiad hwn yn egluro ein dull o gynnal safonau proffesiynol drwy ein gwaith ymchwilio a gorfodi. Mae'n cynnwys data newydd ar ein gwaith yn y maes hwn ar gyfer y cyfnod rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023*, a osodwyd yng nghyd-destun y chwe blynedd flaenorol. Rydym hefyd yn cyfeirio at rywfaint o ddata o gyfnod 2023/24, i roi diweddariadau amserol ar feysydd allweddol o'n gwaith gorfodi. Mae hefyd yn cynnwys amrywiaeth o astudiaethau achos i roi enghreifftiau o'n gwaith a'r achosion rydym yn delio â nhw.
Mae'r meysydd allweddol sy'n cael eu trafod yn yr adroddiad hwn yn cynnwys:
- ein dull gorfodi, gan gynnwys ein hamrywiaeth o bwerau
- trosolwg o'r camau rheoleiddio a gymerwyd gennym a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2022/23
- themâu allweddol a welsom yn ein gwaith gorfodi a chynnydd ymchwiliadau proffil uchel
- golwg gyffredinol ar ein prosesau ymchwilio a gorfodi
- atgyfeiriadau at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'r sancsiynau mae'n eu gosod
- y broses apelio a gwybodaeth am apeliadau ar wahanol gamau
- costau ein hymchwiliadau a'n gwaith gorfodi
- yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi cyfreithwyr a chwmnïau.
Nid yw'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar ein perfformiad gweithredol yn y maes hwn – darperir gwybodaeth fanwl ar wahân drwy ddiweddariadau rheolaidd i'n Bwrdd drwy ein Cerdyn Sgorio Cytbwys.
*Sylwch fod ein blwyddyn fusnes yn rhedeg o 1 Tachwedd i 31 Hydref. Oni nodir yn wahanol, mae cyfeiriadau at 'y flwyddyn hon' yn yr adroddiad yn ymwneud â'r cyfnod hwn ac mae'r ffigurau'n ymwneud â 31 Hydref 2023 – diwedd y flwyddyn adrodd.
Mae'r adroddiad hwn hefyd yn cynnwys rhestr o dermau.
Crynodeb gweithredol
Mae sicrhau bod cyfreithwyr yn gweithio i safonau proffesiynol uchel yn hanfodol i hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyfreithiol. Mae’r rhan fwyaf o gyfreithwyr yn cyflawni i safonau uchel, ond pan fyddant yn methu, byddwn yn camu i mewn ac yn cymryd camau priodol i ddiogelu’r cyhoedd.
Eleni, cawsom bron i 11,000 o adroddiadau am gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol rydym yn eu rheoleiddio. Nifer debyg i flynyddoedd blaenorol. Daeth dros hanner (57%) yr adroddiadau a gawsom eleni gan y cyhoedd.
Gwnaethom gymryd camau rheoleiddio mewn 794 o achosion yn 2022/23. Bydd llawer o'r achosion hyn yn dilyn adroddiadau i ni, a bydd eraill yn dilyn ein gwaith rhagweithiol i nodi materion, fel drwy ymweliadau â chwmnïau neu adolygiadau desg.
Mewn 695 o achosion, gwnaethom gymryd camau fel rhoi dirwy, anfon llythyr rhybuddio neu osod amodau ar sut y gall rhywun ymarfer. Fe wnaethom atgyfeirio'r 99 achos arall at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT), sydd â mwy o bwerau i gosbi cyfreithwyr a chwmnïau mewn achosion o gamymddwyn difrifol.
Gwella ein dull gweithredu
Rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i wella prydlondeb ac ansawdd ein gwaith ymchwilio a gorfodi. Un o'r prif flaenoriaethau fu lleihau nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog.
Rydym wedi gwneud cynnydd da ar hyn: ym mis Hydref 2022, roedd gennym 286 o achosion a oedd yn hŷn na 24 mis oed. Fe wnaethom leihau hyn i 59 achos o'r fath erbyn mis Awst 2024.
Diwygio ein dull gweithredu ar gyfer dirwyon
- Yn dilyn dau ymgynghoriad, daeth ein dull gweithredu newydd ar gyfer cosbau ariannol i rym yn 2023. Gwelwyd dau newid allweddol. Fe wnaethom gyflwyno: Cosbau penodedig, sy'n ein galluogi i ddelio'n gynt ag achosion o dorri ein rheolau sydd ar lefel is, ac nid yn gymhleth. Yn ogystal â gweithredu fel rhwystr i gwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau penodol, mae'r dull hwn yn arbed amser, cost a straen i bawb.
- Bandiau dirwyon ar gyfer cwmnïau ac unigolion wedi'u cysylltu'n uniongyrchol â chanrannau incwm/trosiant. Fe wnaethom gyflwyno'r rhain yn dilyn newidiadau mewn deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022, a oedd yn cynyddu'r lefel y gallwn ddirwyo cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol traddodiadol o £2,000 i £25,000.
Ers newidiadau mewn deddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022, hyd at fis Awst 2024, rydym wedi cyhoeddi 96 o ddirwyon lle'r oedd swm y ddirwy yn fwy na £2,000. Cyfanswm gwerth y dirwyon hyn oedd tua £1.55m. O'r swm hwn:
- Rhoddwyd 54 o ddirwyon i gwmnïau, gyda chyfanswm gwerth o tua £1m
- Dosbarthwyd 42 o ddirwyon i unigolion, gyda chyfanswm gwerth o tua £550,000.
Achosion a materion proffil uchel
Cafwyd amrywiaeth o achosion proffil uchel a ddenodd ddiddordeb sylweddol ymysg y cyhoedd yn y flwyddyn adrodd. Fel ym mhob achos, byddwn yn cymryd camau yn erbyn unrhyw gyfreithwyr neu gwmnïau sydd wedi ymddwyn yn anfoesegol:
- Sgandal Horizon Swyddfa'r Post – un o'r achosion mwyaf o gamweinyddu cyfiawnder yn hanes cyfreithiol Prydain, rydym ar hyn o bryd yn ymchwilio i dros 20 o gyfreithwyr a chwmnïau a fu'n gweithio ar ran Swyddfa'r Post/Grŵp y Post Brenhinol. Disgwyliwn fod yn y sefyllfa orau i weithredu i sicrhau'r canlyniad cywir ar ôl i'r ffeithiau llawn a'r holl faterion perthnasol gael eu lleisio drwy'r ymchwiliad cyhoeddus.
- Axiom Ince – ym mis Hydref 2023, fe wnaethom gynnal ein hymyriad mwyaf erioed, lle bu'n rhaid i ni gamu i mewn a chau cwmni cyfreithiol Axiom Ince, i ddiogelu cleientiaid a'r cyhoedd. Gwnaethom ganfod amheuaeth o dwyll yn y cwmni, gyda thros £60m o arian cleientiaid ar goll. Rydym yn parhau i wneud taliadau, drwy ein cronfa iawndal, i unigolion sydd wedi colli arian. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO), sydd wedi arestio nifer o unigolion. Rydym wedi cytuno i oedi ein hymchwiliadau nes bydd y Swyddfa Twyll Difrifol yn cwblhau ei hymchwiliad. Rydym wedi diogelu'r cyhoedd drwy gyfyngu ar arferion unigolion allweddol a oedd yn gweithio yn y cwmni.
- SSB Group (SSB), Pure Legal a nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr – mae cyn-gleientiaid cwmnïau cyfreithiol SSB a Pure Legal wedi cael cais annisgwyl i dalu costau cyfreithiol niweidiol mewn perthynas â'u hawliadau o ran inswleiddio waliau ceudod a ddaeth i ben. Mae'r achosion hyn yn codi pryderon difrifol am y cyfreithwyr a'r cwmnïau cyfreithiol dan sylw, gan gynnwys sut y cafwyd y gwaith a sut yr ymdriniwyd â hawliadau. Rydym yn ymchwilio, wrth sicrhau bod pobl yr effeithir arnynt yn gallu cael gafael ar y wybodaeth gywir am opsiynau posibl ar gyfer gwneud iawn. Mae'r achos hefyd yn tynnu sylw at gwestiynau ehangach ynghylch sut mae'r farchnad rheoli hawliadau'n gweithio, gan gynnwys rôl yswiriant, cwmnïau rheoli hawliadau, cyllidwyr cyfreitha a gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn edrych gyda rheoleiddwyr eraill a'r llywodraeth i weld a oes angen newidiadau i ddiogelu'r cyhoedd yn well.
- Achosion lloches ffug – mae mewnfudo a lloches yn feysydd cyfraith risg uchel gan fod cleientiaid yn aml yn agored i niwed ac mae effeithiau penderfyniadau'n sylweddol. Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom weithredu'n gyflym i ymchwilio i dri chwmni cyfreithiol, a'u cau. Roedd hyn yn dilyn honiadau yn y cyfryngau bod cyfreithwyr yn annog ceisiadau ffug am loches a hawliau dynol ac yn codi gormod am waith. Rydym wedi atgyfeirio'r materion hyn at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Rydym wedi bod yn canolbwyntio ein gwaith ar feysydd pwysig eraill ers tro bellach, fel ein bod yn hybu safonau uchel ac yn mynd i'r afael â chamymddwyn lle rydym yn dod o hyd iddo. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys:
- Camymddwyn rhywiol yn cynnwys cyfreithwyr – dyma rai o'r materion mwyaf difrifol rydym yn delio â nhw. Yn 2022/23, fe wnaethom atgyfeirio 11 achos o'r fath at y Tribiwnlys, a gwelsom yr achos cyntaf erioed o ddileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr am gamymddwyn rhywiol, lle nad oedd euogfarn droseddol.
- Cytundebau Peidio â Datgelu (NDA) - rydym yn pryderu ynghylch Cytundebau Peidio â Datgelu sy'n ceisio cyfyngu ar ddatgelu camymddwyn i reoleiddiwr, neu adrodd am drosedd i'r heddlu (er nad oes modd gorfodi cymalau o'r fath). Yn 2022/23, fe wnaethom ymchwilio i 24 achos yn ymwneud â Chytundebau Peidio â Datgelu. O'r 24, gwnaethom gau 13 o achosion. Caewyd chwech o'r rhain heb unrhyw gamau pellach a chaewyd saith gyda llythyrau cynghori neu rybuddio. Ddiwedd 2022/23, fe wnaethom barhau i ymchwilio i'r 11 achos arall.
- Achosion Cyfraith Strategol yn Erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd (SLAPPs) – mae pryderon ynghylch cyfreithwyr yn cymryd rhan mewn cyfreitha difrïol sydd wedi'u hanelu at dawelu beirniaid cyfreithlon wedi cynyddu'n sylweddol ers y rhyfel yn Wcráin. Rhwng mis Mai 2022 a mis Medi 2024, cawsom 82 adroddiad am Achosion posibl. Ym mis Medi 2024, roedd gennym 44 ymchwiliad agored ac roeddem wedi atgyfeirio dau achos at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
- Gwyngalchu arian – rydym wedi adolygu 250 o gwmnïau i wirio cydymffurfiaeth. Nid yw gwyngalchu arian yn drosedd heb ddioddefwr, a rhaid i gwmnïau sicrhau eu bod yn mynd i'r afael â'r mater hwn ac yn cyflawni eu rhwymedigaethau. Yn ystod y cyfnod adrodd am atal gwyngalchu arian (ATL) rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023, fe wnaethom gymryd camau rheoleiddio mewn 47 achos.
- Tryloywder cwmnïau cyfreithiol gyda darpar gwsmeriaid – mae ein Rheolau Tryloywder yno i helpu'r cyhoedd wneud penderfyniadau gwybodus wrth ddewis darparwr gwasanaeth cyfreithiol. Rydym wedi adolygu mwy na 1,000 o gwmnïau fel rhan o brosiect (rhwng canol 2023 a diwedd 2024) i wirio bod cwmnïau'n cydymffurfio â'n rheolau. Rhwng mis Mai 2023 a mis Awst 2024, mae ein gwaith wedi golygu ein bod wedi rhoi llythyr rhybuddio i 439 o gwmnïau ac wedi rhoi 36 o gosbau penodedig. Roedd saith o'r cosbau penodol hyn o fewn y cyfnod a drafodir yn yr adroddiad hwn.
Apeliadau ac atgyfeiriadau at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion roeddem wedi'u hatgyfeirio at y Tribiwnlys, o 76 yn 2021/22 i 99 yn 2022/23. Un rheswm dros hyn yw ein gweithgarwch cynyddol ar leihau nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog, gyda rhai ohonynt wedi arwain at atgyfeiriad.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi defnyddio 'canlyniadau y cytunwyd arnynt' fwyfwy mewn achosion sy'n cael eu hatgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Os byddwn yn atgyfeirio mater a bod y Tribiwnlys yn dweud bod achos i'w ateb, a bod y cwmni neu'r unigolyn yn cyfaddef cyflawni'r honiadau, efallai y byddai'n briodol dod â'r mater i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na drwy wrandawiad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym ni'n cytuno ar ganlyniad a chostau ar sail set o ffeithiau y cytunwyd arnynt. Er mai dim ond mewn rhai amgylchiadau y maent yn briodol, gallant ddatrys achosion mewn ffordd gyflym a chymesur. Yn 2022/23, roeddent yn cynrychioli 43% o'r holl achosion Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, o'i gymharu â 28% yn 2016/17.
Cafwyd llai o apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yn 2017/18, cyflwynwyd 12 gan ymatebwyr a naw gennym ni – cyfanswm o 21. Yn 2022/23, cyflwynwyd pump gan ymatebwyr a thri gennym ni – cyfanswm o wyth.
Ein costau
Rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn gwneud ein gwaith yn effeithiol ac yn effeithlon. Yn 2022/23, fe wnaethom wario £19.3m ar ein prosesau ymchwilio a gorfodi. Mae hyn yn gynnydd ar y flwyddyn flaenorol (£16.5m). Y prif reswm dros hyn yw buddsoddi yn ein hadnoddau ymchwilio i wella prydlondeb ac ansawdd ein penderfyniadau a'n gwasanaethau.
O'r 99 achos y gwnaethom eu cyflwyno i'r Tribiwnlys yn 2022/23 a'r wyth apêl y gwrandawyd arnynt, roedd dau achos lle roedd ein costau'n £100,000 neu fwy.
Cafodd y gwaith ar yr achosion hyn ei wasgaru dros sawl blwyddyn. Arweiniodd y ddau at ddileu cyfreithiwr oddi ar y gofrestr, a apeliodd wedyn i'r Uchel Lys. Cafodd y ddwy apêl eu gwrthod, a dyfarnwyd y mwyafrif o'n costau, neu'r holl gostau a geisiwyd i ni, gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'r Uchel Lys.
Ein rôl
Drwy ein gwaith gorfodi, ein nod yw:
- Cynnal safonau cymhwysedd ac ymddygiad moesegol.
- Diogelu cleientiaid a'r cyhoedd – rydym yn rheoli neu'n cyfyngu ar y risg o niwed drwy sicrhau nad yw unigolion a chwmnïau'n gallu troseddu eto neu eu bod yn cael eu hatal rhag gwneud hynny yn y dyfodol.
- Anfon neges at y bobl rydyn ni'n eu rheoleiddio'n ehangach gyda'r nod o atal ymddygiad tebyg gan eraill.
- Cynnal hyder y cyhoedd yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyfreithiol.
Monitro safonau proffesiynol a gweithredu
Rydym yn monitro safonau ar draws y proffesiwn drwy asesu ac ymchwilio i adroddiadau am bryderon a fynegwyd i ni ynghylch ymddygiad cwmnïau, cyfreithwyr ac unigolion eraill rydym yn eu rheoleiddio. Eleni, cawsom tua 11,000 o adroddiadau am bryderon. Mae hyn yn debyg i flynyddoedd blaenorol.
Gwnaethom gymryd camau rheoleiddio mewn 794 o achosion. Gall y cam hwn amrywio o anfon llythyr cynghori i roi dirwy neu atgyfeirio achos at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Rydym wedi nodi isod yr amrywiaeth o gamau y gallwn eu cymryd a'r sancsiynau y gallwn eu gosod. Rydym yn asesu'r holl adroddiadau a gawn, a lle bo angen, yn ymchwilio ac yn gweithredu.
Rydym hefyd yn gwneud gwaith rhagweithiol i sicrhau bod cwmnïau a chyfreithwyr yn cydymffurfio. Mae'r meysydd lle rydym wedi canolbwyntio'n benodol ar ein gwaith rhagweithiol eleni yn cynnwys rheoliadau atal gwyngalchu arian (AML) a'n Rheolau Tryloywder.
Ein Strategaeth Gorfodi
Mae ein Strategaeth Gorfodi yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan fyddwn yn dod o hyd i gwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall rydym yn ei reoleiddio sydd heb gyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl. Mae'n rhoi eglurder ynghylch sut a phryd byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi, a'r hyn rydym ni'n ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y camymddwyn a'r camau i'w cymryd.
Ein pwerau fel rheoleiddiwr
Llythyrau cynghori a rhybuddio a cheryddon
Ar ôl ymchwilio i bryder, efallai y byddwn yn anfon llythyr cynghori neu rybuddio at gwmni neu gyfreithiwr. Efallai y byddwn yn gweld bod tor-amod wedi digwydd yn y mater, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn yn gosod sancsiwn. Byddwn yn ystyried yr holl amgylchiadau, gan gynnwys unrhyw ffactorau gwaethygol a lliniarol, gan sicrhau bod budd ehangach y cyhoedd (gan gynnwys diogelu'r cyhoedd) yn cael ei gynnal. Byddwn fel arfer yn anfon y llythyrau hyn lle mae ein rheolau wedi cael eu torri, ond mae amgylchiadau'n dangos nad oes unrhyw bryder sylfaenol o ran budd y cyhoedd:
- Llythyr cynghori – i helpu unigolyn/cwmni i ddeall ein trefniadau rheoleiddio a'r ymddygiad sy'n dangos risg. Ei nod yw eu helpu i gydymffurfio yn y dyfodol a'i atal rhag digwydd eto'n anfwriadol.
- Llythyr rhybuddio – i wneud unigolyn/cwmni yn ymwybodol ei fod wedi dod yn agos at orchymyn rheoli neu gosb disgyblu ac rydym yn debygol o gymryd camau os bydd y tor-amod yn parhau neu'n digwydd eto.
Os yw achos yn gymharol ddifrifol, efallai y byddwn am geryddu'r cwmni, y cyfreithiwr neu'r unigolyn dan sylw. Yn wahanol i lythyrau cynghori a rhybuddio, cyhoeddir manylion cerydd, er bod rhai achosion pan na fydd cyhoeddiad gan nad yw er budd y cyhoedd. (Mae ein canllawiau ar gyhoeddi penderfyniadau rheoleiddio a disgyblu â rhagor o wybodaeth).
Pwerau dirwyon
Gallwn ddirwyo cwmnïau, cyfreithwyr, neu unigolion eraill rydym yn eu rheoleiddio am dorri ein rheolau. Mae ein pwerau dirwyo yn amrywio ac yn cynnwys:
- Cosbau ariannol penodedig: ers canol 2023, fe wnaethom ddechrau rhoi cosbau penodedig am dorri ein rheolau'n benodol, er enghraifft, diffyg cydymffurfio â'n Rheolau Tryloywder neu fethu ag ymateb i'n ceisiadau. Gallwn roi cosbau ariannol penodedig o £750 am dorri rheol am y tro cyntaf a £1,500 am dorri rheol eto o fewn tair blynedd. Mae cosbau penodedig yn ein galluogi i ddelio'n gynt ag achosion heb fod yn gymhleth o dorri ein rheolau. Mae hyn yn arbed amser, cost a straen i bawb.
- Dirwyon hyd at £25,000: yn dilyn newid i ddeddfwriaeth ym mis Gorffennaf 2022, cynyddodd ein pwerau dirwyo o uchafswm o £2,000 i £25,000 ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol traddodiadol.
- Dirwyon hyd at £250m: mae gennym bwerau dirwyo uwch mewn perthynas â strwythur busnes amgen (ABS), a elwir hefyd yn gorff trwyddedig, lle nad cyfreithwyr sy'n rheoli nac yn berchen ar y busnes. Gallwn roi dirwy o hyd at £250m i'r cwmni a hyd at £50m i'w reolwyr a'i weithwyr.
- Dirwyon diderfyn: mae Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023 yn rhoi pwerau dirwyo diderfyn i ni i gosbi rhai achosion o dorri rheolau sy'n ymwneud â throseddau economaidd. Daeth hyn i rym ym mis Mawrth 2024, ac fe wnaethom ymgynghori ar ddatblygu ein fframwaith cosbau ariannol yng ngoleuni hyn. Byddwn yn gallu rhoi'r mathau hyn o ddirwyon ar gyfer achosion o dorri ein rheolau a ddigwyddodd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym yn unig.
Mae rhagor o fanylion am y dirwyon rydym yn eu rhoi a'n polisi dirwyo ehangach ar gael yn adran 2.5:Cwblhau ymchwiliad – cytundebau setlo rheoleiddiol a dirwyon. Mae'n bwysig nodi bod yr holl ddirwyon, p'un ai a ydynt yn cael eu cyhoeddi gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr neu drwy ein prosesau mewnol, yn cael eu talu i'r Trysorlys.
Gosod amodau a rheolaethau
Er mwyn diogelu'r cyhoedd, gallwn, mewn rhai amgylchiadau, osod amodau neu reolaethau i gyfyngu ar yr ymarfer ar:
- dystysgrif ymarfer cyfreithiwr, neu ar dystysgrifau ymarfer cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig (REL) a chyfreithwyr tramor cofrestredig (RFL)
- unigolion eraill sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol
- tystysgrif awdurdodi cwmni.
Gallwn wneud hyn:
- yn ystod ymchwiliad, os ydym o'r farn bod angen i ni leihau'r risg i'r cyhoedd fel rhan o'n gwaith parhaus
- ar ddiwedd ymchwiliad, os ydym o'r farn ei fod yn ganlyniad priodol
- pan fyddwn yn adnewyddu tystysgrif ymarfer cyfreithiwr, cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig neu gyfreithwyr tramor cofrestredig yn flynyddol, gallwn gadw amod sydd eisoes yn bodoli a osodwyd ar y dystysgrif
- os yw'r Tribiwnlys yn penderfynu bod amodau ymarfer yn angenrheidiol yn dilyn gwrandawiad disgyblu.
Ymyriadau
Rydym yn ymyrryd mewn cwmni i ddiogelu cleientiaid. Mae'n golygu ein bod yn cymryd arian a ffeiliau cleientiaid oddi wrth bractis cwmni neu gyfreithiwr i gadw'r arian a'r ffeiliau'n ddiogel. Bydd hyn i bob pwrpas yn cau practis y cwmni neu'r cyfreithiwr. Rydym yn galw hyn yn ymyriad. Byddwn yn gwneud hyn os byddwn yn credu bod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os yw'n angenrheidiol fel arall i ddiogelu buddiannau cleientiaid.
Mae rhagor o wybodaeth am ymyriadau ar gael yn ein hadroddiad Diogelu Cleientiaid.
Atgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Nid ydym yn gallu dileu enw cyfreithiwr oddi ar y gofrestr na'i atal. Os ydym yn credu bod angen cymryd camau o'r fath, neu os ydym yn credu bod dirwy y tu hwnt i'n pwerau yn briodol, rhaid i ni gyflwyno'r achos i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Yn ogystal ag atal a dileu, gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr roi dirwyon diderfyn mewn perthynas ag unrhyw achos o dorri ein rheolau.
Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yn adran 2.6: Cwblhau achosion drwy eu hatgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Mae tabl o'r camau rydym ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd ar gael yn atodiad 1.
Camau rheoleiddio a gymerwyd gennym yn 2022/23
Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn 2022/23. Cofiwch y gall un achos arwain at fwy nag un math o gam rheoleiddio. Mae'r tabl isod yn dangos y camau a gymerwyd gennym o ganlyniad i adroddiadau am bryderon a fynegwyd i ni a'n gwaith rhagweithiol i fonitro safonau.
Dyma'r flwyddyn gyntaf lle rydym wedi adrodd am achosion lle roeddem wedi gosod amodau ymarfer ar dystysgrifau ymarfer. Oherwydd hyn, nid oes modd cymharu'r ffigur cyffredinol o gamau rheoleiddio a gymerwyd gennym yn 2022/23 yn uniongyrchol â'r rhai a adroddwyd gennym yn Cynnal Safonau Proffesiynol 2021/22. Wrth symud ymlaen, byddwn yn adrodd yn flynyddol am nifer yr amodau ymarfer rydym yn eu gosod bob blwyddyn.
Gwnaethom weithredu mewn 794 o achosion yn 2022/23, gan gynnwys 205 o achosion lle roeddem wedi gosod amodau ymarfer. Gan osod achosion lle roeddem wedi gosod amodau ymarfer o'r neilltu, mae cynnydd wedi bod o hyd yn nifer yr achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio eleni o'i gymharu â 2021/22 (377). Mae dau faes lle bu cynnydd nodedig yn y camau rheoleiddio rydym wedi'u cymryd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol:
- Atgyfeiriadau at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT): roedd nifer yr achosion a glywsom yn y Tribiwnlys yn 2022/23 wedi cynyddu i 99 o 76 yn 2021/22. Rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i wella prydlondeb ac ansawdd ein gwaith ymchwilio a gorfodi. Un o'r prif flaenoriaethau fu lleihau nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog. Gallai hyn fod yn un ffactor sydd wedi sbarduno'r cynnydd eleni yn nifer yr achosion a glywir yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Byddwn wedi atgyfeirio mwy o achosion yn 2023/24. Oherwydd hyn, mae'n debygol y byddwn yn gweld nifer yr achosion a glywir yn y Tribiwnlys yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf. Sylwch, fel arfer mae'n cymryd mwy na blwyddyn i atgyfeirio achos at y Tribiwnlys ac iddo gael ei glywed.
- Llythyrau rhybuddio: gwnaethom gau 217 o achosion gyda llythyr rhybuddio yn 2022/23 o'i gymharu â 44 yn 2021/22. Roedd y cynnydd bedair gwaith yn fwy yn cael ei sbarduno'n bennaf gan ein gwaith rhagweithiol i wirio cydymffurfiad â'n Rheolau Tryloywder, gan gyfrif am 120 o achosion o'r fath.
Gwnaethom hefyd gynnal 65 o ymyriadau, lle rydym yn tynnu arian a ffeiliau cleientiaid oddi wrth bractis cwmni neu gyfreithiwr, gan olygu nad ydynt yn gallu gweithredu mwyach. Roedd hyn yn gynnydd sylweddol ers y flwyddyn flaenorol. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yn ein hadroddiad Diogelu Cleientiaid. I gael arweiniad ar y termau a ddefnyddir yn y tablau isod, gweler:
Nifer yr achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn 2022/23
Sylwch fod yr achosion hyn yn ymwneud â'r rheini a gaewyd gennym yn 2022/23 a'r mathau o gamau rheoleiddio a gofnodwyd ym mhob achos. Gall un achos arwain at fwy nag un math o gam rheoleiddio.
Nid yw'r ffigurau hyn yn cynnwys achosion lle gwnaethom gynnal ymyriad mewn cwmni neu ymarfer unigolyn. Fe wnaethom gynnal 65 o ymyriadau yn 2022/23. Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith hwn ar gael yn ein hadroddiad Diogelu Cleientiaid.
Nifer yr achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio | 794 |
---|---|
Llythyr cynghori | 73 |
Llythyr rhybuddio * | 217 |
Cerydd | 34 |
Dirwy (gan gynnwys cosbau ariannol penodedig) | 73 |
Gorchymyn adran 43 | 33 |
Amodau ar dystysgrif awdurdodi cwmni | 4 |
Amodau ar dystysgrif ymarfer | 205 |
Tynnu oddi ar y gofrestr drwy gytundeb setlo rheoleiddiol | 3 |
Gorchymyn adran 99 | 8 |
Achosion wedi'u hatgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr | 99 |
* Sylwch fod y categori hwn yn arfer cael ei alw'n 'canfod/canfod a llythyr rhybuddio'. Rydym bellach wedi diweddaru'r enw yn unol â'r newidiadau i'n Strategaeth Gorfodi ddiwygiedig a'n Safonau a Rheoliadau.
Achosion a chanlyniadau Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2022/23
Sylwch ein bod ni'n penderfynu a ddylid dod ag achos gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ar gyfer gwrandawiad. Bydd wedyn yn penderfynu ar y canlyniad. Gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn.
Achosion a chanlyniadau Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 2022/23
Nifer yr achosion a atgyfeiriwyd gennym | 99 |
---|---|
Dirwy | 23 |
Atal dros dro | 13 |
Dileu oddi ar y gofrestr | 63 |
Penderfyniad arall | 6 |
Amodau ar dystysgrif awdurdodi cwmni | 0 |
Amodau ar dystysgrif ymarfer | 9* |
Dim gorchymyn | 6 |
* Sylwch fod un o'r amodau hyn wedi cael ei gymhwyso o ganlyniad i roi enw yn ôl ar y gofrestr yn llwyddiannus. Nid yw'r achos y mae hyn yn berthnasol iddo wedi'i gynnwys yn y 99 achos a atgyfeiriwyd gennym, gan ei fod wedi'i gyflwyno gan unigolyn ac nid gennym ni.
Achosion Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr lle gosodwyd amod yn dilyn gwrandawiad mewn blynyddoedd blaenorol
Yn ogystal â'r achosion a adlewyrchir yn y tabl uchod, mae categori arall o ganlyniadau, lle mae'r Tribiwnlys wedi gosod amodau ar ôl i gyfnod atal ddod i ben. Er bod yr amodau wedi cael eu hychwanegu yn 2022/23, bydd yr ataliad gwreiddiol wedi cael ei gofnodi mewn data sy'n ymwneud â'r flwyddyn y dechreuodd.
Amodau a osodir ar dystysgrifau ymarfer yn dilyn cyfnod o atal dros dro | 9 |
---|
Rydym ni'n rheoleiddio dros 200,000 o gyfreithwyr - mae tua 166,000 yn gyfreithwyr sy'n ymarfer - a thua 9,300 o gwmnïau cyfreithiol. Cawsom tua 11,000 o adroddiadau am bryderon yn 2022/23.
Mae ein gwaith i ddiogelu'r cyhoedd, hybu safonau proffesiynol a chymryd camau pan fydd pethau wedi mynd o chwith yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynnal hyder ac ymddiriedaeth mewn gwasanaethau cyfreithiol.
Nid yw'r rhan fwyaf o'r pryderon yn golygu ein bod yn cymryd camau rheoleiddio. Mewn llawer o achosion, rydym yn canfod nad yw ein rheolau wedi cael eu torri. Mewn achosion eraill, rydym ni'n ymgysylltu â chwmnïau i unioni pethau a sicrhau eu bod yn bodloni ein gofynion. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd camau lle bo angen er budd y cyhoedd.
Mae rhai materion sy'n cael eu hadrodd i ni'n fwy aml nag eraill – fel materion yn ymwneud â chyfrinachedd, camarwain y llys, neu fanteisio ar drydydd parti. Mae rhai meysydd o ymarfer cyfreithiol, megis trawsgludo a phrofiant, hefyd yn denu mwy o gwynion, gan adlewyrchu'r swmp mawr o waith a thrafodion yn y meysydd hyn.
Mae pob achos yn unigryw, ac mae llawer yn gymhleth, gyda chymysgedd o achosion posibl o dorri ein rheoliadau.
Buom yn gweithio ar nifer o achosion proffil uchel yn 2022/23 – gyda rhai ohonynt yn rhai parhaus. Mae'r rhain yn cynnwys ein hymyriad yng nghwmni cyfreithiol Axiom Ince, sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post, problemau gyda SSB a Pure Legal, a cheisiadau lloches ffug. Mae meysydd hefyd lle rydym wedi canolbwyntio ein gwaith ers peth amser – fel camymddwyn rhywiol, defnyddio Cytundebau Peidio â Datgelu (NDAs) ac atal gwyngalchu arian (AML). Mae rhagor o fanylion am yr achosion a'r themâu hyn wedi'u nodi isod.
Yn 2022/23, fe wnaethom hefyd gymryd camau mwy rhagweithiol i wirio bod cwmnïau'n cydymffurfio â'n rheolau – fel ein Rheolau Tryloywder. Pan welsom ddiffyg cydymffurfio, fe wnaethom anfon llythyrau rhybuddio a defnyddio cosbau ariannol penodedig am y tro cyntaf. Roeddem hefyd wedi rhoi cosbau ariannol penodedig i gwmnïau nad oedd ganddynt ddeiliaid rôl penodol yr oedd eu hangen i gydymffurfio.
Ymyriad yn Axiom Ince a'n Hadolygiad o Ddiogelu Defnyddwyr
Yn 2023, fe wnaethom gynnal ein hymyriad mwyaf erioed. Roedd yn ymwneud â'r cwmni cyfreithiol Axiom Ince. Gwnaethom hyn ar sail anonestrwydd a thorri ein Rheolau Cyfrifon. Roedd amheuaeth bod unig gyfranddaliwr y cwmni yn camddefnyddio symiau sylweddol o arian cleientiaid, gan arwain at brinder cyfrif yr amcangyfrifir ei fod yn fwy na £60m.
Yn ystod haf 2023, fe wnaethom gau ymarferion personol yr unig gyfranddaliwr a dau gyfarwyddwr arall y cwmni i ddiogelu cleientiaid a'r cyhoedd. Fe wnaethom hefyd atgyfeirio'r mater at yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol, ac fe wnaeth y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) arestio nifer o unigolion ym mis Tachwedd 2023. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r Swyddfa Twyll Difrifol wrth iddi fwrw ymlaen â'i hymchwiliad. Rydym wedi cytuno â'r Swyddfa i ohirio ein hymchwiliad i'r mater hwn nes bydd wedi cwblhau ei hymchwiliad. Rydym eisoes wedi ceisio diogelu'r cyhoedd yn y cyfamser drwy gyfyngu ar arferion unigolion allweddol. Rydym hefyd yn parhau i wneud taliadau i unigolion sydd wedi colli eu harian ac sydd ers hynny wedi gwneud hawliad drwy'r gronfa iawndal.
Mae'r ymyriad hwn, ochr yn ochr ag ymyriadau mawr eraill a chynnydd yn nifer yr ymyriadau, yn tynnu sylw at newidiadau posibl yn risgiau'r sector cyfreithiol. Mae hyn wedi ein harwain i edrych – drwy ein Hadolygiad o Ddiogelu Defnyddwyr – ar y mesurau diogelu sydd ar waith i ddefnyddwyr pan fydd arian yn mynd ar goll a pha gamau y gallwn eu cymryd i wella sut rydym yn canfod ac yn rheoli risgiau i ddefnyddwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am yr ymyriad hwn ar gael yn yr adran 'Gweithredu ar frys'.
Sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post
Rhwng 2000 a 2015, cafodd is-bostfeistri (SPMs) eu herlyn ar gam am droseddau ar sail gwybodaeth o system gyfrifyddu electronig ddiffygiol, 'Horizon', a oedd yn gwneud iddo ymddangos bod arian ar goll. O euogfarnau anghyfiawn i ddistryw ariannol a chanlyniadau personol dinistriol, mae camweinyddiadau cyfiawnder yn yr achos hwn wedi effeithio'n ddifrifol ar fywydau cannoedd o is-bostfeistri.
Ym mis Medi 2024, cawsom dros 20 o ymchwiliadau byw i gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol a oedd yn gweithio ar ran Swyddfa'r Post/Grŵp y Post Brenhinol. Rydym yn edrych ar ystod eang o faterion, gan gynnwys:
- cyfreithwyr yn rheoli a goruchwylio achosion a strategaeth ac ymddygiad erlyniadau a chyfreitha (gan gynnwys cyfreitha grŵp – Mr Bates yn erbyn Swyddfa'r Post)
- dyletswyddau sy'n ymwneud â thystion arbenigol
- rhwymedigaethau datgelu a defnyddio braint yn amhriodol i ddiogelu cyfathrebiadau rhag cael eu datgelu
- materion sy'n ymwneud â gweithredu'r Cynllun Cyfryngu ac Adolygu Cwynion Swyddfa'r Post, gan gynnwys codi gormod ar hawlwyr, defnyddio cytundebau peidio â datgelu a labelu gohebiaeth.
Nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. Rydym hefyd yn edrych ar ymddygiad cyfreithwyr mewn perthynas â'u hymgysylltiad a'u cydweithrediad â'r ymchwiliad cyhoeddus parhaus.
Rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth drwy amrywiol ddulliau. Mae hyn yn cynnwys galw am dystiolaeth o dan ein pwerau ein hunain, cael gorchymyn llys yn mynnu bod Swyddfa'r Post/Grŵp y Post Brenhinol yn darparu dogfennau perthnasol i ni ac adolygu'r wybodaeth sy'n cael ei rhannu'n gyhoeddus drwy'r ymchwiliad statudol. Hyd yma, mae ein hymchwiliadau wedi cynnwys craffu ar ddegau o filoedd o dudalennau o wybodaeth a thystiolaeth. Maen nhw'n ymdrin â materion niferus, amlochrog, lle gallai camymddwyn fod wedi digwydd.
Byddwn yn gweithredu pan fyddwn yn dod o hyd i dystiolaeth bod cyfreithwyr wedi methu â chyrraedd y safonau y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl. Mae materion a thystiolaeth newydd yn dod i'r amlwg yn barhaus, yn enwedig o'r ymchwiliad cyhoeddus. Disgwyliwn fod yn y sefyllfa orau i gymryd unrhyw gamau ystyrlon i sicrhau'r canlyniad cywir ar ôl i'r ffeithiau llawn a'r holl faterion perthnasol gael eu lleisio drwy'r ymchwiliad. Ond rydym yn adolygu ein sefyllfa'n gyson. Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r ymchwiliad i sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw faterion a allai fod angen gweithredu arnynt ar unwaith. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein diweddariad, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2024.
Achosion cyfraith strategol yn erbyn cyfranogaeth y cyhoedd
Mae Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd (SLAPPs) yn derm a ddefnyddir yn gyffredin i ddisgrifio camddefnydd o'r system gyfreithiol drwy ddwyn neu fygwth dwyn achos yn amhriodol, gyda'r nod allweddol o atal cyhoeddi materion o bwys cyhoeddus, fel ymchwil academaidd, chwythu'r chwiban, ymgyrchu neu newyddiaduraeth ymchwiliol. Honiadau o ddifenwi neu darfu ar breifatrwydd yw'r achosion sy'n gysylltiedig fwyaf ag Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd, ond gellid defnyddio achosion eraill o weithredu (fel torri cyfrinachedd) hefyd at y diben hwn.
Mae'n bwysig bod hawlwyr yn gallu cyflwyno hawliadau dilys ac i gyfreithwyr weithredu'n ddi-ofn er eu budd. Nid yw er budd y cyhoedd i wybodaeth ffug neu gamarweiniol gael ei chyhoeddi'n ddiangen, a gall cyfreithwyr chwarae rhan ddilys wrth annog newyddiadurwyr ac eraill i sicrhau bod yr hyn a gyhoeddir yn gyfreithiol ac yn gywir.
Ac eto, ni ddylai hyn byth ymestyn i gamddefnyddio'r broses gyfreitha, gan gyflwyno honiadau heb rinwedd neu fygwth unigolion â chamau cyfreithiol, gyda'r nod o atal neu gau'r broses o graffu'n gyfreithlon ar faterion er budd y cyhoedd.
Er nad yw'r arfer o gyfreitha ymosodol yn newydd, mae pryder sylweddol wedi bod ymysg y cyhoedd ynghylch Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd ers ymosod ar Wcráin. Cafwyd cwynion bod unigolion cyfoethog yn defnyddio cyfreithwyr i dawelu beirniadaeth ddilys. Er enghraifft, drwy fygwth newyddiadurwyr gydag achosion difenwi hyd yn oed os nad oes gan yr hawliad unrhyw rinweddau.
Rhwng mis Mai 2022 a mis Medi 2024, cawsom 82 pryder mewn perthynas ag Achosion o'r fath. O fis Medi 2024 ymlaen, rydym wedi cau 36 o faterion heb unrhyw gamau pellach. Roedd hyn naill ai oherwydd nad oedd y gŵyn wedi rhoi sail dros ganfod camymddygiad, neu oherwydd nad oedd digon o dystiolaeth i gefnogi canfyddiad. Mewn rhai achosion, ni ddaethom o hyd i dystiolaeth o Achosion o'r fath, ond daethom o hyd i faterion camymddwyn posibl eraill. Gwnaethom barhau â'n hymchwiliad, ond ni chymerwyd camau pellach mewn perthynas â phryder penodol ynghylch Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd. Rydym wedi atgyfeirio dau achos at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) ac yn parhau i ymchwilio i'r 44 sy'n weddill.
Yn 2023, fe wnaethom gyhoeddi ein hadolygiad thematig o ymddygiad mewn anghydfodau ar ôl cynnal 25 ymweliad â chwmnïau. Canfu fod angen i rai cwmnïau cyfreithiol wneud mwy i warchod rhag y risg o Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd, a mathau eraill o gyfreitha difrïol. Tynnodd yr adolygiad sylw at enghreifftiau o arferion da yn ogystal â meysydd i'w gwella. Rydym wedi mynd ar drywydd hyn gydag adolygiad thematig mwy diweddar sy'n edrych yn benodol ar Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd. Canfu fod y wybodaeth flaenorol a gyhoeddwyd gennym yn effeithiol ar y cyfan gyda'r cwmnïau hynny a oedd wedi'i darllen. Fodd bynnag, nododd hefyd rai meysydd posibl o bryder. Er enghraifft, nid oedd gan rai cwmnïau bolisïau neu brosesau clir ar waith i sicrhau bod cwmnïau cysylltiadau cyhoeddus neu ymchwilwyr preifat a oedd yn gweithredu ar eu rhan yn ymddwyn yn briodol neu'n foesegol. Ar ben hynny, ym mis Mai 2024, fe wnaethom ddiweddaru ein hysbysiad rhybuddio ar y pwnc hwn.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda'r Weinyddiaeth Gyfiawnder a rhanddeiliaid eraill fel aelod o dasglu Achosion Cyfraith Strategol yn erbyn Cyfranogaeth y Cyhoedd y llywodraeth.
Camymddwyn rhywiol
Gall honiadau o gamymddwyn rhywiol gynnwys anfon negeseuon amhriodol, gwneud sylwadau amhriodol, cyswllt corfforol heb ganiatâd ac ymosodiad rhywiol. Gall honiadau o'r fath godi yn yr amgylchedd gwaith, mewn digwyddiadau cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gwaith, neu ym mywyd preifat y cyfreithiwr. Ym mhob achos, rydym ni'n ystyried yn ofalus y cyswllt rhwng y camymddwyn honedig, ymarfer proffesiynol/ymddiriedaeth y cyhoedd, a hyder yn y proffesiwn.
Gwelsom gynnydd yn nifer yr adroddiadau am y pwnc hwn yn sgil #MeToo, pan wnaethom gyhoeddi hysbysiad rhybuddio. Rydym yn parhau i ymchwilio i adroddiadau sy'n ymwneud â chamymddwyn rhywiol bob blwyddyn.
Yn 2022, fe wnaethom ymgysylltu'n eang i ddatblygu canllawiau ar gamymddwyn rhywiol. Mae hyn yn rhoi rhagor o eglurder i'r rheini rydym yn eu rheoleiddio o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl ganddynt, yn helpu'r rheini sy'n gorfod gwneud penderfyniadau am roi gwybod i ni am ymddygiad ac yn cefnogi achwynwyr sy'n ystyried rhoi gwybod i ni am honiadau.
Rydym ni'n cydnabod bod y rhain yn faterion anodd a sensitif, ac fel yr adroddwyd o'r blaen, rydym ni wedi sefydlu tîm arbenigol i ymchwilio i'r pryderon a godwyd. Rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol i'r rheini sy'n cymryd rhan. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â sefydliadau cymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol.
Cawsom 73 o bryderon newydd yn ymwneud ag aflonyddwch rhywiol yn 2022/23. Yn ystod yr un cyfnod, fe wnaethom gau 75 o faterion. Cofiwch ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw orgyffwrdd sylweddol rhwng y pryderon a ddaeth i law ac a gafodd eu cau, gan y bydd llawer o achosion a gafodd eu cau wedi cael eu hadrodd i ni yn y flwyddyn flaenorol. Ac, oherwydd natur sensitif materion, gall gymryd mwy na blwyddyn i gynnal ein hymchwiliad.
O'r 75 mater a gaewyd gennym, gwnaethom weithredu mewn 18 achos. Fe wnaethom:
- atgyfeirio 11 o achosion at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
- cyflwyno un gorchymyn adran 43
- cau chwe mater gyda naill ai llythyr cynghori neu lythyr rhybuddio.
Ni chymerwyd camau pellach yn sgil pum deg saith o'r 75 o faterion, gydag 16 o'r rhain yn cau lle nad oedd unrhyw fater o gamymddwyn neu am resymau gweinyddol (er enghraifft, os cawsom ddau adroddiad ar wahân ynghylch yr un unigolyn neu'r un digwyddiad, byddem yn cau un). Oherwydd natur sensitif y materion, gall fod yn anodd ac yn ofidus i dystion gymryd rhan mewn ymchwiliad a rhoi tystiolaeth mewn achosion. Dyna pam ein bod wedi cau'r 41 mater a oedd yn weddill.
Ym mis Mai 2024, roedd 95 o ymchwiliadau'n parhau. Rydym yn parhau i atgyfeirio materion at y tribiwnlys lle bo angen, ac, yn 2023, cafodd enw cyfreithiwr ei dynnu oddi ar y gofrestr gan y Tribiwnlys pan na fu euogfarn droseddol – yr achos cyntaf o'i fath.
Rydym yn ystyried camymddwyn rhywiol yn un o'r materion mwyaf difrifol rydym yn delio ag ef. Yn dilyn ein hymgynghoriad ar gosbau ariannol yn 2022, fe wnaethom ddiweddaru ein Strategaeth Gorfodi i nodi, o ystyried ei ddifrifoldeb, bod camymddwyn rhywiol yn anaddas ar gyfer cosb ariannol, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol. Y rheswm dros hyn yw bod yr agweddau a'r ymddygiad sylfaenol sy'n cael eu harddangos yn peri risg o'r fath i'r cyhoedd neu i gydweithwyr, eu bod yn anghydnaws â'r hawl barhaus anghyfyngedig i ymarfer. Felly, yn yr achosion hyn, mae'n debygol y bydd angen gwahardd neu ddiswyddo o'r proffesiwn er mwyn cynnal hyder y cyhoedd ym mhroffesiwn y cyfreithwyr ac mewn gwasanaethau cyfreithiol. Gall dirwyon hefyd roi'r argraff ein bod yn ceisio mesur lefel y niwed yn amhriodol. Mae rhagor o wybodaeth am ein dull gweithredu ar gael yn ein Strategaeth Gorfodi ac yn ein datganiad ar y cyd â'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ar atgyfeiriadau at y Tribiwnlys.
Cytundebau peidio â datgelu
Mae defnyddio Cytundebau Peidio â Datgelu i atal datgelu drwgweithredu yn fater difrifol. Mae mwy o sylw wedi cael ei roi i'r maes hwn, o ystyried ei berthynas â materion fel #MeToo. Mae gan achosion eraill y potensial i fod yn uchel eu proffil oherwydd testun yr anghydfod neu'r partïon dan sylw, a gellir cuddio'r ddau drwy ddefnyddio Cytundebau o'r fath.
Mae modd defnyddio cytundeb peidio â datgelu yn gyfreithlon ac nid yw cytundebau o'r fath yn anghyfreithlon nac yn anfoesegol ynddynt eu hunain. Rydym yn pryderu ynghylch Cytundebau sy'n ceisio cyfyngu ar ddatgelu camymddwyn i reoleiddiwr, neu adrodd am drosedd i'r heddlu (er nad oes modd gorfodi cymalau o'r fath).
Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr nad yw'r rheini rydym ni'n eu rheoleiddio yn manteisio'n annheg ar eu parti sy'n gwrthwynebu wrth lunio Cytundeb o'r fath. Os yw'r parti sy'n gwrthwynebu yn agored i niwed neu heb gynrychiolaeth, mae mwy o reidrwydd ar gyfreithiwr i sicrhau nad yw'r sefyllfa'n cael ei chamddefnyddio, neu fod mantais annheg yn cael ei chymryd. Mae'n ddigon posibl y bydd cyfreithwyr sy'n llunio cytundebau o'r fath yn methu â gweithredu'n onest a chynnal rheolaeth y gyfraith. Gellid canfod eu bod wedi methu â chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y proffesiwn cyfreithiol.
Ym mis Awst 2023, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad ar sut mae Cytundebau Peidio â Datgelu yn cael eu paratoi rhwng cyflogwyr a'u staff, a rôl cwmnïau cyfreithiol wrth ddrafftio a chytuno ar y rhain. Ymysg y materion a nodwyd yw'r angen i gyfreithwyr fod yn ymwybodol o anghydbwysedd pŵer posibl rhwng cyflogwyr a gweithwyr, ac i beidio â chaniatáu i gymalau gael eu cynnwys a allai atal adrodd am ymddygiad amhriodol i asiantaethau gorfodi'r gyfraith neu gyrff rheoleiddio.
Er na ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth uniongyrchol bod cwmnïau'n mynd ati'n fwriadol i geisio atal rhoi gwybod am ddrwgweithredu, fe wnaethom ganfod enghreifftiau o dueddiadau ac arferion sy'n peri pryder, a allai atal neu lesteirio datgeliadau. Roedd y materion a nodwyd yn yr adroddiad yn cynnwys:
- Dim ond chwarter y cwmnïau y buom yn siarad â nhw oedd wedi holi cleient erioed a oedd Cytundeb Peidio â Datgelu yn briodol.
- Roedd cwmnïau'n aml yn dangos gorddibyniaeth ar dempledi Cytundeb Peidio â Datgelu heb eu diwygio i raddau helaeth. Er bod templedi'n gallu bod yn ddefnyddiol, dylai cwmnïau ofalu bod y telerau'n gyfredol, yn briodol, yn adlewyrchu'r amgylchiadau ac yn diogelu eu cleient.
- Yn gyffredinol, roedd cwmnïau'n ystyried bod Cytundebau Peidio â Datgelu yn risg isel ac yn weithgarwch eithaf di-lol. Mae hyn, ochr yn ochr â dibyniaeth cwmnïau ar dempledi, yn peri pryder, gan y gall arwain at rywfaint o hunanfodlonrwydd ynghylch cwmpas, perthnasedd a risgiau'r Cytundebau Peidio â Datgelu.
Yn 2022/23, fe wnaethom ymchwilio i 24 achos yn ymwneud â Chytundebau Peidio â Datgelu. Roedd naw o'r rhain yn ymchwiliadau newydd a gawsom yn ystod y flwyddyn a gwnaed 15 yn ystod y blynyddoedd blaenorol. O'r 24, gwnaethom gau 13 o achosion. Caewyd chwech o'r rhain heb unrhyw gamau pellach a chaewyd saith gyda llythyrau cynghori neu rybuddio. Ddiwedd 2022/23, fe wnaethom barhau i ymchwilio i'r 11 achos arall.
Bwlio ac aflonyddu yn y gweithle
Yn 2022/23, fe wnaethom ymchwilio i 22 achos newydd yn ymwneud â'r mater hwn. Yn yr un cyfnod, fe wnaethom gau 13 mater, gan gyhoeddi un llythyr o rybudd a gwneud un atgyfeiriad at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gyda gweddill yr achosion (11) yn cau heb unrhyw gamau pellach. Cofiwch ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw orgyffwrdd sylweddol rhwng y pryderon a ddaeth i law ac a gafodd eu cau, gan y bydd llawer o achosion a gafodd eu cau wedi cael eu hadrodd i ni yn y flwyddyn flaenorol. Ac, oherwydd natur sensitif materion, gall gymryd mwy na blwyddyn i gynnal ein hymchwiliad.
Byddwn wedi cau nifer fach oherwydd tystiolaeth annigonol. Cafodd y rhan fwyaf o achosion eu cau heb unrhyw gamau pellach oherwydd heriau o ran cydweithrediad tystion. Gall yr achosion hyn beri gofid i dystion, a all benderfynu nad ydynt am fwrw ymlaen â'r ymchwiliad.
Gall bwlio neu ddiwylliant gwenwynig yn y gweithle effeithio'n sylweddol ar les ac iechyd meddwl staff cwmni. Gall hefyd arwain at gamgymeriadau a chanlyniadau gwael i gleientiaid - neu bryderon moesegol difrifol, er enghraifft pan fydd staff yn teimlo dan bwysau i gelu problemau.
Yn 2022, fe wnaethom gyhoeddi canllawiau a chyflwyno rheolau newydd ar ddiwylliant y gweithle ac amgylchedd gwaith iach i gwmnïau. Mae'n canolbwyntio ar yr angen i gael polisïau, systemau a rheolaethau priodol ar waith er mwyn lleihau'r risg y bydd y math hwn o sefyllfa'n codi. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi adolygiad thematig i ddeall y materion yn well ac i dynnu sylw at arferion da sy'n digwydd mewn cwmnïau.
Gweithredu pan fo nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr
Weithiau, mae digwyddiadau penodol a methiannau ar draws y farchnad yn arwain at nifer uchel o ddefnyddwyr a allai fod â hawl i gamau unioni. Gall hyn gynhyrchu llawer iawn o hawliadau posibl a gwirioneddol. Un enghraifft hysbys oedd cam-werthu yswiriant gwarchod taliadau. Gall cwmnïau cyfreithiol gynghori, cefnogi a chynrychioli pobl yn yr amgylchiadau hyn. Ac eto, hyd yn oed wrth ddelio â nifer fawr o achosion tebyg – er enghraifft, gyda nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr – rhaid i bob achos gael ei gyflwyno'n briodol.
Mae ein hymchwiliadau i'r hawliadau hyn yn cynnwys cyllid ceir, cyfrifon banc wedi'u pecynnu, diffyg atgyweirio cyflwr tŷ ac inswleiddio waliau ceudod. Yn 2022/23, fe wnaethom weithio ar 37 ymchwiliad, gyda 12 ohonynt yn newydd ar gyfer y flwyddyn. Mewn rhai achosion, nid ydym wedi canfod unrhyw dystiolaeth o gamymddwyn difrifol. Fodd bynnag, mewn ymchwiliadau eraill sy'n parhau, rydym yn edrych ar faterion lle nad yw cyfreithwyr o bosibl yn cyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl. Er enghraifft, os nad yw cyfreithiwr yn ymchwilio i weld a yw'r hawliad yn ddilys cyn ei wneud, neu nid ydynt yn cynghori cleientiaid ynghylch eu dewisiadau a'r hyn a ddisgwylir ganddynt wrth wneud hawliad. Rydym hefyd yn pryderu bod rhai cwmnïau wedi bod yn sicrhau cleientiaid drwy roi gwybodaeth anghyflawn neu gamarweiniol iddynt, ac nad yw gwaith rhai cwmnïau'n cael ei oruchwylio'n ddigonol.
Byddwn yn cymryd camau cadarn wrth ganfod achos o gamymddwyn. Yn 2023, fe wnaethom roi dirwy o £45,000 i gwmni a oedd yn delio â hawliadau torfol am ad-daliadau banc. Canfuom nad oedd y cwmni wedi cynnal digon o ddiwydrwydd dyladwy o ran cleientiaid ac wedi gweithredu'n groes i gyfarwyddiadau cleientiaid, ymysg achosion eraill o dorri ein rheolau.
Ers diwedd blwyddyn adrodd 2022/23, mae ein pryderon ynghylch y risgiau posibl i'r cyhoedd o ran nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr yn cynyddu. Rydym yn gweld amrywiaeth o faterion newydd a rhai sy'n peri pryder yn dod i'r amlwg.
Mae hyn yn cynnwys niwed sylweddol i ddefnyddwyr yn achos y cwmni cyfreithiol SSB Group (SSB). Ddiwedd 2023, cawsom adroddiadau bod cleientiaid SSB yn cael cais annisgwyl i dalu costau cyfreithiol niweidiol mewn perthynas â'u hawliadau cyfreitha o ran inswleiddio waliau ceudod a ddaeth i ben.
Roedd SSB wedi trefnu yswiriant ar ôl y digwyddiad i gleientiaid i dalu costau'r ochr arall mewn perthynas â'u hawliadau am inswleiddio waliau ceudod ar sail 'dim llwyddiant, dim ffi'. Fodd bynnag, gwrthododd y darparwyr yswiriant ar ôl y digwyddiad ddiwallu'r costau yn ôl y disgwyl dan y polisi yswiriant, ac felly mae'r diffynyddion wedi mynd ar ôl cleientiaid SSB am gostau. Mae SSB hefyd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Rydym yn ymchwilio i SSB a chwmni arall sy'n ymwneud â'r mater hwn – Pure Legal. Aeth i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Tachwedd 2021. Cafodd rhai o ffeiliau Pure Legal eu trosglwyddo i SSB a chwmnïau eraill ar ôl i Pure Legal fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Rydym yn disgwyl i gyfreithwyr ddarparu gwasanaeth cymwys a gweithredu er budd gorau eu cleientiaid. Rydym yn ymchwilio i weld a wnaeth SSB a Pure Legal weithredu'n unol â'n safonau proffesiynol.
Rydym yn bryderus o ran y trallod sylweddol i gleientiaid y gofynnir iddynt dalu costau yn yr achosion hyn. Rydym wedi rhoi gwybod i gyn-gleientiaid yr effeithiwyd arnynt am eu dewisiadau ar gyfer gwneud iawn, yr angen i ystyried yn ofalus yr hyn sy'n iawn i'w hamgylchiadau, ac y gallai fod angen iddynt geisio cyngor cyfreithiol. Mae ein hymchwiliad yn parhau a'n nod yw ei gwblhau yn y flwyddyn newydd. Mae mwy o wybodaeth ar ein gwefan.
Mae'r achosion hyn yn codi cwestiynau ehangach am ddiogelu'r cyhoedd sy'n berthnasol i nifer o feysydd a sectorau, gan gynnwys yswiriant, cwmnïau rheoli hawliadau, cyllid cyfreitha a gwasanaethau cyfreithiol. Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys rheoleiddwyr eraill, i archwilio'r materion hyn ac a oes angen newidiadau i ddiogelu'r cyhoedd yn well.
Rydym hefyd wedi bod yn ailbwysleisio ein disgwyliadau i'r rheini sy'n gweithredu parthed nifer uchel o hawliadau gan ddefnyddwyr. Rydym wedi cyhoeddi hysbysiad rhybuddio i'r proffesiwn yn ogystal â chanllawiau ar ddelio â hawliadau torfol.
Yn ogystal, ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom gau ymgynghoriad ar reolau i gyfyngu ar godi ffioedd gormodol mewn hawliadau am gam-werthu ariannol. Cyflwynodd yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol reolau o'r fath ar gyfer y cyrff mae'n eu rheoleiddio yn 2022. Yn dilyn yr ymgynghoriad, ar 26 Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyflwyno rheolau newydd i gyfyngu ar godi ffioedd gormodol.
Atal gwyngalchu arian
Mae'r sector cyfreithiol yn ddeniadol i droseddwyr oherwydd ei fod yn gallu rhoi'r argraff o ddilysrwydd i'r broses o ddal neu drosglwyddo arian a geir o weithgarwch troseddol. Mae cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr yn aml yn dal symiau mawr o arian yn eu cyfrifon cleientiaid a gallant drosglwyddo arian drwy eiddo neu drafodion eraill. Mae ein gwaith ar wyngalchu arian yn cael ei adrodd yn ôl i flwyddyn ariannol wahanol, felly sylwch fod yr ystadegau canlynol yn perthyn i'r cyfnod rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023.
Yn y flwyddyn adrodd, gwelsom fod 51% o asesiadau risg ar gyfer cleientiaid a materion wedi methu ag asesu risg yn ddigonol o ganlyniad i'n gwaith rhagweithiol i wirio cydymffurfiaeth. Mae'r asesiadau hyn yn bolisïau a gweithdrefnau y mae'n rhaid i gwmnïau eu rhoi ar waith i helpu i fynd i'r afael â'r risg y bydd eu busnes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gwyngalchu arian. Rydym yn monitro cwmnïau'n ofalus i wneud yn siŵr bod y rheolaethau hyn yn effeithiol, yn cael eu defnyddio'n dda ac yn cael eu cynnal, gan gwblhau adolygiadau thematig ochr yn ochr â'n gwaith arolygu ac ymchwilio arferol. O ganlyniad i'r canfyddiadau ar asesiadau risg o ran materion neu gleientiaid, rydym wedi gwneud y canlynol:
- rhoi hysbysiad rhybuddio i gwmnïau, sy'n nodi y gallai methu â chydymffurfio â'r hysbysiad rhybuddio arwain at gamau disgyblu, erlyniad troseddol, neu'r ddau
- cyhoeddi templed asesu risg ar gyfer cleientiaid a materion
- cynnal gweminar ar sut i gwblhau asesiadau risg ar gyfer cleientiaid a materion.
Rydym wedi gweld gwelliant sylweddol yn y maes hwn o ganlyniad i'r gweithgarwch hwn, a wnaed rhwng mis Hydref 2023 a mis Chwefror 2024. Roeddem o'r farn bod 12% o'r asesiadau'n aneffeithiol o fis Ebrill 2024.
Fel rhan o'n gweithgarwch ehangach yn ystod y flwyddyn adrodd, cynhaliwyd cyfanswm o 177 arolygiad o gwmnïau, gyda 73 o adolygiadau desg eraill. Cafodd 249 o adroddiadau am achosion posibl o atal gwyngalchu arian eu gwneud i ni – sy'n debyg i nifer y blynyddoedd blaenorol, gyda 252 yn 2021/22 a 273 yn 2020/21. Roedd y themâu mwyaf cyffredin a welsom mewn adroddiadau am atal gwyngalchu arian yn cynnwys:
- methu â chael polisïau a gweithdrefnau atal gwyngalchu arian priodol yn eu lle
- methu â chynnal gwiriad ffynhonnell cyllid
- methu â chynnal asesiad risg gwyngalchu arian.
Arweiniodd pedwar deg saith o gamau gorfodi at gyfanswm o £137,402 o ddirwyon o fewn y cyfnod a nodir uchod. Fe wnaethom hefyd wneud 24 o adroddiadau gweithgarwch amheus yn ymwneud ag asedau yn werth mwy na £75m i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Gallwch ddarllen rhagor am hyn yn ein hadroddiad atal gwyngalchu arian 2022/23.
I helpu cwmnïau i gydymffurfio â'r rheoliadau gwyngalchu arian, rydym wedi diweddaru'r adnoddau sydd gennym. Mae'r rhain yn cynnwys cyhoeddi templed risg newydd ar gyfer cleientiaid a materion, canllawiau diwygiedig ar asesiadau risg ar draws cwmnïau, a chanllawiau Grŵp Cyswllt y Sector Cyfreithiol (LSAG) ar beth y gall cwmnïau ei wneud i helpu i fynd i'r afael â gwyngalchu arian. Mae'r Grŵp Cyswllt yn cynnwys goruchwylwyr atal gwyngalchu arian a chyrff cynrychioliadol yn y sector gwasanaethau cyfreithiol.
Cynlluniau buddsoddi amheus
Rydym yn parhau i ymchwilio i faterion cyfreithwyr yn ymwneud â chynlluniau buddsoddi amheus neu beryglus ac, yn 2022/23, fe wnaethom agor 21 o faterion newydd.
Yn ystod y blynyddoedd diweddar, rydym ni wedi rhybuddio dro ar ôl tro ynghylch y risgiau y mae cynlluniau buddsoddi amheus yn eu peri. Mae'r cynlluniau hyn yn dwyllodrus o bosibl, felly mae risg uchel eu bod yn annheg i brynwyr neu fuddsoddwyr.
Ar ôl blynyddoedd o gyfraddau llog isel, mae'n bosib bod llawer o bobl wedi canfod bod cynlluniau buddsoddi sy'n cynnig enillion uchel yn ddeniadol. Gall cynnwys cyfreithwyr helpu i roi'r argraff bod cynllun yn ddilys ac, mewn llawer o achosion, nid yw ymwneud cwmni cyfreithiol â chynllun buddsoddi yn rhan o fusnes arferol cwmni neu gyfreithiwr, sy'n golygu nad yw ein cronfa iawndal (ac yswiriant y cwmni yn aml) yn gallu helpu i adfer yr arian y mae pobl wedi'i golli.
Mae'r mathau o gynlluniau buddsoddi yn amrywio. Mae'r achosion a agorwyd yn ddiweddar yn cynnwys ystafelloedd gwesty, prydlesi cartrefi gofal, ystafelloedd myfyrwyr oddi ar y cynllun a phodiau parcio/storio.
Rydym yn parhau i gymryd camau yn erbyn cyfreithwyr, cwmnïau ac unigolion nad ydynt wedi bodloni'r safonau rydym yn eu disgwyl wrth roi cyngor neu ddelio â materion o'r fath.
Yn 2023, fe wnaethom roi gorchymyn adran 43 i gyfarwyddwr a pherchennog cwmni. Gwelsom eu bod wedi rhoi cyngor annigonol i gleientiaid am risgiau cynllun buddsoddi elw uchel sy'n gydnaws â nodweddion cyffredin trefniant ariannol twyllodrus. Mae'r gorchymyn adran 43 yn golygu bod y cyfarwyddwr wedi'i wahardd rhag ymarfer mewn unrhyw gwmni rydym yn ei reoleiddio. Fe'u gorchmynnwyd hefyd i dalu ein costau.
Mewn achos a atgyfeiriwyd gennym at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2023, canfuwyd bod cyfreithiwr wedi defnyddio ei gyfrif cleient fel cyfleuster bancio. Roedden nhw hefyd wedi gweithredu ar ran prynwyr a gwerthwyr ar gynllun datblygu eiddo, gan arwain at risgiau gwirioneddol a/neu sylweddol o wrthdaro buddiannau. Cafodd yr unigolyn ddirwy o £45,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau ychydig dros £29,000. Gosodwyd amodau ar eu tystysgrif ymarfer hefyd.
Mewnfudo
Mae mewnfudo a lloches yn feysydd cyfraith risg uchel ac mae cleientiaid yn aml yn agored iawn i niwed, a gall canlyniadau ac effaith y penderfyniadau fod yn sylweddol. Ym mis Gorffennaf 2023, fe wnaethom ymchwilio i dri chwmni cyfreithiol a'u cau ar ôl i adroddiadau yn y cyfryngau honni bod tri chyfreithiwr, pob un yn gweithio yn eu cwmnïau eu hunain, yn annog eu cleientiaid i gyflwyno hawliadau ffug am loches a hawliau dynol. Roeddent hefyd yn codi gormod ar gleientiaid am waith. Rydym wedi atgyfeirio'r materion hyn at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Ym mis Medi 2023, fe wnaethom gyhoeddi hysbysiad rhybuddio ynghylch y maes hwn, gan atgoffa cyfreithwyr a chwmnïau o'u rhwymedigaethau a'r hyn y mae angen iddynt ei wneud i sicrhau eu bod yn gweithredu'n unol â'n rheolau. Fe wnaethom ymchwilio i gyfanswm o 16 cwmni mewn perthynas â materion mewnfudo yn 2022/23, ac, ym mis Gorffennaf 2024, fe wnaethom gyhoeddi adroddiad thematig ynghylch cwmnïau sy'n ymarfer yn y maes hwn.
Cyhoeddi gwybodaeth allweddol i ddefnyddwyr ar wefannau cwmnïau cyfreithiol
Cyflwynwyd ein Rheolau Tryloywder ym mis Rhagfyr 2018, sy'n golygu y dylai cwmnïau sydd â gwefan gyhoeddi gwybodaeth sylfaenol, ddangosol am bris rhai gwasanaethau, manylion am bwy allai wneud y gwaith, a llwybrau ar gyfer cwyno. Dylent hefyd ddangos ein logo cliciadwy, a wnaed yn orfodol ym mis Rhagfyr 2019, i helpu egluro'r diogelwch mae'r cyhoedd yn ei gael drwy ddefnyddio cwmni cyfreithiol wedi'i reoleiddio.
Canfu ymchwil a gyhoeddwyd yn 2023 fod y rheolau'n cael effaith gadarnhaol. Dywedodd dros hanner y rhai a holwyd eu bod wedi cymharu gwybodaeth am bris a gwasanaeth cyn dewis darparwr wrth chwilio am wasanaethau cyfreithiol. Unwaith eto, dywedodd dros hanner y rheini a holwyd eu bod yn cymharu costau darparwyr gwahanol a'i bod yn hawdd gwneud hynny ar-lein. Ac roedd dros hanner yr unigolion a oedd yn mynd ar wefan cwmni cyn eu cyfarwyddo yn cofio gweld logo cliciadwy'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr, gyda'r mwyafrif yn dweud ei fod wedi'u helpu i ddeall y diogelwch y byddent yn ei gael.
Er bod y mwyafrif helaeth o'r cwmnïau cyfreithiol a holwyd yn dweud eu bod yn cydymffurfio â gwahanol elfennau'r rheolau tryloywder, dim ond 42% ddywedodd eu bod yn cyhoeddi'r holl wybodaeth ofynnol.
Mae ein hapwiriadau ein hunain yn awgrymu, hyd yn oed ymysg cwmnïau sy'n datgan eu bod yn cydymffurfio, nad yw llawer ohonynt yn bodloni holl ofynion y rheolau. Rydym wedi rhoi cymorth i gwmnïau wneud hyn yn gywir a byddwn yn parhau i wneud hynny, ond, lle nad yw cwmnïau'n rhoi'r math o wybodaeth y mae'r cyhoedd yn ei disgwyl a'n rheolau wedi'u nodi, rydym yn gweithredu.
Mae ein gwaith parhaus i wirio lefelau cydymffurfio yn y maes hwn, a ddechreuodd yng nghanol 2023, yn ogystal ag ymchwiliadau parhaus yn ymwneud â'r Rheolau Tryloywder, yn golygu ein bod wedi:
- cynnal adolygiadau o 1,836 o gwmnïau
- sicrhau bod 527 cwmni yn cydymffurfio eto drwy ymgysylltiad
- anfon llythyr rhybuddio at 439 o gwmnïau
- rhoi cosb benodedig i 36 o gwmnïau.
Dyma'r ffigurau ym mis Awst 2024. Pan wnaethom gyhoeddi cosbau ariannol penodedig sy'n ymwneud â thorri'r Rheolau Tryloywder, roedd achosion o dorri'r rheolau'n cynnwys:
- methu â chyhoeddi gwybodaeth sy'n egluro prif gyfnodau ac amserlenni tebygol gwasanaethau
- methu â chyhoeddi manylion am brofiad a chymwysterau'r rhai sy'n gweithio ar rai, neu ar bob un, o'r meysydd gwasanaeth sy'n dod o dan y rheolau
- methu â chynnwys gwybodaeth am gostau alldaliadau a TAW mewn prisiau cyhoeddedig.
Byddwn yn parhau i weithredu pan fyddwn yn gweld cwmnïau'n methu â chydymffurfio â'r Rheolau Tryloywder.
Mae dwy brif ffordd i ni wirio cydymffurfiaeth â'n rheolau a chymryd camau gweithredu:
- Gwiriadau rhagweithiol: rydym yn cynnal gwiriadau rhagweithiol ac yn asesu cydymffurfiaeth cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol â meysydd penodol o'n rheolau. Yn yr achosion hyn, gallwn ymgysylltu â chwmnïau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio eto neu gallwn gymryd camau rheoleiddio. Os yw'r achos o dorri ein rheolau yn fwy difrifol, gallwn ymchwilio i'r mater a chyhoeddi sancsiwn mwy difrifol neu atgyfeirio'r mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
- Asesu adroddiadau am bryderon: rydym ni'n asesu'r adroddiadau am bryderon a ddaw i law, sy'n bennaf gan y cyhoedd neu'r cwmnïau cyfreithiol rydym ni'n eu rheoleiddio. Os oes angen, byddwn yn atgyfeirio achosion ar gyfer ymchwiliad. Gall canlyniad ymchwiliad fod yn sancsiwn neu'n rheolaeth rydym ni'n ei rhoi, neu gallwn atgyfeirio'r mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Mae rhagor o wybodaeth am bob un o'r meysydd hyn ar gael isod.
Gwiriadau rhagweithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'n rheolau
Os oes gennym bryderon bod cwmnïau cyfreithiol neu gyfreithwyr yn methu â dilyn set benodol o'n rheolau, neu os oes gennym bryderon am ymddygiad mewn maes ymarfer penodol, gallwn gynnal gwiriadau rhagweithiol i sicrhau cydymffurfiaeth.
Gall y gwaith hwn gynnwys mynd ati i adolygu ffeiliau cwmni, archwilio safle ac adolygu gwefannau cwmnïau cyfreithiol. Mae'r meysydd lle rydym wedi gwneud y math hwn o waith yn cynnwys arolygu cydymffurfiad â rheoliadau gwyngalchu arian, gwiriadau penodol i sicrhau cydymffurfiaeth â'n Rheolau Tryloywder a gofynion cydymffurfio ehangach.
Efallai na fydd canlyniad y gwaith hwn yn golygu unrhyw gamau pellach, os gwelwn fod cwmnïau a chyfreithwyr yn bodloni'r safonau a ddisgwyliwn. Pan fyddwn yn gweld bod cwmnïau cyfreithiol neu gyfreithwyr wedi methu â chydymffurfio, gallwn anfon llythyr rhybuddio neu lythyr cynghori atynt neu roi cosb ariannol benodedig. Yn dibynnu ar natur a math y tor-amod, gallwn atgyfeirio'r mater drwy ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar. Gall hyn wedyn arwain at atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad. Yn yr achosion hyn, byddai'r mater yn mynd drwy'r camau a nodir o dan 'Asesu adroddiadau am bryderon'.
Asesu adroddiadau am bryderon
Mae'r isod yn nodi camau allweddol ein proses ymchwilio a gorfodi – o ble rydyn ni'n ystyried adroddiadau am bryderon i ddechrau, hyd at unrhyw gamau rheoleiddio neu atgyfeiriad at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Gellid dod ag adroddiad a wnaed am gyfreithiwr neu gwmni i ben yn ystod unrhyw un o'r camau canlynol.
Cam 1: Mae ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar yn cael adroddiadau am bryderon
Rydym yn ystyried adroddiadau am bryderon yn drwyadl drwy lens ein Strategaeth Gorfodi ac yn defnyddio dull sy'n canolbwyntio ar y cwsmer wrth ymgysylltu â'r bobl sydd wedi cyflwyno adroddiadau i ni. Mae'r adran ffynhonnell yr adroddiadau yn cynnwys rhagor o wybodaeth am bwy sy'n rhoi gwybod i ni am bryderon.
Rydym yn defnyddio prawf trothwy asesu sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfodi i'n helpu i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad. Er mwyn symud ymlaen i'r cam ymchwilio, rhaid i achos basio pob un o'r tri phrawf yn yr asesiad:
- A oes posibilrwydd bod ein Safonau a'n Rheoliadau wedi cael eu torri ar sail yr honiadau a wnaed?
- A yw'r tor-amod posibl yn ddigon difrifol, ac os caiff ei brofi, a yw'n gallu arwain at gamau rheoleiddio?
- A oes modd profi'r tor-amod hwnnw?
Bydd tua 80% o'r holl bryderon a ystyriwyd yn ystod y cam asesu yn cael eu cau oherwydd nad ydynt yn bodloni o leiaf un o'r profion hyn. Ar ben hynny, byddwn yn cau achosion lle:
- Rydym ni'n ailgyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Cyfreithiol (LeO). Mae'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Rydym yn anfon materion perthnasol ato ac fel arall.
- Mae angen inni ailgyfeirio'r mater yn fewnol. Rydym ni'n gwneud hyn os oes materion y mae angen i ni weithredu arnynt, ond eu bod yn ymwneud â mater nad yw ar gyfer ein timau ymchwilio – er enghraifft, gallai fod yn gais i hawlio o'n cronfa iawndal neu'n ymholiad sy'n ymwneud ag awdurdodi.
Cam 2: Mae achosion yn pasio ein prawf trothwy asesu ac rydym yn ymchwilio
Ar ôl i adroddiad am bryderon basio drwy ein prawf trothwy asesu, byddwn yn ymchwilio yn y rhan fwyaf o achosion. Mewn cyfran fach o achosion yn ystod y cam hwn, byddwn yn cau'r achos gyda llythyr cynghori neu lythyr rhybuddio, heb fod angen ei atgyfeirio ar gyfer ymchwiliad. Dyma lle mae ein rheolau wedi cael eu torri, ond mae amgylchiadau'n dangos nad oes unrhyw bryder sylfaenol o ran budd y cyhoedd.
Bydd ymchwiliad yn golygu siarad â phartïon sy'n ymwneud â'r mater ac, fel arfer, gofyn am ragor o wybodaeth. Efallai mai'r partïon hyn yw'r sawl a gododd y pryder gyda ni a'r cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu drydydd parti. Pan fydd angen, byddwn yn casglu dogfennau a thystiolaeth. Byddwn yn ysgrifennu neu'n siarad â'r cwmni neu'r cyfreithiwr, gan nodi ein pryderon yn ffurfiol. Maen nhw'n cael cyfle i ymateb. Rydym ni'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r partïon drwy gydol yr ymchwiliad. Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn, er bod achosion mwy cymhleth yn gallu cymryd mwy o amser.
Cam 3: Rydym ni'n dod ag ymchwiliad i ben
Ar ôl i ni gwblhau ein hymchwiliad, mae gwahanol ganlyniadau posibl yn cynnwys:
- Ni fyddwn yn cymryd unrhyw gamau: byddwn yn gwneud hyn mewn achosion os byddwn yn canfod nad yw'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein safonau na'n rheoliadau. Yn yr achosion hyn, byddwn bob amser yn egluro ein canfyddiadau a pham nad ydym yn cymryd camau i'r bobl a roddodd wybod i ni am y mater yn y lle cyntaf, yn ogystal â'r cwmni neu'r unigolion sydd wedi bod yn destun ymchwiliad. Mewn rhai achosion, efallai y byddwn hefyd yn cau ymchwiliad heb weithredu, ac er gwaethaf ein hymdrechion gorau, ni allwn gael y dystiolaeth ofynnol i fwrw ymlaen ag achos – er enghraifft, efallai y bydd anawsterau o ran cydweithrediad tystion.
- Rydym yn datrys y mater drwy ymgysylltu'n adeiladol â'r cwmni: mae hyn yn digwydd pan fydd yr achos o dorri ein safonau neu ein rheoliadau yn fach, nid oes risg barhaus nac yn y dyfodol i'r cyhoedd, mae'r cwmni neu'r cyfreithiwr wedi cymryd camau cyflym i ddatrys y mater ac wedi mynd ati'n gydweithredol ac yn adeiladol i ddatrys y mater.
- Rydym ni'n cymryd camau rheoleiddio, fel cyhoeddi llythyr cynghori neu lythyr rhybuddio, gosod sancsiwn, fel dirwy, neu osod rheolaeth, fel cyfyngiadau ar dystysgrif ymarfer.
- Rydym yn atgyfeirio'r achos at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (gweler cam 4, isod).
Cam 4: Rydym yn atgyfeirio'r mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ac mae'n gwneud penderfyniad
Mae'r achosion mwyaf difrifol yn cael eu hatgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'n ystyried y mater ac yn penderfynu a ddylid cynnal gwrandawiad. Os bydd gwrandawiad, bydd y Tribiwnlys yn penderfynu a yw'n briodol rhoi sancsiwn. Gallwn ni a'r cyfreithwyr a/neu'r cwmnïau cysylltiedig apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys. Mae gan yr adrannau ar gyflwyno achos gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a'r broses apeliadau fwy o wybodaeth.
Mae ein proses asesu a datrys yn gynnar yn golygu ein bod yn siarad ymhellach, yn ôl yr angen, â'r unigolyn sydd wedi rhoi gwybod i ni am gwmni neu gyfreithiwr, y cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw a/neu unrhyw drydydd parti perthnasol. Mae hyn yn ein galluogi i gael gwybodaeth, ei chasglu a'i dilysu. Mae hyn yn aml yn rhoi cyfle i ddatrys y mater yn gynnar.
Lle bo angen, byddwn yn cymryd datganiadau tystion, yn ymweld â chwmnïau'n bersonol ac yn dadansoddi tystiolaeth, er enghraifft, cyfrifon banc, datganiadau ariannol a dogfennau eraill.
Rydym yn defnyddio prawf trothwy asesu tri cham sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r Strategaeth Gorfodi i'n helpu i benderfynu a ddylid cynnal ymchwiliad. Er mwyn symud ymlaen i'r cam ymchwilio, rhaid i achos basio pob un o'r tri phrawf yn yr asesiad. Rydym yn ystyried:
- A oes posibilrwydd bod ein Safonau a'n Rheoliadau wedi cael eu torri ar sail yr honiadau a wnaed?
- A yw'r tor-amod posibl yn ddigon difrifol, ac os caiff ei brofi, a yw'n gallu arwain at gamau rheoleiddio?
- A oes modd profi'r tor-amod hwnnw?
Ni fydd pryder yn pasio'r prawf hwn oni bai mai 'oes/ydi' yw'r atebion i bob un o'r tri chwestiwn. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn gofyn am y wybodaeth honno i'n helpu i benderfynu. Cawn ein harwain gan y Strategaeth Gorfodi pan fyddwn yn ystyried pob cam o'r prawf. Byddwn yn dweud wrth y sawl a roddodd wybod i ni am y pryder os a phan fyddwn yn penderfynu ymchwilio i'r mater. Byddwn hefyd yn darparu ein rhesymau a'u hesbonio os byddwn yn penderfynu peidio ag ymchwilio.
Ar ben hynny, mae'n bosibl na fydd achosion yn mynd rhagddynt, a byddant yn cael eu cau yn yr achosion canlynol:
- Rydym ni'n ailgyfeirio'r mater at yr Ombwdsmon Cyfreithiol (LeO). Mae'r Ombwdsmon Cyfreithiol yn delio â chwynion am safon gwasanaeth cwmni cyfreithiol neu gyfreithiwr. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol. Rydym yn anfon materion perthnasol ato ac fel arall.
- Mae angen inni ailgyfeirio'r mater yn fewnol. Rydym ni'n gwneud hyn os oes materion y mae angen i ni weithredu arnynt, ond eu bod yn ymwneud â mater nad yw ar gyfer ein timau ymchwilio – er enghraifft, gallai fod yn gais i hawlio o'n cronfa iawndal neu'n ymholiad sy'n ymwneud ag awdurdodi.
Gallwn hefyd roi llythyr cynghori neu rybuddio ynghylch ymddygiad cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall rydym yn ei reoleiddio yn y dyfodol yn ystod y cam hwn. Yn yr achosion hyn, bydd y mater wedi pasio ein prawf trothwy asesu. Mae hyn yn digwydd mewn nifer fach o achosion yn ystod y cam hwn ac mae'n ein galluogi i gau materion yn gyflym ac yn effeithlon gyda'r ymateb rheoleiddio priodol.
Nifer yr adroddiadau mae ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar yn eu cael a'u prosesu bob blwyddyn
Dros y chwe blynedd diwethaf, ar gyfartaledd, rydym ni wedi cael tua 10,500 o adroddiadau bob blwyddyn yn codi pryderon am y cyfreithwyr a'r busnesau cyfreithiol rydym ni'n eu rheoleiddio.
Mae'r tabl isod yn dangos nifer yr adroddiadau a dderbyniwyd gan ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar (AERT) a'r nifer yr ymdriniwyd â hwy yn yr un cyfnod. Ar ôl i'r Tîm ddelio ag ef, mae nifer o ganlyniadau posibl ar gyfer adroddiad. Mae'r rhain wedi'u manylu yn yr: 'Adran golwg gyffredinol ar ein prosesau ymchwilio a gorfodi' a gellir gweld y niferoedd yn ôl canlyniad yn yr adran nesaf: 'Canlyniadau adroddiadau a gyflwynwyd i ni yn 2022/23'.
Cofiwch nad oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a'r nifer yr ymdrinnir â hwy yn yr un cyfnod o 12 mis. Y rheswm am hyn yw na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Oherwydd natur ein gwaith Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar, efallai y bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth gan y partïon dan sylw, yn ogystal ag ystyried yn ofalus natur gymhleth y materion sy'n cael eu hadrodd i ni. Bydd ysbaid hefyd pan fydd adroddiadau'n cael eu gwneud ac yn cael sylw ar ymylon y blynyddoedd yr ydym yn adrodd arnynt.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Cyfanswm yr adroddiadau a dderbyniwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar | 11,452 | 10,576 | 9,642 | 10,358 | 10,121 | 10,963 |
Cyfanswm yr adroddiadau y gwnaeth y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar ymdrin â nhw | 11,508 | 9,649 | 9,375 | 10,435* |
9,972 | 11,137 |
* Mae'r ffigur hwn yn wahanol i adroddiadau blaenorol (9,329). Oherwydd newidiadau TG yn 2020/21, ymdriniwyd â 9,329 o bryderon ar ein system newydd. Buom yn delio ag 1,106 o adroddiadau ychwanegol ar ein hen system. Nid yw hyn yn newid unrhyw un o ganlyniadau ein hachosion mewnol neu achosion a gafodd eu clywed yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a nodwyd yn adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2020/21, ac ystyriwyd y 1,106 o adroddiadau yn unol â'n prosesau presennol (h.y. drwy'r Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar).
Canlyniadau adroddiadau am bryderon wrth asesu a datrys yn gynnar 2022/23
Nifer y pryderon a adroddwyd i ni | 10,963 |
---|---|
Nifer y pryderon y gwnaethom ymdrin â nhw* | 11,137 |
Wedi'u hailgyfeirio'n fewnol neu eu hanfon at yr Ombwdsmon Cyfreithiol** | 1,355 |
Wedi cau o dan ein proses asesu a datrys yn gynnar heb unrhyw gamau pellach | 8,064 |
Wedi cau o dan ein proses asesu a datrys yn gynnar gyda llythyr rhybuddio neu gynghori | 6 |
Wedi'u hatgyfeirio at ymchwiliad | 1,712 |
* Cofiwch nad oes cysylltiad llinol bob amser rhwng nifer yr adroddiadau a gawn a'r nifer yr ymdrinnir â hwy yn yr un cyfnod o 12 mis. Y rheswm am hyn yw na fydd pob achos yn cael ei ddatrys o fewn yr amserlen honno. Dyna pam ein bod wedi ymdrin â nifer ychydig yn uwch o bryderon yn 2022/23 o'i gymharu â'r nifer a gawsom.
** Os bydd adroddiad yn cael ei ailgyfeirio'n fewnol, mae fel arfer oherwydd ei fod yn fater i'n timau Awdurdodi neu Ddiogelu Cleientiaid, er enghraifft. Rydym ni'n ailgyfeirio materion at yr Ombwdsmon Cyfreithiol os ydym ni'n meddwl ei fod yn gŵyn sy'n ymwneud â lefel gwasanaeth.
Ffynhonnell adroddiadau 2022/23
Daw rhai pryderon yn uniongyrchol atom o'r proffesiwn, megis oddi wrth gyfreithwyr neu'r swyddogion cydymffurfio sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol.
Daw eraill gan aelodau'r cyhoedd, yr heddlu a'r llysoedd. Rydym ni hefyd yn gweithio'n agos gyda'r Ombwdsmon Cyfreithiol, y sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei gael gan eu darparwr gwasanaethau cyfreithiol. Bydd yr Ombwdsmon Cyfreithiol yn cysylltu â ni os bydd ganddo bryderon, yn ystod un o'i ymchwiliadau, y gallai cyfreithiwr fod wedi torri ein rheolau. Fel pob rheoleiddiwr, rydym hefyd yn monitro'r cyfryngau ac adroddiadau eraill.
Rydym hefyd yn nodi pryderon wrth i ni gyflawni agweddau eraill ar ein gwaith. Er enghraifft, rydym yn cynnal adolygiadau thematig o fathau penodol o waith neu ofynion cyfreithiol, fel gwaith mewnfudo a lloches a rôl cyfreithwyr mewnol. Os byddwn yn nodi mater yn ystod y gwaith hwn, gallwn godi pryder. Gallwn hefyd godi pryderon yn dilyn gwaith rhagweithiol i wirio cydymffurfiaeth cwmnïau cyfreithiol a chyfreithwyr â'n rheolau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran 'gwiriadau rhagweithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â'n rheolau'.
Pwy a roddodd wybod i ni am bryderon yn 2022/23
Oherwydd newidiadau TG yn 2020/21, ni wnaethom drafod yr wybodaeth hon yn ein hadroddiadau ar gyfer 2020/21 na 2021/22. Ar sail yr wybodaeth sydd gennym ar gyfer 2018/19, 2019/20 a 2022/23, rydym fel arfer yn cael tua 60% o'r adroddiadau gan y cyhoedd, 25% gan y proffesiwn a'r 15% sy'n weddill gan ffynonellau eraill – fel atgyfeiriad mewnol, yr Ombwdsmon Cyfreithiol neu ffynhonnell ddienw.
Niferoedd | Canran o'r cyfanswm |
|
---|---|---|
Cyhoedd | 6,306 | 57% |
Proffesiwn | 2,876 | 26% |
Atgyfeiriad mewnol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr* | 555 | 5% |
Dienw | 121 | 1% |
Ombwdsmon Cyfreithiol | 141 | 1% |
Awdurdod arall | 104 | 1% |
Arall (gall gynnwys, er enghraifft, yr heddlu, banc, erthygl yn y wasg neu'r cyfryngau, hyfforddeion neu fyfyrwyr) | 113 | 1% |
Anhysbys | 921 | 8% |
Cyfanswm (nifer y pryderon y gwnaethom ymdrin â nhw yn 2022/23) | 11,137 | 100% |
* Pan fydd rhywun o'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr wedi dod o hyd i wybodaeth a allai awgrymu camymddwyn posibl.
Pryderon wedi'u hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad
Fe wnaethom gyflwyno ein dull asesu a datrys yn gynnar am y tro cyntaf yn 2018/19, ac ers hynny, rydym wedi gweld gostyngiad cyson yn nifer y pryderon rydym yn eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad.
Ein nod oedd sicrhau ein bod yn gallu bod mor effeithiol ac effeithlon â phosibl: gan ganolbwyntio ein hymchwiliadau ar achosion digon difrifol lle mae'n bosibl bod ein rheolau wedi cael eu torri a bod modd profi'r achos o dorri'r rheolau.
Mae'r rhan fwyaf o'n hymchwiliadau'n cael eu datrys o fewn blwyddyn iddynt ddod i law. Fodd bynnag, os caiff mater ei gyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, neu os oes gweithgarwch arall, fel ymchwiliad gan yr heddlu neu os byddwn yn cael adroddiadau cysylltiedig pellach, neu os yw achos yn arbennig o gymhleth, gall gymryd llawer mwy o amser.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Pryderon wedi'u hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad | 6,027 | 3,602 | 2,279 | 1,816 | 1,741 | 1,712 |
Ar ôl ymchwili, nid ydym wedi canfod bod y cwmni neu'r cyfreithiwr wedi torri ein rheolau, nac wedi'u torri'n ddifrifol. Rydym ni'n ymgysylltu â rhai cwmnïau i unioni pethau a sicrhau eu bod yn cydymffurfio | 4,291 | 3,116 | 1,720 | 1,763 | 1,528 | 1,410 |
Ymchwiliadau agored (cyfartaledd treigl un mis)* | 2,145 | 2,120 | 1,983 | 1,897 | 1,696 | 1,641 |
*Cyfrifir hyn drwy gymryd nifer cyfartalog yr ymchwiliadau sy'n agored ar ddiwedd pob mis o'r flwyddyn. Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod nifer cyfartalog yr achosion sy'n agored wedi gostwng dros y chwe blynedd diwethaf.
Mewn rhai achosion, pan fyddwn wedi agor ymchwiliad, bydd ymgysylltu â chwmni neu gyfreithiwr i ddatrys mater a helpu i gydymffurfio yn ffordd briodol o weithredu.
Er enghraifft, efallai y byddwn yn cynnig arweiniad i'r cwmni neu'r cyfreithiwr ac yn eu goruchwylio a'u monitro wrth iddynt gymryd camau i ddatrys y mater. Yn gyffredinol, byddwn yn datrys materion yn y ffordd hon lle mae'r ymddygiad yn golygu cael cynllun unioni a lle mae'r dystiolaeth yn awgrymu nad yw'n debygol o ddigwydd eto, lle nad yw'r mater yn ddifrifol ac nad oes niwed i'r defnyddiwr, a lle nad oes risg barhaus. Bydd hefyd yn digwydd pan fydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr dan sylw agwedd agored, gydweithredol ac adeiladol tuag at ddatrys y problemau.
Mae ein dull gweithredu bob amser yn canolbwyntio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud i ddiogelu a hyrwyddo budd y cyhoedd. Rydym yn ystyried popeth fesul achos. Rydym yn canolbwyntio ar y materion mwyaf difrifol, fel lle mae cwmni neu gyfreithiwr wedi gostwng yn is o lawer na'r safonau rydym yn eu disgwyl mewn achos penodol, neu lle maent wedi gostwng yn is o lawer na'r safonau hyn yn gyson. Yn yr achosion hyn, mae'n debygol y byddwn yn cymryd camau gorfodi.
Byddwn bob amser yn egluro sut rydym wedi dod i'n penderfyniad i'r rhai sy'n gysylltiedig.
Os byddwn yn dod yn ymwybodol bod cyfreithiwr neu gwmni yn risg i'r cyhoedd, mae camau y gallwn eu cymryd i gyfyngu ar y risg honno. Sef:
- Ymyrryd mewn cwmni cyfreithiol: gallwn gymryd meddiant o'r holl arian a ffeiliau sydd gan y cwmni neu'r cyfreithiwr, gan gau'r cwmni neu waith cyfreithiwr unigol i bob pwrpas. Rydym yn gwneud hyn mewn achosion lle rydym yn gwybod bod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os yw'n angenrheidiol fel arall i ddiogelu buddiannau cleientiaid.
- Gosod amodau ar dystysgrifau ymarfer yn ystod ymchwiliad: i atal cyfreithiwr unigol neu gwmni rhag, er enghraifft, trin arian cleientiaid neu weithredu fel rheolwr cwmni.
- Gosod orchymyn adran 43: mae hyn yn atal pobl nad ydynt yn gyfreithwyr ond sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol rhag gweithio mewn unrhyw gwmni rydym yn ei reoleiddio heb ein caniatâd ni.
Astudiaeth achos ymyriadau – arferion mewnfudo
Yn 2023, fe wnaethom weithredu'n gyflym i ymyrryd a chau tri chwmni cyfreithiol. Gwnaethom hyn ar ôl clywed stori newyddion a oedd yn honni bod tri chyfreithiwr, pob un ohonynt yn ymarfer cyfraith mewnfudo yn eu priod gwmnïau, wedi bod yn cynghori eu cleientiaid i gyflwyno hawliadau ffug am loches a hawliau dynol. Roeddent hefyd wedi bod yn codi gormod am waith.
Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gasglwyd fel rhan o'r stori newyddion gudd a chynnal ein hymchwiliad ein hunain, fe wnaethom ymyrryd yn y cwmnïau, gan eu cau i bob pwrpas. Gwnaethom hyn o fewn wythnos i'r stori gael ei hadrodd. Ymyrrwyd ar sail amheuaeth o anonestrwydd a methiant i ddilyn ein rheolau. Cafodd tystysgrifau ymarfer y tri unigolyn eu hatal dros dro. Fe wnaethom hefyd gyhoeddi gorchymyn adran 43 yn erbyn rhywun nad yw'n gyfreithiwr sy'n gweithio mewn pedwerydd cwmni cyfreithiol. Rydym wedi atgyfeirio'r cyfreithwyr at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Astudiaeth achos ymyriadau – Axiom Ince
Ym mis Awst 2023, fe wnaethom ymyrryd mewn ymarfer unig gyfranddaliwr cwmni cyfreithiol mawr, Axiom Ince. Gwnaethom hyn ar ôl amau anonestrwydd a thorri ein Rheolau Cyfrifon. Yn ogystal â chau eu hymarfer personol, fe wnaethom gymryd camau ymyrryd gyda dau o'r cyfarwyddwyr eraill hefyd a oedd yn gweithio yn y cwmni. Roeddem yn amcangyfrif bod dros £60m o arian cleientiaid ar goll. Roedd natur yr anonestrwydd a amheuir yn soffistigedig ac yn cynnwys datganiadau banc a llythyrau ffug.
Roedd yr arian coll yn golygu ei bod yn annhebygol y byddai'r cwmni cyfan yn gallu parhau i weithredu yn y tymor hir. Cyhoeddodd y cwmni ei fwriad i alw'r gweinyddwyr i mewn ar 1 Hydref 2023. Ni fyddai'r cwmni'n gallu darparu gwasanaethau cyfreithiol yn effeithiol i'w gleientiaid sy'n weddill mwyach, felly fe wnaethom gamu i mewn i'w diogelu, gan ymyrryd yn y cwmni ar 3 Hydref 2023.
Fe wnaethom hefyd atgyfeirio'r mater at yr asiantaethau gorfodi'r gyfraith perthnasol, ac mae'r Swyddfa Twyll Difrifol (SFO) yn cynnal ymchwiliad ac wedi arestio unigolion. Rydym wedi bod yn ymgysylltu â'r Swyddfa Twyll Difrifol wrth iddi fwrw ymlaen â'i hymchwiliad. Rydym wedi cytuno â'r Swyddfa i ohirio ein hymchwiliad i'r mater hwn nes bydd wedi cwblhau ei hymchwiliad. Roeddem eisoes wedi ceisio gweithredu i ddiogelu'r cyhoedd yn y cyfamser drwy gyfyngu ar ymarferion unigolion allweddol.
Dyma ein hymyriad mwyaf erioed ac rydym yn parhau i ddelio â'i effeithiau. Rydym yn parhau i weithio drwy'r hawliadau a wnaed i'n cronfa iawndal, gan wneud taliadau i unigolion a busnesau sydd wedi colli eu harian.
Mae hyd a lled yr ymyriad a'r arian a gollwyd – ochr yn ochr ag ymyriadau amlach a mwy yn y blynyddoedd diwethaf – wedi codi cwestiynau ynghylch mater diogelu defnyddwyr a rôl y gronfa iawndal, sy'n cael ei hariannu gan gyfraniadau cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol. Ddechrau 2024, fe wnaethom gyhoeddi ein Hadolygiad o Ddiogelu Defnyddwyr, sy'n ystyried amrywiaeth o faterion. Mae'r rhain yn cynnwys a allwn wella sut rydym yn canfod risgiau, a oes gennym y cydbwysedd cywir ar waith i ddiogelu arian cleientiaid, a'r gronfa iawndal. Yn dilyn ymgysylltu helaeth ar y materion hyn, ym mis Tachwedd 2024, fe wnaethom gyhoeddi ymgynghoriad ynghylch sut a phryd mae cwmnïau cyfreithiol yn delio ag arian cleientiaid, a sut mae'r arian hwn yn cael ei ddiogelu.
Mae'r rheoleiddiwr goruchwylio ar gyfer gwasanaethau cyfreithiol, y Bwrdd Gwasanaethau Cyfreithiol, wedi cynnal adolygiad annibynnol o'r digwyddiadau sydd wedi arwain at ymyriad Axiom Ince. Cyhoeddodd ganlyniadau'r adolygiad ym mis Hydref 2024. Rydym wedi ymateb, gan gynnwys pwysleisio sut rydym wedi dod o hyd i wersi a ddysgwyd o'r achos hwn yn gyflym yn 2023, wedi tynhau prosesau ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r materion ehangach y mae'r adroddiad yn eu codi, fel sut gallwn ddiogelu arian cleientiaid yn well.
Os yw cwmni neu gyfreithiwr wedi torri ein rheolau'n ddifrifol, mae gennym y pŵer i roi ein sancsiwn ein hunain, heb gyfeirio'r mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Fodd bynnag, mae'r ystod o sancsiynau y gallwn eu rhoi yn gyfyngedig. Mewn llawer o achosion, rydym wedi ein cyfyngu i ddirwyo cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol traddodiadol £25,000. Rydym yn nodi manylion llawn ein pwerau dirwyo yn gynharach yn yr adroddiad hwn. Mae'n bwysig nodi bod yr holl ddirwyon, p'un ai a ydynt yn cael eu cyhoeddi gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr neu drwy ein prosesau mewnol, yn cael eu talu i'r Trysorlys.
Pan fo'n briodol, gallwn hefyd ddatrys mater drwy gytundeb setlo rheoleiddiol (RSA). O dan gytundeb setlo rheoleiddiol, mae'r ddwy ochr yn cytuno ar y ffeithiau a'r canlyniad. Maent yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy sicrhau canlyniadau priodol yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.
Rydym yn cyhoeddi manylion ein canfyddiadau a'n sancsiynau, gan gynnwys cytundebau setlo rheoleiddiol. Gallwn atal unrhyw faterion cyfrinachol rhag cael eu cyhoeddi lle mae hyn yn drech na'r budd cyhoeddus o'u cyhoeddi (er enghraifft, manylion cyflwr iechyd unigolyn).
Ein pwerau dirwyo
Yn 2022, yn dilyn newid i ddeddfwriaeth, cynyddodd ein pwerau dirwyo o £2,000 i £25,000 ar gyfer cyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol traddodiadol. Mae hyn yn golygu y gallwn gymryd camau mewn mwy o achosion heb fod angen eu cyfeirio at y Tribiwnlys.
Ers canol 2023, fe wnaethom ddechrau rhoi cosbau penodedig am dorri ein rheolau'n benodol, er enghraifft, diffyg cydymffurfio â'n Rheolau Tryloywder neu fethu ag ymateb i'n ceisiadau. Mae cosbau penodedig yn ein galluogi i ddelio'n gynt ag achosion heb fod yn gymhleth o dorri ein rheolau. Yn ogystal â gweithredu fel rhwystr addas i gwmnïau nad ydynt yn cydymffurfio â rheolau penodol, mae hyn yn arbed amser, cost a straen i bawb.
Mewn achosion mwy difrifol lle mae dirwy'n briodol, byddwn yn defnyddio bandiau ac yn cyfrifo dirwy ar sail incwm/trosiant y cyfreithiwr neu'r cwmni. Er mwyn ystyried ym mha fand y mae tor-amod yn cael ei osod, rydym yn ystyried natur yr ymddygiad ac effaith, neu effaith bosibl, yr ymddygiad. Gallwn wedyn addasu'r gosb, gan ystyried:
- a gafodd y cyfreithiwr neu'r cwmni unrhyw fudd ariannol o ganlyniad i'w weithredoedd
- a wnaeth yr unigolyn neu'r cwmni gymryd unrhyw gamau unioni ar ôl y tor-amod er mwyn cyfyngu ar ei effaith
- cydweithrediad y cwmni/cyfreithiwr â ni yn ystod ein hymchwiliad ac a roddodd wybod i ni am y tor-amod yn brydlon
- yn yr achos lle rydym ni'n dirwyo unigolyn, a yw'n gallu talu'r ddirwy rydym ni'n ei rhoi.
Mae ein bandiau dirwyo yn dechrau ar fand A (y lleiaf difrifol) hyd at fand D (y mwyaf difrifol). Mae rhagor o fanylion ar gael yn ein canllawiau ar gosbau ariannol.
Ym mis Mehefin 2024, fe wnaethom gynnig newidiadau i'n dull dirwyo. Y prif newidiadau y buom yn ymgynghori yn eu cylch oedd cyflwyno bandiau dirwyo newydd, cyflwyno lefelau dirwy sylfaenol a chanllawiau cliriach ar sut i bennu lefel y dirwyon dangosol, ymysg mesurau eraill. Gallwch ddarllen mwy am y cynigion hyn yn yr ymgynghoriad.
Dirwyon a roddwyd yn 2022/23
Yn 2022/23, fe wnaethom gau 73 o achosion gyda dirwy. O'r rhain:
- Roedd 12 yn gosbau ariannol penodedig, pob un yn £750. Roedd saith o'r rhain yn ymwneud â thorri ein Rheolau Tryloywder. Roedd pump yn ymwneud â methiannau o ran deiliaid swyddi penodol mewn cwmnïau. Yn yr achosion hyn, nid oedd gan y cwmnïau swyddog cydymffurfio ar gyfer ymarfer cyfreithiol na swyddog cydymffurfio ar gyfer cyllid a gweinyddu yn ei le am gyfnod o amser.
- Cofnodwyd 38 cyn cyflwyno ein bandiau dirwyo newydd ar 30 Mai 2023. Arweiniodd y 38 achos hyn at 40 o ddirwyon. Y rheswm am hyn yw y gall un achos arwain at ddirwy i fwy nag un parti. Er enghraifft, os oes dau unigolyn wedi'u cofnodi ar achos lle mae'r ddau yn cael dirwy, neu os oes unigolyn a chwmni wedi'u cofnodi ar achos a'u bod ill dau yn cael dirwy.
- Cafodd 23 eu cofnodi ar ôl cyflwyno ein bandiau dirwyon newydd ar 30 Mai 2023, ac felly maent yn perthyn i un o'r bandiau isod (A i D). Arweiniodd y 23 achos hyn at 25 o ddirwyon. Fel yr uchod, y rheswm am hyn yw y gall un achos arwain at ddirwy i fwy nag un parti. Er enghraifft, os oes dau unigolyn wedi'u cofnodi ar achos lle mae'r ddau yn cael dirwy, neu os oes unigolyn a chwmni wedi'u cofnodi ar achos a'u bod ill dau yn cael dirwy.
Nifer y dirwyon a roddwyd o dan fandiau dirwyo newydd
Fe wnaethom gyflwyno ein bandiau dirwyo ar 30 Mai 2023. O'r dyddiad hwn hyd at ddiwedd ein blwyddyn ariannol ar 31 Hydref 2023, fe wnaethom gofnodi 25 o ddirwyon ar draws y bandiau canlynol.
Mae ein bandiau dirwyo yn dechrau ar A, am y camymddwyn lleiaf difrifol sy'n addas ar gyfer dirwy, a B, C, a D am gamymddwyn mwy difrifol. Rydym yn defnyddio'r bandiau hyn i osod cosb ddangosol yn seiliedig ar natur ac effaith (neu effaith bosibl) camymddygiad, gan ystyried ffactorau gwaethygol a lliniarol.
Band A | 0 |
---|---|
Band B | 9 |
Band C | 15 |
Band D | 1 |
Roedd y materion dan sylw yn yr achosion hyn yn ymwneud â thorri ein Rheolau Atal Gwyngalchu a Chyfrifon, a throseddau yfed a gyrru, ymysg pethau eraill.
Rhoi dirwy – astudiaeth achos
Yn 2023, fe wnaethom roi dirwy o £45,000 i gwmni cyfreithiol ar ôl canfod nifer o fethiannau o ran sut roedd yn delio â hawliadau cam-werthu ariannol. Roedd modd i ni roi dirwy i'r cwmni uwchlaw'r trothwy o £25,000 ar gyfer cwmnïau cyfreithiol traddodiadol, gan fod y cwmni cyfreithiol hwn yn strwythur busnes amgen.
Daethom yn ymwybodol o'r mater am y tro cyntaf ar ôl i ddau fanc, a oedd yn destun hawliadau, roi gwybod i ni am bryderon. Ar ôl ymchwilio'r safle ac adolygu ffeiliau, dyma'r materion a welsom gyda'r cwmni:
- nid oeddent wedi cyflawni digon o ddiwydrwydd dyladwy o ran cleientiaid, a arweiniodd at y cwmni'n cyflwyno rhai hawliadau gyda gwybodaeth anghywir
- defnyddio geiriad safonol ar holiaduron cyfrif banc wedi'u pecynnu nad oedd bob amser yn adlewyrchu cyfarwyddiadau'r cleient
- parhau i weithredu ar ddau fater lle'r oedd ei gleientiaid wedi gofyn iddo roi'r gorau iddi
- ddim yn goruchwylio staff heb gymwysterau cyfreithiol yn effeithiol a oedd yn delio â'r hawliadau.
Cyfaddefodd y cwmni i nifer o achosion o dorri ein rheolau ac fe wnaethom roi dirwy o £45,000, gan ei roi ym mand D, yn unol â'n canllawiau ar gosbau ariannol.
Wrth benderfynu dirwyo'r cwmni a lefel y ddirwy, roeddem o'r farn, er bod yr achosion o dorri ein rheolau wedi cael eu cywiro a bod camau unioni wedi cael eu cymryd, eu bod yn parhau'n hirach na'r hyn sy'n rhesymol. Roeddem hefyd o'r farn bod dirwy yn yr achos hwn yn rhwystr credadwy i'r cwmni ac i'r proffesiwn ehangach.
Roedd y ffactorau lliniaru a ystyriwyd gennym wrth wneud ein penderfyniadau yn cynnwys bod y cwmni wedi cydweithredu'n llwyr â'n hymchwiliad, a bod y cwmni wedi cymryd camau cyflym i newid ei weithdrefnau diwydrwydd dyladwy cleientiaid o ganlyniad i'n hymchwiliad. Ac roedd methiant y cwmni i roi'r gorau i weithredu pan ofynnwyd iddynt wneud hynny gan gleientiaid yn edrych fel gwallau unigol a chamgymeriadau anfwriadol.
Yn ogystal â'r ddirwy, bu'n rhaid i'r cwmni dalu ein costau o £1,350.
Rydym yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Mae'n annibynnol arnom a gall osod sancsiynau mwy difrifol nag y gallwn ni.
Gall roi dirwyon diderfyn am unrhyw fath o gamymddwyn neu atal neu dynnu enw cyfreithiwr oddi ar y gofrestr, sy'n golygu na allant weithio fel cyfreithiwr mwyach. Mae dadansoddiad llawn o'r camau rydym ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd ar gael yn atodiad 1.
Wrth benderfynu a ddylid dod ag achos gerbron y Tribiwnlys, rydym ni'n ystyried:
- A oes gennym dystiolaeth a fyddai'n cefnogi posibilrwydd realistig y bydd y Tribiwnlys yn canfod achos o gamymddwyn.
- Mae'r Tribiwnlys yn debygol o osod sancsiwn na allwn ei roi.
- Mae er budd y cyhoedd i wneud y cais.
Rydym wedi bod yn bwrw ymlaen â gwaith i wella prydlondeb ac ansawdd ein gwaith ymchwilio a gorfodi. Un o'r prif flaenoriaethau fu lleihau nifer yr ymchwiliadau hirsefydlog. Ym mis Hydref 2022, roedd 286 o achosion a oedd dros 24 mis oed, a oedd, erbyn mis Awst 2024, wedi gostwng i 59. Mae'r gwaith gwella hwn yn debygol o fod yn un o'r ffactorau ar gyfer y cynnydd mewn achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2022/23. Byddwn wedi atgyfeirio mwy o achosion at y Tribiwnlys yn 2023/24 o ganlyniad i'r gwaith hwn. Oherwydd hyn, mae'n debygol y byddwn yn gweld nifer yr achosion a glywir yn y Tribiwnlys yn cynyddu yn y blynyddoedd nesaf. Sylwch, fel arfer mae'n cymryd mwy na blwyddyn i atgyfeirio achos at y Tribiwnlys ac iddo gael ei glywed.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys | 134 | 125 | 112 | 101 | 76 | 99 |
Camymddwyn rhywiol – astudiaeth achos
Fe wnaethom erlyn cyfreithiwr yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr am honiadau sy'n ymwneud â chamymddwyn rhywiol yn erbyn tri unigolyn, dau brentis ac un hyfforddai, wrth weithio mewn cwmni cyfreithiol. Canfu'r Tribiwnlys 70 o honiadau wedi'u profi yn erbyn y cyfreithiwr, gan gynnwys cymhelliant rhywiol a diffyg uniondeb. O ran y prentis cyntaf, roedd yr honiadau'n ddifrifol iawn ac roedd y cyfreithiwr yn ymddwyn mewn ffordd rywiol ei gymhelliad tuag at yr unigolyn. Gan roi sylwadau ar weithredoedd y cyfreithiwr tuag at y prentis hwn, dywedodd y Tribiwnlys ei fod wedi gwneud y canlynol: '[wedi cymryd] mantais o [eu] hoed, naïfrwydd, a'r ffaith mai dyma swydd gyntaf yr unigolyn ar ôl gadael yr ysgol.'
O ran y prentis arall, canfu'r Tribiwnlys fod ymddygiad y cyfreithiwr tuag at yr unigolyn mewn digwyddiad cymdeithasol wedi'i gymell yn rhywiol.
O ran yr hyfforddai, ni chanfu'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr fod yr ymddygiad tuag at yr unigolyn wedi'i gymell yn rhywiol ond dywedodd yn ei ddyfarniad bod ymddygiad y cyfreithiwr tuag at yr unigolyn yn: 'afiach, yn obsesiynol ac yn afluniedig.'
Cafodd y cyfreithiwr dynnu ei enw oddi ar y gofrestr gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a gorchmynnodd iddo dalu ein costau o £23,500. Dyma'r achos cyntaf lle tynnwyd enw cyfreithiwr oddi ar y gofrestr am gamymddwyn rhywiol lle na chafwyd unrhyw erlyniad troseddol.
Rydym ni'n cydnabod bod y rhain yn faterion anodd a sensitif, ac mae gennym dîm arbenigol i ymchwilio i'r pryderon a godwyd. Rydym ni'n ymwybodol bod y mathau hyn o achosion yn arbennig o heriol i bawb dan sylw ac rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gyfathrebu'n agored ac yn sensitif â nhw. Rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn atgyfeirio at sefydliadau cymorth arbenigol lle bo hynny'n briodol.
Canlyniadau y cytunwyd arnynt
Os byddwn yn atgyfeirio mater at y Tribiwnlys a'i fod yn dweud bod achos i'w ateb, a bod y cwmni neu'r unigolyn yn cyfaddef cyflawni'r honiadau, efallai y byddai'n briodol dod â'r mater i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn hytrach na drwy wrandawiad llawn. Yn yr amgylchiadau hyn, rydym ni'n cytuno ar ganlyniad a chostau ar sail set o ffeithiau y cytunwyd arnynt.
Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried y canlyniad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau iddo, neu orchymyn gwrandawiad llawn ar gyfer yr achos. Mae'r canlyniadau y cytunwyd arnynt yn wahanol i gytundebau setlo rheoleiddiol, sef cytundebau rydym ni'n eu llunio gyda chyfreithwyr a chwmnïau heb fod angen cynnwys y Tribiwnlys a phan fydd y mater o natur llai difrifol. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y sancsiwn – er enghraifft, mae dirwy a roddwn wedi'i chapio i derfynau ein pwerau. Yn y rhan fwyaf o achosion, mae hyn yn £25,000 i gwmnïau cyfreithiol ac unigolion traddodiadol, ond gall dirwy sy'n destun adolygiad y Tribiwnlys fod yn ddiderfyn.
Mae canlyniadau y cytunwyd arnynt yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur.
Er bod nifer y canlyniadau y cytunwyd arnynt dros y blynyddoedd wedi aros yn weddol gyson, rydym wedi gweld tuedd gyffredinol tuag at ddatrys cyfran uwch o achosion drwy ganlyniad y cytunwyd arno. Mae'n debygol mai un o'r pethau sy'n sbarduno hyn fydd newidiadau i reolau'r Tribiwnlys yn 2019. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys rheol newydd a oedd yn caniatau'n benodol i ni neu'r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunir arno.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Achosion a ddatryswyd gan y Tribiwnlys – canlyniad y cytunwyd arno | 37 (28%) | 33 (26%) | 42 (37%) | 40 (40%) | 39 (51%) | 43 (43%) |
Achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad Tribiwnlys | 97 (72%) | 92 (74%) | 72 (63%) | 61 (60%) | 38 (49%) | 57 (57%) |
Mewn rhai blynyddoedd, mae cyfanswm yr achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad a'r rhai a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn uwch na chyfanswm nifer yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys. Gall hyn ddigwydd pan fydd achos yn ymwneud â mwy nag un unigolyn. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gallu dod i ganlyniad y cytunir arno gydag un o'r unigolion yn yr achos, ond ni allwn gytuno ar un gydag un arall ac mae angen gwrandawiad llawn i ddatrys y mater.
Canlyniadau mewn achosion gyda chanlyniad y cytunwyd arno
Arweiniodd yr achosion canlyniadau y cytunwyd arnynt yn y tabl uchod at y sancsiynau yn y tabl isod. Cofiwch y gall un achos arwain at fwy nag un sancsiwn.
Mae Atodiad 1 a'r eirfa yn cynnwys rhagor o wybodaeth am y camau rydym ni a'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd a beth mae'r sancsiynau'n eu golygu, yn y drefn honno.
Gan mai hon yw'r flwyddyn gyntaf i ni adrodd am amodau'r dystysgrif ymarfer (boed y rhain wedi'u gosod gennym ni neu gan y Tribiwnlys), nid oes unrhyw gofnod data ar gyfer 2017/18 i 2021/22. Byddwn yn adrodd am y ffigurau hyn yn flynyddol o hyn ymlaen.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Achosion â chanlyniadau y cytunwyd arnynt | 37 | 33 | 42 | 40 | 39 | 43 |
Dileu oddi ar y gofrestr | 15 | 19 | 19 | 17 | 13 | 28 |
Atal dros dro | 6 | 4 | 10 | 5 | 6 | 8 |
Dirwy | 43 | 12 | 21 | 21 | 25 | 12 |
Gorchymyn adran 43 | 1 | 0 | 1 | 2 | 1 | 0 |
Amodau ar dystysgrifau ymarfer | - | - | - | - | - | 6 |
Canlyniad y cytunwyd arno ynghylch anonestrwydd – astudiaeth achos
Daethom i ganlyniad y cytunwyd arno gyda chyfreithiwr ar ôl i ni ganfod ei fod wedi dweud celwydd dro ar ôl tro am fwy na dwy flynedd am hynt achos. Daethom yn ymwybodol o'r mater ar ôl i'r cyfreithiwr, partner yn ei gwmni, ddweud wrth bartner arall yn ei gwmni ei fod wedi dweud celwydd. Yna, rhoddodd y partner arall wybod i ni.
Roedd y cyfreithiwr yn gweithredu mewn achos anaf personol ar ran cleient, gan ddwyn hawliad yn erbyn ymddiriedolaeth GIG. Penodwyd mam y cleient yn gyfaill cyfreitha. Mae cyfaill cyfreitha yn rhywun sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch achos llys ar gyfer naill ai oedolyn heb alluedd meddyliol neu blentyn.
Yn 2016, cafodd y cyfreithiwr gyngor bod gan yr hawliad yn erbyn y GIG ei rinweddau, ac y dylai fwrw ymlaen ag ef. Y cam nesaf oedd ysgrifennu ac anfon llythyr protocol cyn-gweithredu, cyn dechrau achos hawliad sifil. Fodd bynnag, ni wnaeth y cyfreithiwr anfon y llythyr hwn tan fis Mai 2019, a dywedodd gelwydd ar fwy nag un achlysur wrth y cyfaill cyfreitha am ei anfon.
Yn ei ddyfarniad, dywedodd y Tribiwnlys: 'Gan gymhwyso safonau (gwrthrychol) pobl barchus gyffredin, byddent yn ystyried bod cyfreithiwr yn camarwain ei gleient yn fwriadol dros gyfnod o rai blynyddoedd ynghylch cynnydd eu hachos fel anonest.' Cafodd y cyfreithiwr dynnu ei enw oddi ar y gofrestr gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a gorchmynwyd iddo dalu costau o £5,175.
Roedd canlyniad y cytunwyd arno yn briodol yn yr achos hwn oherwydd bod y cyfreithiwr wedi cyfaddef i'r honiadau a bod ei weithredoedd wedi bod yn anonest. Roedd hyn yn golygu nad oedd angen gwrandawiad.
Mae gan gwmnïau ac unigolion yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniadau a wnawn yn fewnol a phenderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Mae'r hawl i apelio yn hanfodol i gyfiawnder naturiol ac i broses gyfreithiol deg.
Apelio yn erbyn ein penderfyniadau
Mae gan gwmnïau ac unigolion sy'n ddarostyngedig i'n hamodau neu ein sancsiynau hawl i apelio. Mae apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau yn cael eu hystyried yn fewnol gan ein tîm Dyfarnu. Fodd bynnag, pe bai dyfarnwr yn ymdrin â'r penderfyniad cychwynnol, yna gwrandewir ar yr apêl gan banel a lunnir o gronfa o ddyfarnwyr hyd braich. Mae gan bartïon hawliau pellach i apelio naill ai i'r Tribiwnlys (yn achos dirwy, cerydd neu orchymyn adran 43) neu i'r Uchel Lys.
Apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Gall cwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall sydd wedi bod yn destun penderfyniad Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr apelio os yw'n credu bod y penderfyniad yn anghywir. Gallwn hefyd apelio yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys yn y llysoedd.
I apelio yn erbyn penderfyniad Tribiwnlys, rhaid i ni neu'r atebydd wneud cais i'r Uchel Lys.
Mae apeliadau'n caniatáu i lysoedd gywiro unrhyw wallau a all fod wedi'u gwneud ac egluro'r dehongliad o'r gyfraith.
Yn ogystal â'r seiliau cyfreithiol, byddwn yn ystyried amrywiaeth o ffactorau ynghylch a ydyn ni'n apelio yn erbyn penderfyniad y mae'r Tribiwnlys yn ei wneud. Er enghraifft:
- Eglurhad ar y gyfraith: rydym ni'n cydnabod bod gan y Tribiwnlys gryn dipyn o ddisgresiwn wrth ystyried canlyniadau'r achosion mae'n eu clywed. Fodd bynnag, os yw'n gwneud penderfyniad sy'n ymddangos fel ei fod yn gwrth-ddweud neu'n camddehongli pwynt cyfreithiol, byddwn yn ystyried a ddylem apelio. Rydym ni'n credu ei bod hi'n bwysig cael eglurder a chysondeb yn y ffordd mae'r gyfraith yn berthnasol i'n rôl fel rheoleiddiwr ac o ran hawliau a rhwymedigaethau'r bobl rydym ni'n eu rheoleiddio.
- Gweithredu er budd y cyhoedd: rydym yn dod ag achosion gerbron y Tribiwnlys i sicrhau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd ac i gynnal safonau yn y proffesiwn. Os oes sail dros awgrymu nad yw hyn wedi'i gyflawni, byddwn yn ystyried a yw'n briodol apelio.
- Diogelu'r cyhoedd: os ydym ni'n meddwl bod y sancsiwn a roddwyd gan y Tribiwnlys yn rhy drugarog a bod sail dros awgrymu y gallai'r cyhoedd, o ganlyniad, fod mewn perygl, byddwn yn ystyried a yw apêl yn briodol. Er enghraifft, efallai y byddwn yn apelio yn erbyn penderfyniad lle rydym o'r farn y dylai cyfreithiwr fod wedi cael ei dynnu oddi ar y gofrestr, yn hytrach na chael ei atal am gyfnod byr.
Apeliadau yn erbyn sancsiynau a rheolaethau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Mae'r apeliadau hyn yn cwmpasu nifer y ceisiadau i adolygu canlyniad gan ymatebwyr sydd wedi bod yn destun sancsiwn (fel dirwy) neu reolaeth (fel amod ymarfer) a osodwyd gennym. Dyma'r flwyddyn gyntaf lle rydym wedi cynnwys niferoedd ar achosion lle roeddem wedi gosod amodau ymarfer ac apeliadau ynghylch amodau ymarfer. Oherwydd hyn, nid oes modd cymharu nifer yr apeliadau yn 2022/23 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol. Wrth symud ymlaen, byddwn yn adrodd yn flynyddol am nifer yr apeliadau ynghylch amodau ymarfer bob blwyddyn.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Apeliadau llwyddiannus | 1 | 0 | 0 | 7 | 3 | 3 |
Wedi llwyddo yn rhannol | 3 | 0 | 2 | 3 | 2 | 5 |
Apeliadau aflwyddiannus | 11 | 11 | 7 | 14 | 9 | 25 |
Cyfanswm yr apeliadau yn erbyn ein penderfyniadau | 15 | 11 | 9 | 24 | 14 | 33 |
Apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr
Mae'r penderfyniadau yn y siart isod yn ymwneud ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Un rheswm y tu ôl i'r gostyngiad cyffredinol mewn apeliadau yw bod llai o achosion wedi cael eu datrys drwy wrandawiad Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gyda chyfran uwch yn cael eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno.
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 | |
---|---|---|---|---|---|---|
Dyfarniad wedi'i neilltuo | 0 | 0 | 2 | 1 | 0 | 0 |
Apeliadau llwyddiannus gan ymatebwyr | 2 | 1 | 1 | 0 | 3 (caniateir un a chaniateir dau yn rhannol) | 1 |
Apeliadau aflwyddiannus gan ymatebwyr | 10 | 13 | 2 | 6 | 6 | 4 |
Apeliadau aflwyddiannus yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr | 2 | 0 | 0 | 0 | 0 | 1 |
Apeliadau llwyddiannus yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr | 7 | 6 | 1 | 0 | 0 | 2 |
Cyfanswm y penderfyniadau apelio allanol | 21 | 20 | 6 | 8 | 9 | 8 |
Astudiaeth achos apêl yr Uchel Lys
Yn 2023, clywodd yr Uchel Lys apêl gan gyfreithiwr yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys i dynnu ei enw oddi ar y gofrestr.
Roedd dwy set o honiadau roeddem wedi'u dwyn gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr am y cyfreithiwr. Roedd y set gyntaf o honiadau'n ymwneud â chyfreitha grŵp heb ganiatâd cleientiaid, ceisio codi gormod ar gleientiaid, methu cydweithredu â'r Ombwdsmon Cyfreithiol a thorri ein Rheolau Cyfrifon. Roedd yr ail set o honiadau ynghylch gwneud datganiadau ffug i gefnogi ffurflenni cais yswiriant indemniad proffesiynol.
Oherwydd bod yr ail set o honiadau'n ymwneud â gweithredu'n anonest, fe wnaethom gais i'r Tribiwnlys glywed y rhain yn gyntaf oherwydd eu bod yn cael eu hystyried y rhai mwyaf difrifol. Clywodd y Tribiwnlys yr ail set o honiadau a chanfod bod y cyfreithiwr yn anonest, gan dynnu ei enw oddi ar y gofrestr.
Wrth apelio yn erbyn y penderfyniad, prif sail apêl y cyfreithiwr oedd bod y Tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad gweithdrefnol wrth glywed yr ail set o honiadau yn gyntaf, ac nid y ddwy set gyda'i gilydd. Dadleuodd y cyfreithiwr fod y Tribiwnlys wedi mabwysiadu dull diffygiol o ymdrin ag anonestrwydd oherwydd y gwall gweithdrefnol honedig.
Gwrthododd yr Uchel Lys apêl y cyfreithiwr. Dywedodd y barnwr a oedd yn gweithredu yn yr achos nad oedd angen gwrando ar y set gyntaf o honiadau cyn neu ar yr un pryd â'r ail set o honiadau.
Cadarnhaodd y llys hefyd benderfyniad y Tribiwnlys y dylai'r cyfreithiwr dalu costau'r achos gwreiddiol (£124,830), a gorchmynnodd hefyd i'r cyfreithiwr dalu £30,000 tuag at gostau'r apêl (£36,600).
Bob blwyddyn, rydym yn casglu ffioedd ymarfer gan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr a chan gyfreithwyr a chwmnïau cyfreithiol sy'n ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr dramor.
Mae'r ffioedd ymarfer rydym ni'n eu casglu'n llawn neu'n rhannol yn ariannu chwe sefydliad, gan ein cynnwys ni. Yn 2022/23, roeddem wedi casglu £115m, gyda £60.7m o hwn yn cyfrannu at gyfanswm gwariant yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
Yn 2022/23, roeddem wedi gwario £19.3m ar ein prosesau disgyblu, sy'n rhan hanfodol o'n gwaith i sicrhau safonau proffesiynol uchel. Mae hyn yn fwy na'r hyn a wariwyd gennym yn 2021/22 (£16.5m) a 2020/21 (£14.2m). Mae hyn yn bennaf oherwydd mwy o fuddsoddiad yn ein hadnoddau ymchwilio i wella prydlondeb ac ansawdd ein penderfyniadau a'n gwasanaeth.
Mae'n bwysig nodi bod yr holl ddirwyon, p'un ai a ydynt yn cael eu cyhoeddi gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) neu drwy ein prosesau mewnol, yn cael eu talu i'r Trysorlys.
Rydym ni'n parhau i adolygu sut rydym yn gweithio. Er mwyn cadw costau dan reolaeth ym mhob achos, rydym yn gweithio yn unol ag egwyddorion allweddol: gweithredu'n gyflym, yn deg ac yn gymesur.
Gall ein gwaith gorfodi fod yn uchel ei broffil ac yn aml mae'n ymwneud â materion amserol sydd o ddiddordeb ehangach i'r cyhoedd. Mae hyn yn golygu y gall fod diddordeb yn faint mae'n ei gostio i ni ddod ag achosion gerbron y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr a gwneud apêl. Mae'r ffactorau sy'n effeithio ar hyn yn cynnwys cymhlethdod ac oes achos, nifer y partïon a chydweithrediad y rhai sy'n gysylltiedig.
Achosion a oedd yn costio £100,000 neu fwy yn 2022/23
O'r 99 achos y gwnaethom eu hatgyfeirio at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2022/23 a'r wyth apêl y gwrandawyd arnynt, roedd dau achos lle roedd ein costau'n £100,000 neu fwy. Yn gyffredinol, bydd y costau yn yr achosion hyn wedi cronni dros nifer o flynyddoedd.
Mae'r ffigurau'n cynnwys y costau a hawliwyd (neu y cytunwyd arnynt) ar gyfer:
- ein gwaith ymchwilio i achos a'i gyflwyno gerbron y Tribiwnlys, p'un a gafodd hyn ei wneud yn fewnol neu drwy gyfarwyddo cwmni panel, ac yn cynnwys unrhyw gwnsler
- dwyn apêl gerbron yr Uchel Lys, os oedd un, ac unrhyw waith a wnaed gan gwmni panel neu gwnsler
- costau a ddyfarnwyd i'r parti sy'n gwrthwynebu.
Yn yr achosion isod, cafodd ein holl gostau eu dyfarnu i ni gan y Tribiwnlys a'r rhan fwyaf o'r costau gan yr Uchel Lys. Mae gan y Tribiwnlys a'r Uchel Lys ddisgresiwn eang o ran pa gostau i'w dyfarnu, gan ystyried pob achos ar sail ei ffeithiau ei hun.
Partïon dan sylw | Natur yr achos | Canlyniad yr achos | Ein costau | Costau a ddyfarnwyd |
---|---|---|---|---|
Cyfreithiwr a pherchennog Sophie Khan a Co., Soophia Khan. Roedden ni wedi ymyrryd yn y cwmni yn 2021. |
Honiadau'n ymwneud ag anonestrwydd, methu cydweithredu â ni, yr Ombwdsmon Cyfreithiol a gorchmynion llys, ymysg eraill. |
Fe wnaeth y Tribiwnlys ddileu Khan oddi ar y gofrestr. Cafodd yr apêl gan Khan ei gwrthod. |
£137,294 ar draws y Tribiwnlys (£116,294) ac apelio i'r Uchel Lys yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys (£21,000). |
Dyfarnodd y Tribiwnlys ein costau i ni'n llawn. Dyfarnodd yr Uchel Lys ein costau i ni'n llawn.Cyfreithiwr a phennaeth Highgate Hill Solicitors, Katherine Alexander Theodotou. Mae'r cwmni wedi cau bellach. |
Honiadau'n ymwneud ag anonestrwydd, ffugio dogfennau yswiriant indemniad proffesiynol, torri Rheolau Cyfrifon, ymysg pethau eraill. |
Honiadau'n ymwneud ag anonestrwydd, ffugio dogfennau yswiriant indemniad proffesiynol, torri Rheolau Cyfrifon, ymysg pethau eraill. |
Fe wnaeth y Tribiwnlys ddileu Theodotou oddi ar y gofrestr. Cafodd yr apêl gan Theodotou ei gwrthod. |
£161,430 ar draws y Tribiwnlys (£124,830) a'r Uchel Lys (£36,600). |
Dyfarnodd y Tribiwnlys ein costau i ni'n llawn. Dyfarnodd yr Uchel Lys gostau i ni o £30,000. |
Helpu cwmnïau a chyfreithwyr i wneud pethau'n iawn
Er mwyn helpu cwmnïau a chyfreithwyr i ddeall pryd y gallent fod mewn perygl o fethu â chyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl, neu beidio â chydymffurfio â'n rheolau, rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau, fel:
- Ein llinell gymorth Moeseg Broffesiynol a'n gwasanaeth sgwrsio ar y we, wrth law i ateb cwestiynau am ein rheolau a'n rheoliadau.
- Canllawiau i helpu cwmnïau i ddeall sut mae ein rheolau a'n rheoliadau'n gweithio.
- Ein cyhoeddiadau Rhagolwg Risg, sy'n tynnu sylw at y risgiau mwyaf yn y sector a sut gall cwmnïau a chyfreithwyr fynd i'r afael â nhw.
- Adolygiadau thematig o feysydd allweddol yn y sector cyfreithiol, gan dynnu sylw at risgiau a chodi ymwybyddiaeth o sut beth yw ymarfer da a drwg.
- Digwyddiadau ar-lein ar bynciau cydymffurfio cyffredin ac wyneb yn wyneb, yn amrywio o gydymffurfio â'n Rheolau Cyfrif i fynd i'r afael â gwyngalchu arian.
Perygl o risg
Rydym ni'n sganio'r amgylchedd cyfreithiol i ddod o hyd i risgiau posibl. Rydym yn cynhyrchu amrywiaeth o ddeunyddiau i godi ymwybyddiaeth o risgiau posibl ac i gefnogi'r proffesiwn i'w rheoli. Mae hyn yn helpu i ddiogelu defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol. Roedd ein cyhoeddiadau Rhagolwg Risg 2023 yn ymdrin â defnyddio deallusrwydd artiffisial yn y farchnad, rheoli risg rheoleiddiol yn ystod ansicrwydd economaidd a defnyddio cryptoarian a thechnolegau cyfriflyfr eraill wedi'u dosbarthu.
Mae ein rhybuddion sgam ar ein gwefan yn dal i gael eu defnyddio'n helaeth. Eu nod yw rhoi gwybod i gwmnïau ac aelodau o'r cyhoedd am fusnesau sy'n camddefnyddio manylion cwmnïau cyfreithiol a chwmnïau cyfreithiol ffug sy'n ceisio twyllo pobl.
Nifer o weithiau y gwelwyd rhybuddion sgam ar wefan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
2017/18 | 2018/19 | 2019/20 | 2020/21 | 2021/22 | 2022/23 |
---|---|---|---|---|---|
153,000 | 153,000 | 169,000 | 160,000 | 170,000 | 178,000 |
Gall gweithio yn y gyfraith fod yn heriol ac yn straen.
Pan fydd y straen hwn yn cael effaith negyddol ar waith cyfreithiwr neu gwmni, gall effeithio ar ansawdd y gwasanaethau cyfreithiol a ddarperir ac arwain at gamgymeriadau ac, o bosibl, achosion difrifol o dorri ein safonau, fel anonestrwydd. Gall hyn olygu ein bod yn cymryd camau, y gellir eu hosgoi os bydd cyfreithwyr yn sylwi ar yr arwyddion rhybudd yn gynnar ac yn gofyn am y gefnogaeth a'r cymorth cywir.
Os bydd hyn yn digwydd, y peth cyntaf i'w wneud yw siarad â'r bobl berthnasol yn eich cwmni. Mae pob cwmni yn rhwym wrth ein Hegwyddorion a'r Codau Ymddygiad. Dylai cwmnïau drin staff yn deg a gyda pharch a darparu cefnogaeth pan fo angen.
Os na allwch chi droi at eich cyflogwr, rhowch wybod i ni – efallai y gallwn eich helpu i reoli eich cyfrifoldebau cyn i bethau waethygu.
Ceisio cymorth os ydych yn destun ymchwiliad
Rydym yn deall bod bod yn rhan o ymchwiliad yn gallu bod yn gyfnod anodd a brawychus, yn enwedig i bobl sydd â phroblemau iechyd, neu sydd mewn sefyllfa fregus. Os felly, rydym yn annog pobl i ddweud wrthym, gan fod camau y gallwn eu cymryd i wneud y broses yn haws. Dyma enghreifftiau o sut y gallwn gynnig cymorth neu ddarparu addasiadau rhesymol os oes angen:
- darparu un pwynt cyswllt
- caniatáu amser ychwanegol i ymateb i ni (lle gallwn ni)
- gohirio ymchwiliad am gyfnod byr.
Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac rydym yn ymdrin â phob mater ar sail ei amgylchiadau. Efallai y bydd angen cymorth ar aelodau o'r cyhoedd a chyfreithwyr sy'n mynegi pryderon i ni hefyd, yn enwedig pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Rydym ni'n cyfeirio pobl at amrywiaeth o adnoddau a sefydliadau sy'n gallu helpu, ac mae ein holl staff yn cael hyfforddiant ar wneud addasiadau rhesymol.
Rydym ni hefyd yn ymwybodol bod y broses ymchwilio yn gallu achosi straen a'i bod yn gallu gwaethygu neu achosi problemau iechyd. Rydym ni'n rhoi canllawiau ynghylch beth i'w ddisgwyl os ydym yn gwneud ymchwiliad yn eich cylch a gwybodaeth am ein polisi addasiadau rhesymol, os oes gennych anabledd neu broblem iechyd.
Er mwyn helpu cyfreithwyr a chwmnïau i ddeall sut rydym yn mynd i'r afael â materion iechyd a'r dystiolaeth feddygol y gallem ofyn amdani yn ystod ymchwiliad, fe wnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar faterion iechyd a thystiolaeth feddygol ym mis Mai 2023. Mae'n cynnwys gwybodaeth am godi mater iechyd gyda ni, pryd y bydd arnom angen adroddiad meddygol a beth y dylai ei gynnwys. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth am sut y gall materion iechyd effeithio ar eich gallu i ymarfer, ymysg pynciau cysylltiedig eraill.
Cefnogi tystion
Pan fyddwn yn ymchwilio i gyfreithiwr neu gwmni, efallai y bydd angen cymryd datganiad neu gyfweld â thystion. Bydd hyn yn ein helpu yn ein hymchwiliad ac, o bosibl, i benderfynu a oes angen i ni gyfeirio'r mater at y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
Rydym ni'n deall bod hyn yn gallu achosi straen, felly rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi tystion. Er enghraifft, os nad Saesneg yw iaith gyntaf y tyst, efallai y gallwn gynnig cyfieithydd neu gyfieithydd ar y pryd. Os mai'r tyst hefyd yw'r sawl a roddodd wybod i ni am y pryder, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am sut rydym yn bwrw ymlaen â'r mater. Rydym hefyd yn hyfforddi ein staff i helpu unigolion agored i niwed a gofidus, er enghraifft, mewn achosion camymddwyn neu aflonyddu rhywiol.
Chwythu'r Chwiban i'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr
Os bydd gwybodaeth yn cael ei darparu i ni'n gyfrinachol, byddwn yn cymryd camau priodol i ddiogelu hunaniaeth y sawl sy'n adrodd ac i ddelio â'r mater mewn modd sensitif.
Rhaid i unigolion a chwmnïau rydym ni'n eu rheoleiddio roi gwybod i ni am gamymddwyn sy'n ymwneud â'r rheini rydym ni'n eu rheoleiddio neu weithwyr cwmnïau cyfreithiol. Fodd bynnag, i rywun sy'n cael ei reoleiddio gennym ni ac sy'n poeni a ydynt am fod yn destun ymchwiliad am eu rhan eu hunain mewn unrhyw ddrwgweithredu, gallai rhoi gwybod am y materion a chydweithio â ni fod yn fesur lliniaru. Mae hyn yn arbennig o wir pan fyddwn yn cael gwybod am faterion yn gynnar.
Fodd bynnag, byddai'n well gennym petai cyfreithwyr ac eraill sy'n gweithio yn y sector cyfreithiol ddarparu gwybodaeth yn hwyr na ddim o gwbl. Er na allwn warantu na fyddwn yn cymryd unrhyw gamau yn erbyn y sawl sy'n riportio, mae dod â'r wybodaeth atom yn debygol o helpu eu sefyllfa a byddwn yn ystyried y cyd-destun, gan gynnwys, er enghraifft, ofni cael eich ceryddu.
Atodiad 1: Camau rydym ni'n eu cymryd a'r camau y mae'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn eu cymryd
Camau a gymerwyd ac o dan ba amgylchiadau | Lefel y camymddwyn | Ein cam gweithredu | Cam gweithredu Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) |
---|---|---|---|
Llythyr cynghori – anfonir at unigolyn/cwmni i'w helpu i ddeall trefniadau rheoleiddio'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr a'r ymddygiad sy'n dangos risg. Ei nod yw eu helpu i gydymffurfio yn y dyfodol a'i atal rhag digwydd eto'n anfwriadol. | Yn aml yn fach iawn neu lle mae mater wedi cael ei reoli'n briodol mewn modd cadarn. | Ie | Na |
Llythyr rhybuddio – anfonir at unigolyn/cwmni i ddweud eu bod wedi dod yn agos at orchymyn rheoli/cosb disgyblu ac mae'n debygol y cymerir camau os bydd y tor-amod yn parhau neu'n digwydd eto. | Yn aml yn fach iawn neu lle mae mater wedi cael ei reoli'n briodol mewn modd cadarn. | Ie | Na |
Ceryddu – i roi sancsiwn i'r person sy'n cael ei reoleiddio am dorri safonau/gofynion, ond lle mae'r materion o ddifrifoldeb cymedrol yn unig ac nad oes angen lefel uwch o ymateb i gynnal safonau/cynnal hyder y cyhoedd. | Difrifoldeb cymedrol. | Ie | Na |
Cosb ariannol benodedig – cosb am dorri rheolau lefel is. | Achosion penodol o dorri ein rheolau sydd fel arfer yn llai difrifol eu natur. | Ie – hyd at £1,500 ar gyfer rhai achosion penodol o dorri ein rheolau. Mae'n caniatáu inni ddelio â materion llai difrifol mewn ffordd fwy effeithiol ac amserol. Rydym ni'n defnyddio'r rhain ar gyfer achosion o dorri ein rheolau ar lefel is, heb fod yn gymhleth. | Na |
Dirwy – dirwyo cwmni neu unigolyn lle bu achos difrifol o dorri safonau a gofynion. | Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. |
Ie – os byddwn yn rhoi dirwy, mae'n golygu nad ydi diogelu'r cyhoedd/diddordeb y cyhoedd yn gofyn am atal dros dro neu ddileu enw oddi ar y gofrestr. |
Ie – diderfyn ar gyfer unrhyw gategori o dorri rheol. Gall y Tribiwnlys ddirwyo a gosod sancsiynau eraill fel dileu enw oddi ar y gofrestr neu atal dros dro. |
Amodau ymarfer a roddir ar gyfreithiwr neu unigolyn arall rydym ni'n ei reoleiddio – i gyfyngu ar unigolyn neu ei atal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau penodol neu gymryd rhan mewn rhai cytundebau/cymdeithasau busnes neu drefniadau ymarfer. |
Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan mae'n ofynnol delio â'r risg. | Ie |
Ie |
Amodau ymarfer yn cael eu rhoi ar gwmni – i gyfyngu ar gwmni neu ei atal rhag gwneud rhai gweithgareddau. Gellir eu rhoi hefyd i reolwyr, gweithwyr neu ddeiliaid buddiant cwmni lle nad oes ganddynt dystysgrif ymarfer. | Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd ym mudd y cyhoedd i wneud hynny. | Ie |
Ie |
Cerydd – sancsiwn am gamymddwyn. | Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol, a phan fydd ym mudd y cyhoedd i wneud hynny. | Na | Ie – dyma'r sancsiwn a roddir ar gyfer y lefel isaf o gamymddwyn a gyflwynwyd i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. |
Gorchymyn adran 43 (i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, e.e. rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol) – yn cyfyngu ar unigolion rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd. |
Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. |
Ie | Ie |
Atal dros dro neu ddirymu awdurdodiad/cydnabyddiaeth cwmni – tynnu awdurdodiad cwmni naill ai'n barhaol neu dros dro. |
Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. |
Ie – gallwn atal dros dro neu ddiddymu tystysgrif awdurdodi strwythur busnes amgen neu gwmni cyfreithiol traddodiadol. Mae hyn i bob pwrpas yn eu hatal rhag ymarfer am gyfnod neu am gyfnod amhenodol. |
Ie – gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr ddirymu awdurdodiad cwmni cyfreithiol traddodiadol. |
Atal tystysgrif ymarfer – atal rhag ymarfer, naill ai am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. |
Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. |
Na – nid oes gennym y pŵer penodol hwn, ond bydd yn digwydd yn ddiofyn, er enghraifft, pan fyddwn yn ymyrryd mewn ymarfer cyfreithiwr. |
Ydy – gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr atal unigolion rhag ymarfer. Gall hyn fod am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol. |
Ymyriad – cymryd arian a ffeiliau cleientiaid fel nad ydynt yn gallu gweithredu mwyach. | Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. | Ie | Na |
Dileu enw oddi ar y gofrestr – mae'n atal cyfreithiwr rhag ymarfer yn gyfan gwbl. Mae enw'r cyfreithiwr wedi'i dynnu oddi ar y gofrestr. | Digwyddiad difrifol neu gyfres o ddigwyddiadau sydd, gyda'i gilydd, yn ddifrifol. | Na | le |
Canlyniad y cytunwyd arno
- Dewis arall yn lle cael gwrandawiad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT). Rhaid i'r Tribiwnlys gymeradwyo canlyniadau y cytunwyd arnynt. Rydym yn cytuno ar ganlyniad a chostau gyda chyfreithiwr neu gwmni, sy'n seiliedig ar set o ffeithiau y cytunwyd arnynt. Bydd y Tribiwnlys wedyn yn ystyried y canlyniad ac yn penderfynu a ddylid ei dderbyn, a ddylid gwneud unrhyw newidiadau iddo, neu orchymyn gwrandawiad llawn ar gyfer yr achos. Lle bo'n briodol, mae'n ffordd gost-effeithiol, gyflym a chymesur o ddatrys mater.
- Strwythur busnes amgen (ABS)
- Mae strwythurau busnes amgen, sydd hefyd yn cael ei alw'n gorff trwyddedig, yn caniatáu i bobl nad ydynt yn gyfreithwyr fod yn berchen ar gwmnïau cyfreithiol neu fuddsoddi ynddynt, gan agor yr hyn a oedd yn arfer bod yn farchnad gaeedig.
- Strategaeth Gorfodi
- Mae ein Strategaeth Gorfodi yn nodi sut byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi pan fyddwn yn dod o hyd i gwmni, cyfreithiwr neu unigolyn arall rydym yn ei reoleiddio sydd heb gyrraedd y safonau rydym yn eu disgwyl. Mae'n rhoi eglurder ynghylch sut a phryd byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi, a'r hyn rydym ni'n ei ystyried wrth asesu difrifoldeb y camymddwyn a'r camau i'w cymryd.
- Dirwy
-
Cosb ariannol. Rydym ni'n gallu rhoi dirwy gwerth hyd at £25,000 i'r rhan fwyaf o gwmnïau, cyfreithwyr ac unigolion eraill rydym ni'n eu rheoleiddio. Gallwn ni ddirwyo strwythur busnes amgen hyd at £250m a hyd at £50m i reolwyr a gweithwyr strwythur busnes amgen rydym ni'n eu rheoleiddio.
Mae'r eithriad i hyn yn ymwneud â Deddf Troseddu Economaidd a Thryloywder Corfforaethol 2023. Mae'r Ddeddf yn rhoi pwerau dirwyo diderfyn i ni er mwyn caniatáu rhai achosion o dor-amod sy'n ymwneud â throseddau economaidd. Daeth i rym ym Mawrth 2024. Byddwn yn gallu rhoi'r mathau hyn o ddirwyon ar gyfer achosion o dorri ein rheolau a ddigwyddodd ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym yn unig.
Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr roi dirwyon diderfyn i unigolion a chwmnïau. 'Mae rhagor o wybodaeth yn ein hadran 'Mwy o bwerau dirwyo'.
- Cosb ariannol benodedig
- Dirwy y gallwn ei rhoi am dorri ein rheolau'n benodol, er enghraifft, diffyg cydymffurfio â'n Rheolau Tryloywder neu fethu ag ymateb i'n ceisiadau. Gallwn roi cosbau ariannol penodedig o £750 am dorri rheol am y tro cyntaf a £1,500 am dorri rheol eto o fewn tair blynedd. Mae'n caniatáu inni ddelio â materion llai difrifol mewn ffordd fwy effeithiol ac amserol.
- Ymyriad/Ymyrryd
- Mae ymyriad yn golygu ein bod yn cymryd arian a ffeiliau cleientiaid oddi wrth bractis cwmni neu gyfreithiwr i gadw'r arian a'r ffeiliau'n ddiogel. Bydd hyn i bob pwrpas yn cau practis y cwmni neu'r cyfreithiwr. Rydym yn galw hyn yn ymyriad. Byddwn yn gwneud hyn os byddwn yn credu bod pobl mewn perygl o gael gwasanaethau cyfreithiol gan gyfreithiwr anonest, neu os yw'n angenrheidiol fel arall i ddiogelu buddiannau cleientiaid.
- Ombwdsmon Cyfreithiol (LeO)
- Sefydliad sy'n delio â chwynion am safonau'r gwasanaeth y mae pobl yn ei dderbyn gan eu cyfreithiwr.
- Llythyr cynghori
- Llythyr rydym yn ei anfon i helpu cyfreithiwr/cwmni i ddeall ein trefniadau rheoleiddio a'r ymddygiad sy'n dangos risg. Ei nod yw eu helpu i gydymffurfio yn y dyfodol a'i atal rhag digwydd eto'n anfwriadol.
- Llythyr rhybuddio
- Rhybudd rydym yn ei roi i wneud unigolyn/cwmni yn ymwybodol ei fod wedi dod yn agos at orchymyn rheoli neu gosb disgyblu ac rydym yn debygol o gymryd camau os bydd y tor-amod yn parhau neu'n digwydd eto.
- Dim gorchymyn
- Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, gall dim gorchymyn olygu na chanfu'r Tribiwnlys o'n plaid yn dilyn gwrandawiad. Gall hefyd olygu ei fod wedi canfod o'n plaid ni, ond mae'n penderfynu nad yw'n angenrheidiol nac yn briodol rhoi sancsiwn neu reolaeth.
- Penderfyniad arall
- Yng nghyd-destun canlyniad yn y Tribiwnlys, gall arall olygu, er enghraifft, cerydd neu orchymyn adran 43.
- Amod ymarfer
-
Amodau sy'n atal neu'n cyfyngu ar gwmni neu unigolyn rhag cyflawni gweithgarwch penodol. Fel arfer, mae tair sefyllfa lle gallwn osod amodau ar gyfreithwyr, cwmnïau a phobl eraill rydym yn eu rheoleiddio:
- Amod fel rhan o ganlyniad lle rydym wedi canfod camymddwyn.
- Amod interim, y byddwn yn ei osod yn ystod ymchwiliad ac yn aros am ganlyniad terfynol yr ymchwiliad. Gweithredir yr amod i leihau'r risg o niwed i'r cyhoedd. Byddwn yn monitro'r amodau hyn wrth i ni fwrw ymlaen ag ymchwiliad.
- Tystysgrif ymarfer gydag amodau sy'n bodoli eisoes. Pan fydd amodau presennol eisoes ar dystysgrif ymarfer a phan wneir cais i adnewyddu, byddwn yn penderfynu a ddylid ailgyflwyno, amrywio neu ddileu'r amodau blaenorol o'r dystysgrif ymarfer newydd.
Gall y Tribiwnlys osod amodau ar gwmnïau neu gyfreithwyr fel rhan o'i ganlyniad terfynol. Mae ganddo ddisgresiwn eang o ran pa amodau y gall eu gosod. Bydd y ffordd rydym yn monitro'r cyflwr yn dibynnu ar natur yr amod a roddir.
- Cerydd
- Rydym yn ceryddu unigolyn neu gwmni i ddangos anghymeradwyaeth lle mae ein gofynion neu ein safonau wedi cael eu torri'n eithaf difrifol.
- Cyfreithiwr Ewropeaidd Cofrestredig (REL)
- Cyfreithwyr Ewropeaidd sydd wedi cofrestru gyda ni i ymarfer cyfraith eu hawdurdodaeth gartref yng Nghymru a Lloegr a chynghori ar gyfraith Cymru a Lloegr (gyda rhai cyfyngiadau). Ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, dim ond cyfreithwyr o'r Swistir all fod yn Gyfreithwyr Ewropeaidd Cofrestredig.
- Cyfreithiwr tramor cofrestredig (RFL)
-
Rhywun â chymhwyster cyfreithiol tramor sydd wedi'i gofrestru gyda ni ond nad yw'n cael ei reoleiddio gennym ni. Gallant ddod yn rheolwr neu'n berchennog ar gwmni cyfreithiol rydym yn ei reoleiddio, ymarfer cyfraith eu hawdurdodaeth gartref, cynghori ar gyfraith Cymru a Lloegr a darparu gwasanaethau cyfreithiol diamod. Rydym yn cynnal ac yn cyhoeddi cofrestr sy'n cynnwys enwau'r holl gyfreithwyr tramor cofrestredig. Gweler ymhellach ein canllawiau ar gyfreithwyr tramor cofrestredig.
- Cytundeb setlo rheoleiddiol (RSA)
- O dan gytundeb setlo rheoleiddiol, rydym yn cytuno ar y ffeithiau a'r canlyniad/sancsiwn mewn ymchwiliad gyda'r cwmni, y cyfreithiwr neu'r unigolyn sy'n rhan o'n hymchwiliad. Maent yn caniatáu i ni ddiogelu defnyddwyr a budd y cyhoedd drwy sicrhau canlyniadau priodol yn gyflym, yn effeithlon ac am gost gymesur. Yn wahanol i ganlyniadau y cytunwyd arnynt – y mae'n rhaid i'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr eu cymeradwyo – nid yw cytundebau setlo rheoleiddiol yn cynnwys y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Bydd y sancsiwn y cytunwyd arno o fewn pwerau'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
- Cerydd swyddogol
- Sancsiwn a osodir gan y Tribiwnlys am y lefel isaf o gamymddwyn a gyflwynir iddo, a lle ystyrir nad oes angen unrhyw sancsiwn mwy.
- Ymatebydd
- Yr ymatebydd yw'r cwmni, y cyfreithiwr neu'r unigolyn arall y byddwn ni neu'r Tribiwnlys yn cymryd camau gorfodi yn ei erbyn.
- Cofrestr cyfreithwyr
- Dyma gofnod o gyfreithwyr rydym wedi'u hawdurdodi i ymarfer cyfraith Cymru a Lloegr. Ni fydd pob cyfreithiwr ar y rhestr yn ymarfer fel cyfreithiwr.
- Sancsiynau
- Camau a gymerwyd i ddisgyblu cwmnïau, cyfreithwyr neu bobl eraill rydym yn eu rheoleiddio i atal ymddygiad tebyg ganddynt hwy neu eraill yn y dyfodol, ac i gynnal safonau a chynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiwn.
- Gorchymyn adran 43
- Sancsiwn a roddwn i rai nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, e.e. rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr a gweithwyr fel ysgrifenyddion cyfreithiol. Rydyn ni'n eu hatal rhag gweithio mewn cwmni cyfreithiol heb ein caniatâd ni.
- Gorchymyn adran 99
- Sancsiwn a roddwn i rai nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y proffesiwn, sy'n eu hanghymhwyso rhag bod yn weithiwr neu rhag ymgymryd â gweithgareddau penodol, fel gweithredu fel rheolwr, pennaeth practis cyfreithiol neu'r pennaeth cyllid a gweinyddu.
- Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT)
- Tribiwnlys annibynnol lle rydym yn dwyn erlyniadau yn erbyn cwmnïau, cyfreithwyr a phobl eraill rydym yn eu rheoleiddio. Mae ganddo bwerau nad oes gennym ni, er enghraifft, gall roi dirwyon diderfyn am unrhyw fath o dor-amod a thynnu cyfreithwyr oddi ar y gofrestr.
- Dileu oddi ar y gofrestr
- Sancsiwn pan fydd y Tribiwnlys yn atal cyfreithiwr rhag ymarfer a bod ei enw'n cael ei dynnu oddi ar y gofrestr.
- Atal dros dro
-
Rheoliadau a/neu sancsiwn y gallwn ni neu'r Tribiwnlys eu rhoi.
Gallwn atal dros dro neu ddiddymu tystysgrif awdurdodi strwythur busnes amgen neu gwmni cyfreithiol traddodiadol. Mae hyn i bob pwrpas yn eu hatal rhag ymarfer am gyfnod neu am gyfnod amhenodol. Gall y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr hefyd ddiddymu awdurdodiad cwmni cyfreithiol traddodiadol.
Ni allwn atal tystysgrif ymarfer cyfreithiwr, cyfreithiwr Ewropeaidd cofrestredig neu gyfreithiwr tramor cofrestredig. Dim ond y Tribiwnlys sy'n gallu gwneud hyn. Gall hyn fod am gyfnod penodol neu am gyfnod amhenodol.