Cynnal Safonau Proffesiynol – Adroddiad Monitro Amrywiaeth 2022/23

Cyhoeddwyd Rhagfyr 2024

English Cymraeg

Gwybodaeth am yr adroddiad hwn a'r prif ganfyddiadau

Dyma'r bumed flwyddyn i ni gyhoeddi canfyddiadau ar nodweddion amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi. Mae monitro amrywiaeth pobl yn ein prosesau gorfodi a gweithredu ar y canfyddiadau yn rhan hanfodol o wreiddio cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein gwaith. Rydym nid yn unig yn gwneud hyn oherwydd bod gennym ddyletswydd gyhoeddus i wneud hynny, fel y nodir o dan y Ddeddf Cydraddoldeb a'r Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol, ond oherwydd mai dyma'r peth iawn i'w wneud.

Mae'r adroddiad hwn yn dadansoddi amrywiaeth unigolion yn ein prosesau ymchwilio a gorfodi dros ein blwyddyn fusnes 2022/23 (o 1 Tachwedd 2022 i 31 Hydref 2023). Rydym yn cymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer a defnyddiwn y term 'unigolion', sy'n cynnwys cyfreithwyr sy'n ymarfer ond hefyd gyfreithwyr o wledydd tramor, paragyfreithwyr, ysgrifenyddion cyfreithiol a rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr. Rydym yn darparu dadansoddiad yn ôl rhyw, ethnigrwydd, oedran a, lle mae'r niferoedd yn ddigonol, yn ôl anabledd, mewn dau brif faes. Sef:

  • unigolion sy'n destun ein prosesau ymchwilio a gorfodi
  • unigolion a gafodd amodau ar eu tystysgrif ymarfer.

Gellir darllen yr adroddiad hwn ar y cyd â'n hadroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2022/23. Mae'r adroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol yn egluro ein dull gweithredu ar gyfer ein gwaith ymchwilio a gorfodi ac yn darparu data cyfredol a hanesyddol am y gwaith hwn, gan gynnwys y camau rydym wedi'u cymryd yn erbyn y cwmnïau, y cyfreithwyr a'r unigolion rydym yn eu rheoleiddio.

Prif ganfyddiadau

Unigolion sy'n destun ein prosesau ymchwilio a gorfodi

Ar gyfer y dadansoddiad yn yr adroddiad hwn, rydym wedi edrych ar nifer yr unigolion sy'n destun ein prosesau ymchwilio a gorfodi. Mae'r niferoedd sy'n gysylltiedig â phedwar cam allweddol y prosesau hyn yn 2022/23 wedi'u nodi isod:

  • Cam 1 – 7,885 o unigolion wedi'u henwi ar bryderon a adroddwyd i ni sy'n cael eu hystyried gan ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar (AERT).
  • Cam 2 – 1,432 o unigolion wedi'u henwi ar bryderon a oedd wedi pasio ein prawf trothwy asesu ac y gwnaethom fwrw ymlaen â nhw gydag ymchwiliad.
  • Cam 3 – 265 o unigolion wedi'u henwi ar achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) (llwybr A). *
  • Cam 4 – 111 o unigolion wedi'u henwi ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (SDT) drwy wrandawiad neu ganlyniad y cytunwyd arno (llwybr B).

* Sylwch fod yr amodau ymarfer a osodwyd gennym o ganlyniad i ymchwiliad yn cael eu trafod mewn adran ar wahân.

  • Mae'r diagram isod yn dangos y camau a'r llwybrau hyn.

Mae'r isod yn dangos y camau a'r llwybrau hyn.

  1. Pryderon sy'n cael eu hadrodd i ni a'u hystyried gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar.
  2. Pryderon sy'n pasio ein prawf ac rydym yn bwrw ymlaen â nhw ar gyfer ymchwiliad
  3. LLWYBR A - Achosion lle rydym yn cymryd cam rheoleiddio
  4. LLWYBR B - Achosion sy'n dod i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Mae'r adroddiad yn nodi ein dadansoddiad ar gyfer 2022/23 ac yn tynnu sylw at dueddiadau a phatrymau allweddol dros y pum mlynedd diwethaf, gan ddechrau gyda blwyddyn ymarfer 2018/19.

Mae'r data'n dangos bod rhai gwahaniaethau yng nghanran yr unigolion o wahanol grwpiau yng nghamau ein prosesau ymchwilio a gorfodi, o'i gymharu â chanran y grwpiau hynny yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

Mae angen i ni fod yn ofalus wrth lunio casgliadau o'r data lle mae nifer yr unigolion dan sylw yn isel. Mae hyn yn berthnasol, yn benodol, i ddadansoddiad o anabledd ar bob cam a'n dadansoddiad o ryw, ethnigrwydd ac oedran yng nghamau 3 a 4 (sy'n cynnwys 265 a 111 o unigolion, yn y drefn honno). Oherwydd y niferoedd mwy dan sylw, gallwn ddod i gasgliadau mwy dibynadwy o'r dadansoddiad yng nghamau 1 a 2 (sy'n cynnwys 7,885 a 1,432 o unigolion, yn y drefn honno). Dyma'r prif ganfyddiadau o'r ddau gam hyn o'n dadansoddiad o ryw, ethnigrwydd ac oedran:

  • Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a dynion wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon a adroddwyd i ni (cam 1) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth yn uwch yng ngham 2, pan fydd achosion yn pasio ein prawf trothwy asesu ac rydym yn penderfynu ymchwilio iddynt.
  • Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae tangynrychiolaeth o gategorïau oedran iau (unigolion 44 oed ac ieuengach) mewn pryderon a adroddwyd i ni (cam 1), o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rhai yn y categorïau hŷn (45 oed a throsodd) sy'n cael eu gorgynrychioli mewn pryderon a adroddwyd i ni o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae'r dadansoddiad oedran yng ngham 2 yn cyd-fynd yn fras â'r dadansoddiad yng ngham 1.

Am y tro cyntaf eleni, rydym wedi cynnwys dadansoddiad o'r unigolion y gwnaethom ymyrryd yn eu hymarfer yng ngham 3 yn ôl nodwedd amrywiaeth.

Unigolion gydag amod ar eu tystysgrif ymarfer

Am y tro cyntaf, rydym hefyd wedi cynnwys dadansoddiad o'r amodau a osodwyd gennym ar dystysgrifau ymarfer unigolion ar gyfer 2022/23. Fel arfer, mae tair sefyllfa lle gallwn osod amodau ar gyfreithwyr, cwmnïau ac unigolion eraill rydym yn eu rheoleiddio:

  • Amod fel rhan o ganlyniad lle rydym wedi canfod camymddwyn.
  • Amod interim, y byddwn yn ei osod yn ystod ymchwiliad, gan aros am ganlyniad terfynol yr ymchwiliad. Gweithredir yr amod i leihau'r risg o niwed i'r cyhoedd. Byddwn yn monitro'r amodau hyn wrth i ni fwrw ymlaen ag ymchwiliad.
  • Tystysgrif ymarfer gydag amodau sy'n bodoli eisoes. Pan fydd amodau presennol eisoes ar dystysgrif ymarfer a phan wneir cais i'w hadnewyddu, byddwn yn penderfynu a ddylid ailgyflwyno, amrywio neu ddileu'r amodau blaenorol o'r dystysgrif ymarfer newydd.

Gall y Tribiwnlys hefyd osod amodau ar gwmnïau neu gyfreithwyr fel rhan o'i ganlyniad terfynol. Mae ganddo ddisgresiwn eang o ran pa amodau y gall eu gosod.

Mae'r patrymau o orgynrychiolaeth a welir yn y data amodau ymarfer yn debyg i'r hyn a welir mewn ymchwilio a gorfodi. Eto, mae angen i ni fod yn ofalus wrth lunio casgliadau o'r data lle mae nifer yr unigolion dan sylw yn isel. Mae hyn yn berthnasol, yn benodol, i'n dadansoddiad o anabledd ac i'n dadansoddiad o'r amodau a osodwyd gan y Tribiwnlys.

Dyma brif ganfyddiadau ein dadansoddiad o ryw, ethnigrwydd ac oedran yr unigolion y gwnaethom osod amodau arnynt:

  • Mae dynion yn cael eu gorgynrychioli yn y boblogaeth gydag amodau ymarfer a osodwyd gennym o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer.
  • Mae unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cael eu gorgynrychioli yn y boblogaeth gydag amodau ymarfer a osodwyd gennym o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer.
  • Mae unigolion yn y categorïau oedran iau (44 oed ac iau) yn cael eu tangynrychioli yn y boblogaeth gydag amodau ymarfer a osodwyd gennym, o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Byddwn yn parhau i adrodd am ein canfyddiadau ynghylch y dadansoddiad amrywiaeth mewn perthynas ag amodau ymarfer bob blwyddyn.

Ein hymateb

O ystyried y patrymau a welwyd yn yr adroddiadau monitro blynyddol ynghylch unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, fe wnaethom gomisiynu ymchwil i roi cipolwg ar y ffactorau sy'n sbarduno'r orgynrychiolaeth hon.

Roeddem wedi canolbwyntio ar yr adroddiadau a ddaeth i law a'r adroddiadau a oedd wedi pasio ein prawf trothwy asesu ac a gafodd eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad. Gwnaed yr ymchwil gan gonsortiwm annibynnol o brifysgolion Efrog, Caerdydd a Chaerhirfryn.

Cynhaliodd yr ymchwil ddadansoddiad manwl o'n setiau data ac edrychodd ar brofiadau cyfreithwyr ac ymddygiad defnyddwyr gwasanaethau cyfreithiol. Canfu ddarlun cymhleth y tu ôl i orgynrychiolaeth o gyfreithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhrosesau gorfodi'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr. Canfu fod rhai ffactorau'n croestorri ag ethnigrwydd, gan gynnwys maint y cwmni lle mae'r cyfreithiwr yn gweithio ac ardal ymarfer y cwmni. Mae'r rhain yn effeithio ar yr orgynrychiolaeth a welwyd, ond nid ydynt yn llwyr atebol amdani, ac mae'r berthynas rhwng y ffactorau hyn yn gymhleth ac yn anodd ei dadansoddi.

Yn eu hadolygiad o'n prosesau asesu, daeth y prifysgolion i'r casgliad bod ein dulliau, ar y cyfan, mor gadarn â phosibl ac wedi'u cynllunio i wneud yn siŵr bod tegwch a chysondeb wrth wneud penderfyniadau.

Mae trosolwg o'r ymchwil, y canfyddiadau allweddol a'r mesurau rydym yn bwriadu eu cymryd i fynd i'r afael â'r materion sylfaenol ar gael i'w darllen.

Open all

Rydym yn derbyn adroddiadau sy'n codi pryderon am ymddygiad cwmnïau cyfreithiol rydym yn eu rheoleiddio yn ogystal ag ymddygiad unigolion. Mae'r data monitro amrywiaeth yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar yr unigolion sy'n destun ein hymchwiliadau a'n gwaith gorfodi. Mae'n cynnwys y cyfnod rhwng 1 Tachwedd 2022 a 31 Hydref 2023. Nid yw'n cynnwys unrhyw ddata am yr adroddiadau na'r camau rheoleiddio rydym yn eu cymryd mewn perthynas â chwmnïau cyfreithiol.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn canolbwyntio ar y gweithgarwch rheoleiddio a wnaed yn ystod y flwyddyn adrodd. Nid yw'n dilyn cynnydd un garfan o unigolion drwy gamau amrywiol ein prosesau ymchwilio a gorfodi. Bydd llawer, ond nid pob un, o'r unigolion yr adroddwyd i ni amdanynt yn 2022/23 (sydd yn nadansoddiad cam 1) hefyd yn rhan o ddadansoddiad ymchwiliadau cam 2. Mae hyn oherwydd ein bod yn penderfynu'n gyffredinol a ydym am ymchwilio i bryder yr adroddwyd amdano o fewn dau fis i'w dderbyn.

Fodd bynnag, mae natur ymchwiliad yn golygu y gall gymryd mwy na blwyddyn i gwblhau'r ymchwiliad a chyrraedd canlyniad. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod llawer o'r unigolion a gafodd eu hadrodd i ni yn 2022/23 yn cael eu cynrychioli yn y camau rheoleiddio rydym ni'n eu cymryd yn yr un flwyddyn (a nodir yn nadansoddiad cam 3), neu yn y penderfyniadau a wnaed gan y Tribiwnlys (a nodir yn nadansoddiad cam 4).

Yn yr un modd, mewn perthynas â'r amodau ymarfer, mae'r adroddiad yn ymdrin â'r penderfyniadau a wnaed dros y cyfnod adrodd. Dyma'r tro cyntaf i ni adrodd ar y data hwn a byddwn yn parhau i wneud hynny bob blwyddyn. Rydym ni wedi adrodd ar y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a'r rheini mae'r Tribiwnlys yn eu gwneud mewn perthynas ag amodau ymarfer. Rydym wedi cymharu dwy set o ddata sy'n ymwneud ag amodau ymarfer â'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Cymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer

Er mwyn cyd-destun, yn yr adroddiad hwn rydym yn cyfeirio at y dadansoddiad o'r boblogaeth sy'n ymarfer, a nodir yn yr adran 'Proffil amrywiaeth y bobl rydym yn eu rheoleiddio'.

Mae ein dadansoddiad yn edrych ar y boblogaeth ymysg y grwpiau hynny – hynny yw, y bobl y mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar eu cyfer. Mae hyn yn amrywio ym mhob cam o'r broses, ond mae gennym wybodaeth am amrywiaeth ar:

  • 84% o'r boblogaeth mewn perthynas â rhyw
  • 99.96% o'r boblogaeth (dangosir hyn fel 100% oherwydd talgrynnu) ynghylch oedran
  • 68% o'r boblogaeth mewn perthynas ag ethnigrwydd.

Data sy'n ymwneud ag unigolion

Rydym yn defnyddio'r term 'unigolion' wrth drafod y bobl sy'n destun ein prosesau ymchwilio a gorfodi. Mae hyn yn cynnwys cyfreithwyr sy'n ymarfer, cyfreithwyr o dramor, paragyfreithwyr, ysgrifenyddion cyfreithiol a rheolwyr nad ydynt yn gyfreithwyr. Mae gennym rôl i reoleiddio pawb sy'n gweithio mewn cwmni cyfreithiol, er mwyn i ni allu ymchwilio i bryderon ynghylch yr holl unigolion sy'n gweithio mewn cwmnïau cyfreithiol - nid dim ond cyfreithwyr. Fodd bynnag, nid yw'r rheini nad ydynt yn gyfreithwyr ar gofrestr cyfreithwyr, ac nid oes ganddynt dystysgrif ymarfer na chyfrifon mySRA, felly nid oes gennym ac ni allwn drpfod yr wybodaeth am amrywiaeth o ran yr unigolion hyn.

Data anabledd

Oherwydd y ffordd rydym ni wedi casglu data anabledd yn y gorffennol, dim ond cyfran yr unigolion sydd wedi datgan anabledd y gallwn ei nodi, sef 1% o'r boblogaeth sy'n ymarfer. Nid ydym yn gallu gwahaniaethu, yn sicr, rhwng pobl sydd wedi datgan yn dweud nad oes ganddynt anabledd a'r rheini sydd heb ateb y cwestiwn. Rydym yn amau nad oes digon o ddata anabledd yn cael ei adrodd yn y set ddata hon, o ystyried bod y data amrywiaeth a gasglwyd gennym yn 2023 gan gwmnïau cyfreithiol yn dangos bod 6% o gyfreithwyr mewn cwmnïau cyfreithiol yn anabl.

Grwpiau ethnigrwydd

Rydym ni'n rhannu ethnigrwydd yn bum prif grŵp: Gwyn, Du, Asiaidd, Cymysg a grŵp ethnig arall. Os yw'r niferoedd ym mhob grŵp yn ddigon mawr i adrodd amdanynt heb y risg o adnabod unigolion, byddwn yn adrodd data am bob grŵp ar wahân. Pan fo'r niferoedd yn rhy fach (yng nghamau 3 a 4 a lle rydym yn adrodd am amodau ymarfer), byddwn yn cymharu'r grŵp Gwyn (sy'n cynnwys grwpiau Gwyn lleiafrifol) â'r pedwar grŵp arall, gan gyfeirio at y rheini fel y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Llunio casgliadau ar sail niferoedd bach

Mae nifer yr unigolion y gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn eu herbyn (cam 3), neu a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4) dros y cyfnod adrodd yn fychan, efallai y bydd effaith ar ddilysrwydd y casgliadau y gallwn eu llunio. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer lle rydym ni'n adrodd am amodau rydym ni'n eu gosod a'r amodau mae'r Tribiwnlys yn eu gosod, lle mae'r niferoedd hefyd yn fach.

Hefyd, gan fod dadansoddi ar ffurf canrannau yn gallu bod yn gamarweiniol mewn grwpiau bach, rydym ni wedi darparu nifer yr unigolion dan sylw hefyd.

Mae'r adran hon yn rhoi golwg gyffredinol ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion ar bedwar cam allweddol y broses ymchwilio a gorfodi. Rydym wedi cynnwys data o flynyddoedd cynharach er mwyn i ni allu tynnu sylw at unrhyw dueddiadau. Mae rhagor o fanylion am ddata 2022/23 ym mhob cam yn nes ymlaen yn yr adroddiad hwn.

Mae'r dadansoddiad o amrywiaeth yn ôl rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd (lle'r oedd digon o ddata i'n galluogi i wneud hyn).

Dadansoddiad yn ôl rhyw ar draws camau allweddol ein proses orfodi

  Rhyw 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Y boblogaeth sy'n ymarfer Dynion 49% (74,657) 48% (71,933) 48% (70,928) 47% (69,512) 47% (68,244)
Menywod 51% (77,539) 52% (77,769) 52% (78,011) 53% (76,987) 53% (76,136)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni ac a ystyriwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar Dynion 67% (4,440) 65% (3,959) 62% (3,913) 63% (3,894) 63% (4,290)
Menywod 33% (2,161) 35% (2,088) 38% (2,365) 37% (2,336) 37% (2,536)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad Dynion 73% (1,800) 75% (1,166) 68% (820) 70% (804) 72% (822)
Menywod 27% (661) 25% (380) 32% (393) 30% (352) 28% (323)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) Dynion 70% (159) 73% (144) 66% (105) 74% (139) 75% (151)
Menywod 30% (67) 27% (53) 34% (55) 26% (49) 25% (50)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dynion 85% (119) 80% (99) 73% (75) 75% (61) 78% (86)
Menywod 15% (21) 20% (25) 27% (28) 25% (20) 22% (24)

Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae dynion wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydym ni'n eu cael (cam 1) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Ar gyfer pob blwyddyn, mae cyfran y dynion yn uwch yng ngham 2, pan fydd achos yn pasio ein prawf trothwy asesu ac rydym yn bwrw ymlaen ag ef ar gyfer ymchwiliad.

O gymharu â'r cam ymchwilio, roedd cyfran yr unigolion y gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn eu herbyn (cam 3) a oedd yn ddynion yn is yn y tair blynedd rhwng 2018/19 a 2020/21. Yn 2021/22 a 2022/23, roedd yn uwch nag ar y cam ymchwilio.

Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, roedd cyfran yr unigolion lle daeth yr achos i ben yn y Tribiwnlys ac a oedd yn cynnwys dynion (cam 4) yn uwch na'r gyfran a oedd yn destun ymchwiliad (cam 2).

Dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd ar draws camau allweddol ein proses orfodi

Yn yr adran hon, rydym ni wedi nodi'r data ar gyfer y grwpiau Gwyn a Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol er mwyn gallu cymharu ar draws pob cam. Mae dadansoddiad manylach ar draws y pum grŵp ethnig i'w weld yn yr adran 'Camau 1 a 2 – pryderon a adroddwyd i ni, a ystyriwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar ac a symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad'. Nid yw hyn yn bosibl ar gyfer camau 3 a 4 oherwydd y nifer fach o unigolion dan sylw.

  Ethnigrwydd 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Y boblogaeth sy'n ymarfer Gwyn 82% (99,098) 82% (96,835) 82% (99,078) 81% (97,326) 81% (95,626)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 18% (21,085) 18% (20,930) 18% (22,223) 19% (22,266) 19% (22,313)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni ac a ystyriwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar Gwyn 74% (4,273) 74% (3,864) 75% (4,138) 76% (4,172) 76% (4,558)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 26% (1,486) 26% (1,327) 25% (1,376) 24% (1,307) 24% (1,442)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad Gwyn 68% (1,441) 65% (870) 67% (722) 71% (727) 71% (702)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 32% (691) 35% (460) 33% (356) 29% (295) 29% (291)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) Gwyn 65% (129) 71% (114) 64% (90) 69% (116) 71% (127)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% (68) 29% (46) 36% (51) 31% (52) 29% (52)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Gwyn 65% (81) 72% (81) 66% (59) 64% (47) 59% (60)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 35% (43) 28% (31) 34% (31) 36% (26) 41% (42)

Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae unigolion o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi'u gorgynrychioli yn y pryderon rydyn ni'n eu cael (cam 1) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r orgynrychiolaeth yn uwch yng ngham 2, pan fydd achosion yn pasio ein prawf trothwy asesu ac rydym yn symud ymlaen â nhw ar gyfer ymchwilio iddynt.

Nid oes patrwm cyson wrth gymharu'r cam ymchwilio â'r unigolion y cymerasom gamau rheoleiddio yn eu herbyn yng ngham 3. Yn 2022/23, roedd cyfran yr unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ym mhob cam yr un fath.

Ac eithrio 2019/20, mae cyfran yr unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol mewn achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (cam 4) yn uwch na'r gyfran sy'n destun ymchwiliad (cam 2).

Dadansoddiad yn ôl oedran ar draws camau allweddol ein proses orfodi

Oherwydd niferoedd isel, rydym ni wedi cyfuno'r ddau grŵp oedran ieuengaf, gan ddangos data ym mhob cam ar gyfer unigolion rhwng 16 a 34 oed.

  Oedran 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Y boblogaeth sy'n ymarfer 16–34 25% (39,593) 24% (39,016) 24% (38,927) 23% (38,997) 24% (40,628)
35–44 32% (50,885) 33% (52,124) 33% (53,371) 33% (54,372) 32% (55,305)
45–54 24% (38,033) 24% (39,146) 24% (39,788) 25% (41,220) 25% (42,734)
55–64 14% (21,378) 14% (22,284) 14% (22,787) 14% (23,698) 14% (25,009)
65+ 5% (7,280) 5% (7,736) 5% (8,001) 5% (8,485) 5% (9,037)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni ac a ystyriwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar 16–34 12% (826) 13% (799) 14% (911) 14% (954) 13% (1,042)
35–44 26% (1,776) 27% (1,680) 26% (1,766) 26% (1,794) 26% (2,023)
45–54 30% (1,992) 28% (1,754) 28% (1,915) 27% (1,864) 28% (2,188)
55–64 22% (1,501) 22% (1,403) 21% (1,420) 21% (1,439) 21% (1,593)
65+ 10% (250) 10% (616) 11% (717) 13% (867) 12% (919)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 16–34 11% (283) 12% (190) 10% (137) 12% (165) 12% (157)
35–44 26% (659) 29% (479) 25% (335) 26% (337) 25% (334)
45–54 30% (751) 28% (447) 29% (386) 27% (349) 29% (390)
55–64 23% (567) 22% (358) 23% (304) 21% (275)  20% (269)
65+ 10% (250) 9% (150) 12% (162) 14% (187) 14% (195)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 16–34 13% (34) 14% (34) 19% (44) 12% (28) 11% (25)
35–44 25% (64) 28% (66) 26% (60) 22% (51) 20% (47)
45–54 27% (69) 24% (56) 25% (58) 32% (73) 25% (59)
55–64 22% (55) 20% (48) 18% (43) 16% (36) 20% (48)
65+ 13% (33) 14% (34) 13% (30) 18% (41) 24% (57)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 16–34 9% (13) 5% (6) 7% (8) 25% (21) * 22% (24) *
35–44 27% (38) 25% (31) 19% (21)
45–54 31% (44) 30% (38) 31% (34) 33% (28) 31% (34)
55–64 20% (28) 25% (31) 28% (31) 24% (20) 27% (30)
65+ 13% (18) 16% (20) 14% (15) 18% (15) 21% (23)

Sylwch nad yw niferoedd yn dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

* Ar gyfer 2021/22 a 2022/23, oherwydd niferoedd isel, rydym wedi cyfuno'r categorïau oedran 16–34 a 35–44.

Ar gyfer pob un o'r pum mlynedd, mae tangynrychiolaeth o'r ddau gategori oedran iau a geir yma (16-34 a 35-44) mewn pryderon a adroddwyd i ni, o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rhai yn y categorïau hŷn (45 oed a throsodd) sy'n cael eu gorgynrychioli mewn pryderon a adroddwyd i ni o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer.

Yn fras, mae mân wahaniaethau yn y cyfrannau ar draws pob grŵp oedran rhwng camau 1 a 2 ar gyfer pob un o'r pum mlynedd.

Gan edrych ar gamau 3 a 4, mae'n anodd nodi patrymau dros amser ar gyfer y data oedran.

Dadansoddiad yn ôl anabledd ar draws camau allweddol ein proses orfodi

Oherwydd y niferoedd isel iawn dan sylw, mae cyfyngiadau o ran yr hyn gallwn ei adrodd – mae seren yn y tabl i ddangos pan fydd y niferoedd sy'n cofnodi anabledd yn rhy isel i'w hadrodd flwyddyn honno. Rydym hefyd wedi dileu'r ffigurau 'dim anabledd wedi'i gofnodi' ar gyfer y blynyddoedd hyn, gan y gallai eu cynnwys ddatgelu'r nifer lle cofnodwyd anabledd. Y rheswm am hyn yw bod y cyfansymiau'n cael eu nodi mewn man arall yn yr adroddiad hwn.

  Anabledd 2018/19 2019/20 2020/21 2021/22 2022/23
Y boblogaeth sy'n ymarfer Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% (155,686) 99% (158,835) 99% (160,662) 99% (164,480) 99% (170,373)
Anabledd wedi'i gofnodi 1% (1,673) 1% (1,663) 1% (2,293) 1% (2,362) 1% (2,402)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni ac a ystyriwyd gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar Dim anabledd wedi'i gofnodi 99% (6,719) 98% (6,187) 99% (6,622) 98% (6,842) 98% (7,722)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (141) 2% (106) 3% (181) 2% (149) 37% (2,536)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad Dim anabledd wedi'i gofnodi 98% (2,517) 98% (1,609) 97% (1,320) 97% (1,316) 98% (1,409)
Anabledd wedi'i gofnodi 2% (62) 2% (38) 3% (37) 3% (34) 2% (23)
Cam 3 (llwybr A):  Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) Dim anabledd wedi'i gofnodi * * 97% (251) 98% (262) 97% (256)
Anabledd wedi'i gofnodi * * 3% (7) 2% (5) 3% (9)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Dim anabledd wedi'i gofnodi * 95% (123) * * *
Anabledd wedi'i gofnodi * 5% (6) * * *

Oherwydd y niferoedd bach o unigolion dan sylw, nid yw'n bosibl rhoi sylwebaeth ystyrlon ar dueddiadau dros amser.

Mae'r adran hon yn ymdrin â phroffil unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni ac a ystyriwyd gan ein Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar (cam 1), a'r unigolion a enwyd ar adroddiadau a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2). Mae hyn wedi'i osod yng nghyd-destun proffil y boblogaeth sy'n ymarfer.

Rydym yn canolbwyntio ar yr adroddiadau a ddaeth i law a'r penderfyniadau a wnaed yn 2022/23. Mae unrhyw batrymau a nodwyd dros y pum mlynedd diwethaf yng nghamau 1 a 2 yn cael eu hamlygu yn y canlynol: Adran 'Ymchwilio a gorfodi – golwg gyffredinol a thueddiadau 2018/19–2022/23'.

Y data

Yn 2022/23, cafodd 10,963 o bryderon eu hadrodd i ni. O'r rhain, roedd 6,594 (60%) yn enwi un unigolyn neu fwy. Fe wnaethom gyfrif unigolyn bob tro roedd yn ymddangos ar bryder a adroddwyd i ni, felly efallai y bydd rhai unigolion yn cael eu hadrodd fwy nag unwaith. Cafodd 7,885 o unigolion eu henwi ar y pryderon hyn yng ngham 1. Gan ein bod yn canolbwyntio ar ddadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ein prosesau gorfodi, mae pryderon sy'n ymwneud â chwmnïau wedi'u heithrio.

Yn yr un cyfnod, cafodd 1,432 o unigolion eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (cam 2). Bydd llawer o'r unigolion hyn, ond nid pob un, yn cael eu cynnwys yn y grŵp o unigolion sy'n rhan o gam 1. Mae hyn oherwydd ein bod yn penderfynu'n gyffredinol a ydym am ymchwilio i bryder yr adroddwyd amdano o fewn dau fis i'w dderbyn. Fodd bynnag, bydd rhai o'r rheini a ystyriwyd yng ngham 2 wedi cael eu hadrodd i ni yn ystod y flwyddyn flaenorol.

Wedi'u rhannu gan bedair nodwedd amrywiaeth (rhyw, ethnigrwydd, oedran ac anabledd), mae'r tablau yn yr adran hon yn dangos:

  • y boblogaeth sy'n ymarfer
  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn ystod 2022/23
  • cam 2 – unigolion y symudwyd ymlaen ar gyfer ymchwiliad yn 2022/23.

Ein canfyddiadau

Rhyw

Mae gorgynrychiolaeth o ddynion yn cael eu henwi ar y pryderon rydym ni'n eu cael (63%) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (47%). Mae hyn yn uwch pan fyddwn yn edrych ar yr unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac y gwnaethom symud ymlaen i ymchwilio iddynt, lle mae 72% yn ddynion.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad yn ôl rhyw

  Dynion Menywod
Y boblogaeth sy'n ymarfer 47% (68,244) 53% (76,136)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (4,290) 37% (2,536)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 72% (822) 28% (323)

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roedden ni'n gwybod rhyw 144,380 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (84%).
  • Cam 1 – o'r 7,885 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem ni'n gwybod rhyw 6,826 ohonynt (87%).
  • Cam 2 – roeddem yn gwybod rhyw 1,145 o'r 1,432 o unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (80%).

Ethnigrwydd

Mae nifer yr unigolion a gyfrifwyd yng nghamau 1 a 2 y broses yn ddigon uchel i ni ddangos y pum grŵp ethnig ar wahân. Nid yw hyn yn wir ar gyfer camau 3 a 4, lle mae'r niferoedd yn rhy fach. Felly, rydym ni hefyd wedi dangos cyfanswm y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y tabl isod er mwyn gallu cymharu ar draws holl gamau ein prosesau.

Gan edrych ar y grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn ei gyfanrwydd, mae gorgynrychiolaeth o unigolion yn y grŵp hwn hyn yn cael eu hadrodd i ni yng ngham 1 (24%) ac yng ngham 2 (29%), o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (19%). Dyma'r cyfrannau ar gyfer y grwpiau cefndiroedd Asiaidd a Du:

  • 12% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, 17% o'r unigolion yng ngham 1 a 23% o'r unigolion yng ngham 2 yn Asiaidd
  • 3% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, 4% o'r unigolion yng ngham 1 a 4% o'r unigolion yng ngham 2 yn Ddu.

Mae tangynrychiolaeth o unigolion Gwyn yng ngham 1 (76%) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (81%). Mae hyn yn is wrth edrych ar unigolion Gwyn ar gam 2 (71%).

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o ethnigrwydd

  Gwyn Asiaidd Du Cymysg Arall
Y boblogaeth sy'n ymarfer 81% (95,626) 12% (14,606) 3%(3,466) 2%(2,304) 2%(1,937)
19% (22,313) Cyfanswm Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76%(4,558) 17%(1,025) 4%(262) 1%(62) 2% (93)
24% (1,442) Cyfanswm Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 71%(702) 23% (228) 4% (38) 1% (10) 2% (15)
29% (291) Cyfanswm Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol

Sylwch nad yw canrannau'n dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 117,939 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (68%).
  • Cam 1 – o'r 7,885 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 6,000 ohonynt (76%).
  • Cam 2 – roeddem yn gwybod ethnigrwydd 993 o'r 1,432 o unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (69%).

Oedran

Gan fod nifer yr unigolion rhwng 16 a 24 oed yn rhy isel i'w dangos ar wahân, maen nhw wedi cael eu grwpio gyda'r grŵp oedran 25 i 34 oed.

Mae unigolion yn y grŵp hwn (16–34) wedi'u tangynrychioli yn y pryderon a adroddwyd i ni yng ngham 1 (13%) a cham 2 (12%), o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (24%). Mae'r patrwm hwn hefyd i'w weld ar gyfer y rheini yn y grŵp oedran 35-44 oed, sy'n cyfrif am 32% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, 26% ar gam 1 a 25% ar gam 2.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y rhai yn y categorïau hŷn, sydd wedi'u gorgynrychioli mewn adroddiadau o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer. Roedd y rheini rhwng 55 a 64 oed yn cyfrif am 14% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, 21% o'r rheini yng ngham 1 ac 20% o'r rheini yng ngham 2. Roedd y rheini sy'n 65 oed a hŷn yn cyfrif am 5% o'r boblogaeth sy'n ymarfer, 12% o'r rheini yng ngham 1 a 14% o'r rheini yng ngham 2.

Camau 1 a 2 – dadansoddiad o oedran

  16–34 35–44 45–54 55–64 65+
Y boblogaeth sy'n ymarfer 24% (40,628) 32% (55,305) 25% (42,734) 14% (25,009) 5% (9,037)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 13% (1,042) 26% (2,023) 28% (2,188) 21% (1,593) 12% (919)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 12% (157) 25% (334) 29% (390) 20% (269) 14% (195)

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod oedran 172,713 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (100%).
  • Cam 1 – o'r 7,885 o unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni, roeddem ni'n gwybod oedran 7,765 ohonynt (98%).
  • Cam 2 – roeddem yn gwybod oedran 1,345 o'r 1,432 o unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac a gafodd eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad (94%).

Anabledd

Gallwn weld bod cyfran uwch o unigolion anabl yng ngham 1 (2%) o gymharu â'r boblogaeth sy'n ymarfer (1%). Mae'r gyfran yng ngham 2 hefyd yn 2%. Fodd bynnag, nid ydym ni'n gallu dod i unrhyw gasgliadau dibynadwy mewn cysylltiad ag anabledd oherwydd bod y niferoedd mor isel.

Camau 1 a 2: anabledd wedi'i gofnodi

Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi Cyfanswm
Y boblogaeth sy'n ymarfer 99% (170,373) 1% (2,402)  100% (172,775)
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 98% (7,722) 2% (163) 100% (7,885)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 98% (1,409) 2% (23) 100% (1,432)

Mae'r adran hon yn ymwneud â'r unigolion yng ngham 3 – y rheini rydym wedi cymryd camau rheoleiddio yn eu herbyn (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) yn ystod y flwyddyn adrodd.

Er mwyn rhoi cyd-destun, rydym yn cymharu'r dadansoddiad yn y cam hwn â'r dadansoddiad o unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio ein prawf trothwy asesu ac y gwnaethom symud ymlaen â nhw ar gyfer ymchwiliad (cam 2). Ni fydd yr unigolion a ystyriwyd yng ngham 2 yr un unigolion â'r rhai a ystyriwyd yng ngham 3. Mae hyn oherwydd nad yw achosion bob amser yn cael eu datrys yn yr un flwyddyn.

Rydym yn canolbwyntio ar yr achosion a gaewyd yn 2022/23 a lle roeddem wedi cymryd camau rheoleiddio. Mae unrhyw batrymau ystyrlon a nodwyd dros y pum mlynedd diwethaf yng ngham 3 yn cael eu hamlygu yn yr adran 'Canfyddiadau a thueddiadau allweddol 2018/19–2023/24'.

Achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio – am y data

Nifer yr unigolion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn eu herbyn

Mae dau dabl ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r tabl cyntaf yn dangos proffil yr unigolion yn yr holl gamau canlynol:

  • cam 1 – unigolion wedi'u henwi ar bryderon a adroddwyd i ni yn ystod 2022/23
  • cam 2 – unigolion wedi'u henwi ar bryderon a oedd wedi pasio ein prawf trothwy asesu ac y gwnaethom fwrw ymlaen â nhw gydag ymchwiliad 2022/23.
  • cam 3 – unigolion wedi'u henwi ar achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad).

Roedd 265 o unigolion y gwnaethom gymryd camau rheoleiddio yn eu herbyn yng ngham 3. Mae'r camau rheoleiddio yn cynnwys:

  • cau mater gyda llythyr cynghori neu lythyr rhybuddio
  • rhoi sancsiwn, fel cerydd neu ddirwy
  • ymyrryd mewn ymarfer unigolyn
  • gosod amodau ymarfer
  • gwneud gorchymyn adran 43 neu adran 99
  • achosion lle mae unigolyn yn cytuno i gael ei dynnu oddi ar y gofrestr cyfreithwyr. 

Mae diffiniad o'r gwahanol fathau o gamau gweithredu rheoleiddio y cyfeirir atynt yn yr adran hon ar gael yn yr eirfa yn ein hadroddiad ar Gynnal Safonau Proffesiynol.

Sylwch, roedd y cam gweithredu 'llythyr rhybuddio neu gynghori' a ddangosir yn y tablau isod yn arfer cael ei enwi'n 'canfod/canfod a llythyr rhybuddio'. Rydym bellach wedi diweddaru'r enw yn unol â'r newidiadau i'n Strategaeth Gorfodi ddiwygiedig a'n Safonau a Rheoliadau.

Dadansoddi unigolion yn ôl y math o gam gweithredu rheoleiddio

Mae'r ail dabl yn darparu dadansoddiad amrywiaeth unigolion yn ôl y cam gweithredu rheoleiddio a gymerwyd. Mae 221 o gamau gweithredu yn yr ail dabl, sy'n ymdrin â'r canlynol:

  • Unigolion a gafodd gau eu hachos gyda llythyr cynghori neu lythyr rhybuddio.
  • Y rheini y gwnaethom eu cosbi â cherydd neu ddirwy.
  • Unigolion y gwnaethom ymyrryd yn eu hymarfer. Sylwch, mae'r penderfyniadau hyn yn ymwneud ag ymyriadau mewn ymarfer unigol unigolyn yn unig ac nid unrhyw fathau o gwmnïau (gan gynnwys 'practis unigol', sy'n gategori mewn math o gwmni). Maent hefyd yn ymwneud â'r ymyriadau a gofnodwyd ar achosion a gaewyd yn 2022/23. Mae hyn yn golygu bod rhai'n debygol o fod wedi cael eu cynnal mewn blynyddoedd blaenorol, ond rhoddir cyfrif amdanynt yma oherwydd bod yr achos wedi'i gau yn 2022/23. 

Efallai y bydd gan rai unigolion sydd wedi'u cynnwys yn yr ail dabl fwy nag un o'r camau gweithredu hyn wedi'u cofnodi yn eu herbyn, ac felly byddant yn ymddangos fwy nag unwaith yn y dadansoddiad. Doedd dim modd i ni ddarparu'r dadansoddiad hwn ar gyfer pob math o gamau gweithredu rheoleiddio. Dyma'r unigolion sydd heb eu cynnwys yn yr ail dabl:

  • y rheini a oedd ag amod ymarfer, oherwydd eu bod wedi'u cynnwys yn yr adran: 'Gosod amodau ar dystysgrif ymarfer'
  • y rheini a oedd â gorchymyn adran 43 neu adran 99 yn eu herbyn, oherwydd bod y gorchmynion hyn yn cael eu gosod ar bobl nad ydynt yn gyfreithwyr sy'n gweithio yn y cwmnïau cyfreithiol a'r busnesau rydym ni'n eu rheoleiddio, ac nid oes gennym ddata amrywiaeth ar gyfer yr unigolion hyn
  • y rheini a gytunodd i gael eu tynnu oddi ar y gofrestr cyfreithwyr drwy gytundeb setliad rheoleiddio, oherwydd bod y niferoedd yn rhy fach i adrodd amdanynt.

Cam gweithredu pan fydd achos yn pasio'r prawf trothwy asesu

Mae'r rhan fwyaf o achosion sy'n pasio ein prawf trothwy asesu yn cael eu hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliad, a fydd yn penderfynu a oes angen cymryd camau rheoleiddio.

Mewn rhai achosion, gellir cymryd camau rheoleiddio ar ôl cwblhau'r prawf trothwy asesu. Byddwn fel arfer yn anfon y llythyrau hyn lle mae ein rheolau wedi cael eu torri, ond mae amgylchiadau'n dangos nad oes unrhyw bryder sylfaenol o ran budd y cyhoedd. Rhoddwyd llythyr rhybuddio neu gynghori i chwe unigolyn ar ôl i'w mater cysylltiedig basio ein prawf trothwy asesu, ond ni welsom fod angen atgyfeirio'r achosion hyn ar gyfer ymchwiliad. Felly, mae'r chwe unigolyn hyn wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad cam 3 (am fod camau rheoleiddio wedi'u cymryd yn eu herbyn), ond nid yn y dadansoddiad cam 2 (am na chawsant eu symud ymlaen ar gyfer ymchwiliad).

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Er mwyn osgoi'r risg y bydd unigolion yn cael eu hadnabod o'r dadansoddiad hwn, mae cyfyngiadau o ran beth y gallwn adrodd amdano yn yr adran hon oherwydd y niferoedd isel:

  • Nid ydym ni wedi gallu adrodd ar wahân am y grwpiau sy'n ffurfio'r grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad o'r camau rheoleiddio rydym wedi'u cymryd (cam 3) yn ôl anabledd (felly nid oes ail dabl yn yr adran hon).
  • Rydym wedi grwpio'r categorïau oedran 16–24 a 25–34 gyda'i gilydd yn y dadansoddiad cam 3 (a nodir yn y tabl cyntaf sy'n ymwneud ag oedran). Rydym hefyd wedi grwpio'r grwpiau oedran 16–24, 25–34 a 35–44 gyda'i gilydd wrth edrych ar y camau gweithredu a gymerwyd (a nodir yn yr ail dabl sy'n ymwneud ag oedran).
  • Rydym wedi grwpio'r categorïau llythyrau rhybuddio neu gynghori gyda'i gilydd.
  • Rydym wedi grwpio'r categorïau ceryddon a dirwyon gyda'i gilydd.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yng ngham 3 (265 o unigolion), efallai y bydd effaith ar ddilysrwydd y casgliadau y gallwn eu llunio. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Achosion lle gwnaethom gymryd camau rheoleiddio – ein canfyddiadau

Rhyw

Mae gorgynrychiolaeth dynion a thangynrychiolaeth gyfatebol menywod yn parhau i gynyddu rhwng camau 2 a 3. Rhwng y ddau gam hyn, mae cyfran yr achosion sy'n ymwneud â dynion yn cynyddu o 72% i 75%.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad o rywedd

Dynion Menywod
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (4,290) 37% (2,536)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 72% (822) 28% (323)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 75% (151) 25% (50)

O'r 265 o unigolion a enwyd ar achosion lle gwnaethom gymryd cam gweithredu rheoleiddio yng ngham 3, roeddem ni'n gwybod rhyw 201 ohonynt (76%).

Llwybr A: Camau rheoleiddio a gymerwyd – dadansoddiad yn ôl rhyw

Roedd cyfran yr unigolion yng ngham 3 a oedd yn ddynion yn 75%. Mae cyfran y dynion sy'n cael eu cynrychioli ar draws y camau gweithredu yn is ar gyfer llythyrau rhybuddio neu gynghori a cheryddon a dirwyon (74%) ac yn uwch ar gyfer ymyriadau (78%), o gymharu â'r rheini yng ngham 3.

Roedd cyfran yr unigolion yng ngham 3 a oedd yn fenywod yn 25%. Mae cyfran y menywod ar draws y camau gweithredu yn uwch ar gyfer llythyrau rhybuddio neu gynghori a cheryddon a dirwyon (26%) ac yn is ar gyfer y rheini yr ymyrrom i mewn i'w hymarfer (22%), o gymharu â'r rheini yng ngham 3.

Dynion Menywod
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 75% (151) 25% (50)
Llythyrau rhybuddio neu gynghori 74% (66) 26% (23)
Cerydd neu ddirwy 74% (46) 26% (16)
Ymyriad 78% (36) 22% (10)

Roeddem yn gwybod rhyw y canlynol:

  • 89 o 105 o unigolion a gafodd lythyrau cynghori neu rybuddio (85%)
  • 62 o 67 o unigolion a gafodd geryddon a dirwyon (93%)
  • 41 o'r 49 o unigolion lle cynhaliwyd ymyriad yn eu hymarfer (84%).

Ethnigrwydd

Mae cyfran yr achosion sy'n cynnwys unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng ngham 3 yn 29%, sydd yr un fath â'r rhai ar gam 2 (29%). Roedd unigolion gwyn yn cyfrif am 71% o'r achosion yng ngham 3, sydd hefyd yr un gyfran â'r rhai yng ngham 2 (71%).

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76% (4,558) 24% (1,442)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 71% (702) 29% (291)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 71% (127) 29% (52)

O'r 265 o unigolion a enwyd ar achosion lle gwnaethom gymryd cam gweithredu rheoleiddio yng ngham 3, roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 179 ohonynt (68%).

Llwybr A: Camau rheoleiddio a gymerwyd – dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Roedd tri deg un y cant o'r unigolion a gafodd lythyr rhybuddio neu gynghori yn dod o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae hyn ychydig yn uwch nag ar gam 3 (29%), ac mae'r gyfran yn gostwng eto ar gyfer unigolion a gafodd gerydd neu ddirwy (24%). Mae cyfran y rhai yr ymyrrwyd yn eu hymarfer (29%) yr un fath â'r gyfran a gynrychiolir ar gam 3 (29%).

Mae'r dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd unigolion a gafodd lythyr rhybuddio neu gynghori yn dangos bod 69% yn Wyn. Mae hyn ychydig yn is na'r hyn a welwyd yng ngham 3 (71%). Mae cyfran uwch o unigolion a gafodd gerydd neu ddirwy ac sy'n Wyn (76%) o gymharu â'r rhai yng ngham 3. Mae cyfran y rhai yr ymyrrwyd yn eu hymarfer (71%) yr un fath â'r gyfran a gynrychiolir ar gam 3 (71%).

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 71% (127) 29% (52)
Llythyrau rhybuddio neu gynghori 69% (56)  31% (25)
Cerydd neu ddirwy 76% (41) 24% (13)
Ymyriad 71% (29) 29% (12)

Roeddem yn gwybod ethnigrwydd y canlynol:

  • 81 o 105 o unigolion a gafodd lythyrau cynghori neu rybuddio (77%)
  • 54 o 67 o unigolion a dderbyniodd ceryddon a dirwyon (81%)
  • 41 o'r 49 o unigolion lle cynhaliwyd ymyriad yn eu hymarfer (84%).

Oedran

Roedd y rhai 54 oed ac iau yn cyfrif am gyfran ostyngol o unigolion drwy gamau 1 i 3. Ar gyfer y grŵp oedran 65 oed a hŷn, cynyddodd y gyfran drwy gamau 1 i 3, o 12% yng ngham 1 i 14% yng ngham 2 ac i 24% yng ngham 3.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad yn ôl oedran

  16–34 35–44 45–54 55–64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 13% (1,042) 26% (2,023) 28% (2,188) 21% (1,593) 12% (919)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 12% (157) 25% (334) 29% (390) 20% (269) 14% (195)
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 11% (25) 20% (47) 25% (59) 20% (48) 24% (57)

O'r 265 o unigolion a enwyd ar achosion lle gwnaethom gymryd cam gweithredu rheoleiddio yng ngham 3, roeddem ni'n gwybod oedran 236 o unigolion (89%).

Llwybr A: Camau rheoleiddio a gymerwyd – dadansoddiad yn ôl oedran

Gan edrych ar y camau a gymerwyd ar draws categorïau oedran, mae cyfran uwch o bobl a gafodd gerydd neu ddirwy sy'n 65 oed a hŷn (26%) neu y gwnaethom ymyrryd i mewn i'w hymarfer (45%), na'r rhai yng ngham 3 o'r un grŵp oedran (24%).

  16–44 45–54 55–64 65+
Cam 3 (llwybr A): Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 31% (72) 25% (59) 20% (48) 24% (57)
Llythyrau rhybuddio neu gynghori 27%(26) 28%(27) 26%(25) 19%(18)
Cerydd neu ddirwy 32% (21) 24% (16) 18% (12) 26% (17)
Ymyriad 18%(9) 18%(9) 18%(9) 45%(22)

Cofiwch:

  • nid yw rhai canrannau yn cyfuno i greu 100% oherwydd talgrynnu
  • nid oedd unrhyw unigolion yn y grŵp oedran 16–24 a gafodd gerydd neu ddirwy neu yr ymyrrwyd i mewn i'w hymarfer gennym.

Roeddem yn gwybod oedran y canlynol:

  • 96 o 105 o unigolion a gafodd lythyrau cynghori neu rybuddio (91%)
  • 66 o 67 o unigolion a gafodd geryddon a dirwyon (99%)
  • 49 o'r 49 o unigolion lle cynhaliwyd ymyriad yn eu hymarfer (100%).

Anabledd

Mae'r canfyddiadau yng ngham 3 yn ymwneud â naw unigolyn anabl. Mae'r niferoedd isel sy'n gysylltiedig ar y cam hwn a'r cyfraddau datgan isel sy'n ymwneud ag anabledd yn ei gwneud hi'n anodd dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon.

Llwybr A: Camau 1, 2 a 3 – dadansoddiad yn ôl anabledd

  Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi Cyfanswm
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 98% (7,722) 2% (163) 100% (7,885)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 98% (1,409) 2% (23) 100% (1,432)
Cam 3: Achosion lle cymerom gamau rheoleiddio (naill ai gan y Tîm Asesu a Datrys yn Gynnar neu o ganlyniad i ymchwiliad) 97% (256) 3% (9) 100% (265)

Mae'r adran hon yn ymwneud ag unigolion yng ngham 4 – y rheini a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys – yn y flwyddyn adrodd. Rydym yn erlyn yr achosion mwyaf difrifol yn y Tribiwnlys. Y Tribiwnlys sy'n gwneud y penderfyniadau yn yr achosion y cyfeirir atynt yn yr adran hon. Mae'n annibynnol arnom a gall osod ystod sancsiynau mwy difrifol nag y gallwn ni.

Yn rhan gyntaf yr adran hon, rydym yn cymharu'r dadansoddiad o'r achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4), â'r dadansoddiad o unigolion a enwyd ar achosion a oedd yn pasio'r prawf trothwy asesu ac y gwnaethom symud ymlaen â nhw ar gyfer ymchwiliad (cam 2). Ni fydd yr unigolion a ystyriwyd yng ngham 2 yr un unigolion â'r rhai a ystyriwyd yng ngham 4. Mae hyn oherwydd na fydd yr holl achosion yn cael eu hymchwilio, yn cael eu hatgyfeirio i'r Tribiwnlys ac yn cael eu cwblhau gan y Tribiwnlys o fewn yr un flwyddyn. Rydym hefyd yn edrych ar y dadansoddiad o sancsiynau'r Tribiwnlys lle gallwn, gan gynnwys unigolion a gafodd eu dirwyo, eu hatal dros dro neu eu dileu oddi ar y gofrestr.

Yn ail ran yr adran hon, rydym yn edrych ar sut y daethpwyd i'r canlyniadau hyn. Cyrhaeddwyd rhai drwy ganlyniad y cytunwyd arno, a rhai drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Ystyr canlyniadau y cytunwyd arnynt yw cytundebau i setlo achos rhyngom ni a'r unigolyn sydd wedi'i gyhuddo o gamymddwyn. Rhaid i'r Tribiwnlys gymeradwyo canlyniadau y cytunwyd arnynt. Mae rheolau'r Tribiwnlys yn caniatáu i ni neu'r ymatebydd gynnig y dylid datrys achos ar ffurf canlyniad y cytunir arno. Rydym yn rhoi gwybod i'r holl ymatebwyr mai canlyniad y cytunwyd arno yw'r datrysiad posibl i ddatrys eu hachos. Mae mwy o achosion yn cael eu datrys fel hyn gan ei fod yn gallu bod yn ffordd gymesur a chosteffeithiol o ddod â mater i ben.

Rydym yn canolbwyntio ar ddata 2022/23 yn yr adran hon. Mae unrhyw newidiadau ystyrlon cam 4 dros y pum mlynedd diwethaf yng ngham 4 yn cael eu hamlygu yn yr adran canfyddiadau allweddol.

Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr – am y data

Nifer yr unigolion ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Fe wnaethom erlyn 99 o achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2022/23. Roedd yr achosion hyn yn cynnwys 111 o unigolion.

Mae dau dabl ar gyfer pob nodwedd amrywiaeth yn yr adran hon. Mae'r cyntaf yn dangos proffil yr unigolion yn yr holl gamau canlynol:

  • cam 1 – unigolion a enwyd ar bryderon a adroddwyd i ni yn ystod 2022/23
  • cam 2 – unigolion a enwyd ar achosion a oedd wedi pasio ein prawf trothwy asesu ac y gwnaethom fwrw ymlaen â nhw gydag ymchwiliad yn 2022/23.
  • cam 4 – unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys.

Dadansoddi unigolion yn ôl y math o gam gweithredu Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr

Mae'r ail dabl yn rhoi dadansoddiad amrywiaeth o unigolion lle rhoddodd y Tribiwnlys y sancsiynau canlynol: dirwyon, atal dros dro a dileu oddi ar y gofrestr. Efallai y bydd gan rai unigolion sydd wedi'u cynnwys yn yr ail dabl fwy nag un o'r camau gweithredu hyn wedi'u cofnodi yn eu herbyn, ac felly byddant yn ymddangos fwy nag unwaith yn y dadansoddiad.

Nid ydym wedi cyflwyno data ar chwe unigolyn nad oedd unrhyw orchymyn yn eu herbyn oherwydd ein bod wedi canolbwyntio ar gamau gweithredu'r Tribiwnlys a arweiniodd at sancsiwn. Nid ydym wedi cynnwys y rheini a oedd ag amod ymarfer o ganlyniad i achos yn y Tribiwnlys, oherwydd maent wedi'u cynnwys yn yr adran: 'Gosod amodau ar dystysgrifau ymarfer'

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Er mwyn osgoi'r risg y bydd unigolion yn cael eu hadnabod o'r dadansoddiad hwn, mae cyfyngiadau o ran beth y gallwn adrodd amdano yn yr adran hon oherwydd y niferoedd isel:

  • Nid ydym ni wedi gallu adrodd ar wahân am y grwpiau sy'n ffurfio'r grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad o'r achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr (cam 4) yn ôl anabledd.
  • Nid ydym wedi gallu dangos yr holl sancsiynau ar gyfer yr holl nodweddion amrywiaeth. Ar gyfer rhyw, nid ydym wedi gallu adrodd am ddirwyon, ar gyfer ethnigrwydd nid ydym wedi gallu adrodd am atal dros dro, ac ar gyfer oedran nid ydym ond wedi gallu adrodd am y niferoedd a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr.
  • Rydym ni wedi grwpio'r categorïau oedran 16–24, 25-34 a 35–44 gyda'i gilydd.
  • Nid ydym wedi cynnwys data sy'n ymwneud â chwe unigolyn y cafwyd penderfyniadau 'eraill' yn eu herbyn – sy'n cynnwys, er enghraifft, gerydd neu orchymyn adran 43.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yng ngham 4 (111 o unigolion), efallai y bydd effaith ar ddilysrwydd y casgliadau y gallwn eu llunio. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr - ein canfyddiadau

Rhyw

Mae gorgynrychiolaeth dynion a thangynrychiolaeth gyfatebol menywod yn parhau i gynyddu rhwng camau 2 a 4. Rhwng y ddau gam hyn, mae cyfran yr achosion sy'n ymwneud â dynion yn cynyddu o 72% i 78%.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad yn ôl rhywedd

Dynion Menywod
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 63% (4,290) 37% (2,536)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 72% (822) 28% (323)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 78% (86) 22% (24)

Roeddem ni'n gwybod rhywedd 110 o'r 111 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (99%).

Llwybr B: Sancsiynau'r Tribiwnlys – dadansoddiad yn ôl rhyw

Mae cyfran yr unigolion sy'n cael eu dileu oddi ar y gofrestr gan y Tribiwnlys ar draws dynion a menywod yr un fath â'r gyfran yng ngham 4. Ar gyfer cam 4 a dileu oddi ar y gofrestr, roedd dynion yn cyfrif am 78% a menywod 22%. Wrth edrych ar gyfran yr unigolion y mae'r Tribiwnlys wedi'u hatal dros dro, roedd dynion yn cyfrif am 54% a menywod yn 46%.

Dynion Menywod
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 78% (86) 22% (24)
Atal dros dro 54% (7) 46% (6)
Dileu oddi ar y gofrestr 78% (49) 22% (14)

Roedd rhyw yn hysbys ar gyfer pob un o'r 13 o unigolion a gafodd eu hatal dros dro (100%) a phob un o'r 63 o unigolion (100%) a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr.

Ethnigrwydd

Mae cyfran yr achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys sy'n ymwneud ag unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cynyddu o gam 2 (29%) i gam 4 (41%). Ond mae gostyngiad ar gyfer unigolion Gwyn rhwng y camau hyn.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 76% (4,558) 24% (1,442)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 71% (702) 29% (291)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 59% (60) 41% (42)

Roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 102 o'r 111 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (92%). 

Llwybr B: Sancsiynau'r Tribiwnlys – dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Mae'r dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd o'r unigolion a gafodd ddirwy yn y Tribiwnlys yn debyg i'r dadansoddiad yng ngham 4. Mae pum deg naw y cant o'r unigolion yng ngham 4 yn Wyn (fel y mae 59% o'r rhai a gafodd ddirwy). Mae pedwar deg un y cant ar gam 4 yn Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (fel 41% o'r rhai a gafodd ddirwy). Fodd bynnag, o'i gymharu â cham 4, mae cyfran ychydig yn uwch o bobl a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr yn Wyn (62%) ac mae cyfran ychydig yn is yn unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol (38%).

Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 59% (60) 41% (42)
Dirwy 59% (13) 41% (9)
Dileu oddi ar y gofrestr 62% (36) 38% (22)

Roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 22 o'r 23 o unigolion a gafodd ddirwy (96%) a 58 o'r 63 o unigolion a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr (92%).

Oedran

Roedd y rhai 44 oed ac ieuengach wedi ffurfio cyfran ostyngol y penderfyniadau drwy gamau 1, 2 a 4, gyda 39% yng ngham 1, 37% yng ngham 2 a 22% yng ngham 4. Mae hynny i raddau helaeth yn groes i'r grwpiau eraill, a oedd yn cyfrif am gyfran fwy ar bob cam.

Llwybr B: Camau 1, 2 a 4 – dadansoddiad yn ôl oedran

  16–44 45–54 55–64 65+
Cam 1: Pryderon a adroddwyd i ni 39% (3,065) 28% (2,188) 21% (1,593) 12% (919)
Cam 2: Pryder yn pasio'r prawf ar gyfer ymchwiliad 37% (491) 29% (390) 20% (269) 14% (195)
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 22% (24) 31% (34) 27% (30) 21% (23)

Sylwch nad yw'r canrannau yn dod i 100%, a hynny oherwydd talgrynnu. Nid oedd unrhyw unigolion o'r grŵp oedran 16–24 yng ngham 4.

Roeddem ni'n gwybod oedran pob un o'r 111 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys (100%).

Llwybr B: Sancsiynau'r Tribiwnlys – dadansoddiad yn ôl oedran

Mae cyfran yr unigolion sy'n cael eu dileu oddi ar y gofrestr a oedd yn 44 oed ac ieuengach yn uwch na'r gyfran yng ngham 4. O'r rheini a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr, roedd 25% rhwng 16 a 44 oed (o gymharu â 22% o'r boblogaeth ar gam 4) ac roedd 32% rhwng 45 a 54 oed (o gymharu â 31% o'r boblogaeth ar gam 4).

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y ddau grŵp oedran hŷn a ddangosir yma. Roedd 25 y cant o'r rheini a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr rhwng 55 a 64 oed (o gymharu â 27% o'r boblogaeth ar gam 4) ac roedd 17% o'r rheini a gafodd eu dileu oddi ar y gofrestr yn 65 oed a hŷn (o gymharu â 21% o'r boblogaeth ar gam 4).

  16-44 45-54 55-64 65+
Cam 4 (llwybr B): Achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys 22% (24) 31% (34) 27% (30) 21% (23)
Dileu oddi ar y gofrestr 25% (16) 32% (20) 25% (16) 17% (11)

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – am y data

Mae'r tablau yn yr adran hon yn cymharu dadansoddiad amrywiaeth yr unigolion hynny y daeth eu hachos i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno a'r rhai y daeth eu hachos i ben drwy wrandawiad. O'r 99 o achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys yn 2022/23, cafodd 43 eu datrys drwy ganlyniad y cytunwyd arno, yn cynnwys 48 o unigolion (gyda 56 achos yn dod i ben yn dilyn gwrandawiad, yn cynnwys 63 o unigolion).

Cyfyngiadau o ran y data y gallwn eu hadrodd

Er mwyn osgoi'r risg y bydd yr unigolion yn cael eu hadnabod o'r dadansoddiad hwn, mae cyfyngiadau o ran beth y gallwn adrodd amdano yn yr adran hon:

  • Nid ydym ni wedi gallu adrodd ar wahân am y grwpiau sy'n ffurfio'r grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.
  • Rydym ni wedi grwpio oedrannau 25–34 i 35–44 gyda'i gilydd. Nid oedd unrhyw unigolion o'r grŵp oedran 16–24 yn y cam hwn. 
  • Nid ydym ni wedi gallu cynnwys dadansoddiad yn ôl anabledd o gwbl.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yn y canlyniadau y cytunwyd arnynt (48 o unigolion), efallai y bydd effaith ar ddilysrwydd y casgliadau y gallwn eu llunio. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau. Ac nid ydym ni wedi gallu dod i unrhyw gasgliadau ystyrlon ar sail y newidiadau i'r data hyn dros y pum mlynedd diwethaf.

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – ein canfyddiadau

Rhyw

Daeth cyfran uwch o fenywod â'u hachos gerbron y Tribiwnlys i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (54% yn cynnwys 13 unigolyn) yn hytrach na gwrandawiad (46% yn cynnwys 11 unigolyn). Roedd y gwrthwyneb yn wir am ddynion: roedd cyfran is wedi dod â'u hachos gerbron y Tribiwnlys i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (41% yn cynnwys 35 unigolyn), o gymharu ag achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad (59% yn cynnwys 51 unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad yn ôl rhyw

  Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys Cyfanswm
Dynion 59% (51) 41% (35) 100% (86)
Menywod 46% (11) 54% (13) 100% (24)

Roeddem ni'n gwybod rhyw pob un o'r unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (100%). Roeddem ni'n gwybod oedran 62 o'r 63 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (98%).

Ethnigrwydd

Roedd cyfran is o unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol wedi dod â'u hachos gerbron y Tribiwnlys i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (36% yn cynnwys 15 unigolyn), o gymharu ag achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad (64% yn cynnwys 27 unigolyn). Roedd y gwrthwyneb yn wir am unigolion Gwyn: roedd cyfran uwch wedi dod â'u hachos gerbron y Tribiwnlys i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno (53% yn cynnwys 32 unigolyn), o gymharu ag achosion a ddaeth i ben drwy wrandawiad (47% yn cynnwys 28 unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

  Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys Cyfanswm
Gwyn 47% (28) 53% (32) 100% (60)
Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol 64% (27) 36% (15) 100% (42)

Roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 47 o'r 48 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (98%). Roeddem ni'n gwybod oedran 55 o'r 63 o unigolion y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (87%).

Oedran

Roedd cyfran uwch o unigolion 64 oed ac iau wedi cwblhau eu hachos yn y Tribiwnlys drwy wrandawiad yn hytrach na thrwy ganlyniad y cytunwyd arno:

  • 58% yn cynnwys 14 o unigolion ar gyfer y rhai 25–44 oed
  • 71% yn cynnwys 24 o unigolion ar gyfer y rhai 45–54 oed
  • 60% yn cynnwys 18 o unigolion ar gyfer y rhai 55-64 oed.

Mae'r gwrthwyneb yn wir ar gyfer y grŵp oedran 65 oed a hŷn, lle mae cyfran is o unigolion yn cwblhau eu hachos yn y Tribiwnlys drwy wrandawiad (30% yn cynnwys saith unigolyn), yn hytrach na chanlyniad y cytunwyd arno (70% yn cynnwys 16 unigolyn).

Canlyniadau y cytunwyd arnynt – dadansoddiad yn ôl oedran

  Achosion a ddaeth i ben mewn gwrandawiad Tribiwnlys Achosion a ddaeth i ben drwy ganlyniad y cytunwyd arno yn y Tribiwnlys Cyfanswm
25–44 58% (14) 42% (10) 100% (24)
45–54 71% (24) 29% (10) 100% (34)
55–64 60% (18) 40% (12) 100% (30)
65+ 30% (7) 70% (16) 100% (23)

Roeddem ni'n gwybod oedran pob un o'r 48 o unigolion a enwyd ar achosion a ddaeth i ben yn y Tribiwnlys drwy ganlyniad y cytunwyd arno (100%). Roedd yn hysbys ar gyfer pob un o'r 63 unigolyn y daeth eu hachosion i ben drwy wrandawiad yn y Tribiwnlys (100%).

Mae'r adran hon yn nodi dadansoddiad amrywiaeth yr unigolion lle roeddem ni neu'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi gosod amod ar eu tystysgrif ymarfer rhwng 1 Tachwedd 2022 a 31 Hydref 2023. Gan fod yr adroddiad hwn yn ymwneud â dadansoddiad amrywiaeth unigolion, nid ydym wedi cynnwys data am yr amodau a osodwyd ar gwmnïau. Mae gwybodaeth sy'n ymwneud â'r amodau a osodwyd ar gwmnïau ar gael yn ein hadroddiad Cynnal Safonau Proffesiynol 2022/23.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i ni gyhoeddi'r data hwn a byddwn yn parhau i adrodd amdano bob blwyddyn.

Mae dwy ran i'r data yn yr adran hon:

  • yr amodau a osodwyd gennym ar dystysgrifau ymarfer yn 2022/23
  • yr amodau a osodwyd yn 2022/23 ar dystysgrifau ymarfer o ganlyniad i wrandawiad Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.

Y data

Yn 2022/23, roedd 205 o achosion lle roeddem wedi gosod amod ar dystysgrif ymarfer unigolyn. Roedd yr achosion hyn yn cynnwys 202 o unigolion. Os oedd gan unigolyn amodau wedi'u rhoi ar ei dystysgrif ymarfer fwy nag unwaith yn ystod y flwyddyn, dim ond unwaith rydym wedi'u cyfrif at ddibenion y dadansoddiad hwn. Dyna pam mae llai o unigolion o'u cymharu ag achosion.

Yn 2022/23, roedd 18 o achosion lle rhoddwyd amod ar dystysgrif ymarfer unigolyn o ganlyniad i wrandawiad Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr. Mae'n cynnwys:

  • Naw o achosion y Tribiwnlys wedi dod i ben yn ystod y flwyddyn lle rhoddwyd amod.
  • Daeth naw o achosion y Tribiwnlys i ben mewn blynyddoedd blaenorol. Yn yr achosion hyn, bydd y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr wedi penderfynu atal yr unigolion dros dro. Ar ddiwedd y cyfnod atal, bydd y Tribiwnlys wedi gorchymyn y dylai tystysgrifau ymarfer yr unigolion fod yn ddarostyngedig i amodau ymarfer.

Roedd yr 18 achosion hyn yn cynnwys 18 o unigolion.

Oherwydd ein bod yn gallu gosod amodau pan fydd tystysgrif ymarfer yn cael ei hadnewyddu neu o ganlyniad i ymchwiliad, a bod y Tribiwnlys yn gallu gosod amodau a allai neu na allai ddod i rym ar unwaith, rydym wedi cymharu'r data hwn â'r boblogaeth sy'n ymarfer, yn hytrach nag un o'r pedwar cam allweddol a nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad.

Er mwyn osgoi'r risg y bydd yr unigolion yn cael eu hadnabod o'r dadansoddiad hwn, mae cyfyngiadau o ran beth y gallwn adrodd amdano yn yr adran hon:

  • Nid ydym wedi gallu adrodd ar wahân am y grwpiau sy'n ffurfio'r grŵp Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ar gyfer yr amodau a osodwyd gennym na'r amodau a osodwyd gan y Tribiwnlys, oherwydd y niferoedd isel.
  • Parthed oedran:
    • Nid oedd unrhyw unigolion 16–24 oed a oedd wedi cael amodau ymarfer a osodwyd gennym ni na'r Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
    • Nid oedd unrhyw unigolion 25-34 oed a oedd wedi cael amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr.
    • Rydym ni wedi grwpio'r categorïau oedran 35–44 a 45–54 gyda'i gilydd a'r categorïau oedran 55–64 a 65 oed a hŷn yn nhabl amodau a osodwyd gan y Tribiwnlys, oherwydd niferoedd isel.
  • Nid ydym wedi gallu cynnwys dadansoddiad yn ôl anabledd o ran yr amodau a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr, oherwydd niferoedd isel.

Cyfyngiadau o ran y casgliadau gallwn eu ffurfio

Oherwydd y niferoedd isel yn ymwneud ag amodau a osodwyd gennym a'r amodau a osodwyd gan y Tribiwnlys (202 ac 18 unigolyn, yn y drefn honno), efallai y bydd effaith ar ddilysrwydd y casgliadau y gallwn eu llunio. Felly, dylid bod yn ofalus wrth drin unrhyw wahaniaethau rhwng grwpiau.

Amodau ymarfer a osodwyd gennym yn 2022/23

Er mwyn diogelu'r cyhoedd, mae tair sefyllfa fel arfer lle gallwn osod amodau ymarfer:

  • Fel rhan o ganlyniad lle rydym wedi canfod camymddwyn.
  • Yn ystod ymchwiliad a hyd nes y ceir canlyniad terfynol yr ymchwiliad. Mae hwn yn amod dros dro, a byddwn yn monitro'r amodau hyn wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymchwiliadau.
  • Pan fydd amodau presennol eisoes ar dystysgrif ymarfer a phan wneir cais i'w hadnewyddu, byddwn yn penderfynu a ddylid ailgyflwyno, amrywio neu ddileu'r amodau blaenorol o'r dystysgrif ymarfer newydd. Mae amodau wedi'u hailgyflwyno neu amodau amrywiol a wneir wrth adnewyddu yn cael eu cyfrif yn y dadansoddiad a adroddir yma.

Dadansoddiad yn ôl rhyw

Dynion oedd 77% o'r unigolion yr oeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 47% o ddynion yn y boblogaeth sy'n ymarfer. I'r gwrthwyneb, roedd menywod yn cyfrif am 23% o'r unigolion roeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 53% o fenywod yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  Dynion Menywod
Y boblogaeth sy'n ymarfer 47% (68,244) 53% (76,136)
Amodau ymarfer a osodwyd gennym  77% (155) 23% (46)
  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod rhyw 144,380 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (84%).
  • Amodau ymarfer a osodwyd gennym – roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 201 o'r 202 o unigolion y gosodwyd amod arnynt (99.5%).

Dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw'n fach. Roedd unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrif am 46% o'r unigolion roeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 19% o unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y boblogaeth sy'n ymarfer. I'r gwrthwyneb, roedd unigolion Gwyn yn cyfrif am 54% o'r unigolion roeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu ag 81% o unigolion Gwyn yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Y boblogaeth sy'n ymarfer 81% (95,626) 19% (22,313)
Amodau ymarfer a osodwyd gennym 54% (93) 46% (79)

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 117,939 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (68%).
  • Amodau ymarfer a osodwyd gennym – roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 172 o'r 202 o unigolion y gosodwyd amod arnynt (85%).

Dadansoddiad yn ôl oedran

Mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw'n fach.

Roedd cyfran yr unigolion yr oeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt ac sydd dros 45 oed yn uwch o gymharu â'u cyfrannau priodol yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y ddau grŵp oedran iau a ddangosir yma (16–34 a 35–44). Mae cyfran yr unigolion yn y grwpiau hyn y gwnaethom osod amod ymarfer arnynt yn is na'u cyfrannau priodol yn y boblogaeth sy'n ymarfer. Sylwch, ni osodwyd amodau ar unrhyw unigolion o'r grŵp oedran 16–24.

  16–34 35–44 45–54 55–64 65+
Y boblogaeth sy'n ymarfer 24% (40,628) 32% (55,305) 25% (42,734) 14% (25,009) 5% (9,037)
Amodau ymarfer a osodwyd gennym 3% (7) 12% (24) 29% (59) 37% (75) 18% (37)

Dadansoddiad yn ôl anabledd

Mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw'n fach.

Roedd unigolion anabl yn cyfrif am 4% o'r unigolion roeddem wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu ag 1% o unigolion anabl yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi Cyfanswm
Y boblogaeth sy'n ymarfer 99% (170,373) 1% (2,402) 100% (172,775)
Amodau ymarfer a osodwyd gennym 96% (194) 4% (8) 100% (202)

Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr yn 2022/23

Gall y Tribiwnlys osod amodau fel rhan o'i ganlyniad terfynol. Mae ganddo ddisgresiwn eang o ran pa amodau y gall eu gosod.

Dadansoddiad yn ôl rhyw

Dynion oedd 67% o'r unigolion yr oedd y Tribiwnlys wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 47% o ddynion yn y boblogaeth sy'n ymarfer. I'r gwrthwyneb, roedd menywod yn cyfrif am 33% o'r unigolion roedd y Tribiwnlys wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 53% o fenywod yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  Dynion Menywod
Y boblogaeth sy'n ymarfer 47% (68,244) 53% (76,136)
Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 67% (12) 33% (6)
  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod rhyw 144,380 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (84%).
  • Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys – roedd rhyw yn hysbys ar gyfer 18 o'r 18 o unigolion y gosodwyd amod arnynt (100%).

Dadansoddiad yn ôl ethnigrwydd

Mae'n anodd dod i gasgliadau ystyrlon oherwydd bod y niferoedd dan sylw'n fach. Roedd unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn cyfrif am 59% o'r unigolion roedd y Tribiwnlys wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu â 19% o unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y boblogaeth sy'n ymarfer. I'r gwrthwyneb, roedd unigolion Gwyn yn cyfrif am 41% o'r unigolion roedd y Tribiwnlys wedi gosod amodau ymarfer arnynt, o gymharu ag 81% o unigolion Gwyn yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  Gwyn Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol
Y boblogaeth sy'n ymarfer 81% (95,626) 19% (22,313)
Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 41% (7) 59% (10)

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y data canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod ethnigrwydd 117,939 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (68%).
  • Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys – roedd ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 17 o'r 18 o unigolion y gosodwyd amod arnynt (94%).

Dadansoddiad yn ôl oedran

Roedd cyfran yr unigolion yr oedd y Tribiwnlys wedi gosod amodau ymarfer arnynt ac a oedd dros 55 oed yn uwch o gymharu â'u cyfran briodol yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

Mae'r gwrthwyneb yn wir am y grwpiau oedran 35–44 a 45–54 cyfun. Mae cyfran yr unigolion yn y grwpiau hyn y gwnaeth y Tribiwnlys osod amod ymarfer arnynt yn debyg i'w cyfran briodol yn y boblogaeth sy'n ymarfer.

  16–34 35–54 55+
Y boblogaeth sy'n ymarfer 24% (40,628) 57% (98,039) 20% (34,046)
Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys Disgyblu Cyfreithwyr 0% (0) 56% (10) 44% (8)

Sylwch nad yw canrannau'n dod i 100% o bosibl, a hynny oherwydd talgrynnu.

Mae'r cyfrannau yn y tabl yn seiliedig ar y canlynol:

  • Poblogaeth sy'n ymarfer – roeddem ni'n gwybod oedran 172,713 o'r 172,775 o'r boblogaeth sy'n ymarfer (100%).
  • Amodau ymarfer a osodwyd gan y Tribiwnlys – roedd oedran yn hysbys ar gyfer 18 o'r 18 o unigolion y gosodwyd amod arnynt (100%).

Mae'r siartiau yn yr adran hon yn dangos dadansoddiad amrywiaeth o'r boblogaeth sy'n ymarfer, yn cynnwys:

  • cyfreithwyr ar y gofrestr sydd â thystysgrif ymarfer gyfredol
  • cyfreithwyr Ewropeaidd cofrestredig, cyfreithwyr tramor cofrestredig neu gyfreithwyr Ewropeaidd esempt
  • yn dibynnu ar y rôl, rhai pobl nad ydynt yn gyfreithwyr, fel rheolwyr a swyddogion cydymffurfio.

Mae'r data'n seiliedig ar 'giplun' a gymerwyd ar 1 Tachwedd 2023 o ddata a ddarparwyd gan unigolion drwy eu cyfrifon mySRA. Roedd y boblogaeth sy'n ymarfer ar y dyddiad hwn yn cynnwys 172,775 o bobl.

Gan fod yr adroddiadau a'r achosion sy'n cael eu hystyried yn yr adroddiad hwn yn dod o 2022/23, dyma'r ffynhonnell data mwyaf priodol ar gyfer cymharu proffil amrywiaeth y bobl sy'n cael eu cynrychioli yn ein prosesau.

Cyfraddau datgelu

Wrth edrych ar y boblogaeth sy'n ymarfer, mae'r boblogaeth ar gyfer y pedair nodwedd amrywiaeth yn amrywio o 68% (ar gyfer ethnigrwydd) i 100% (ar gyfer oedran). Sylwch fod gennym ddata oedran ar gyfer 99.96% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ond mai 100% sy'n cael ei ddangos o ganlyniad i dalgrynnu. Ar wahân i'r data oedran, daw'r data amrywiaeth o gyfrifon mySRA unigol, lle nad yw'n orfodol i bobl ddatgan eu nodweddion amrywiaeth.

Rhyw

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 144,380 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roedden ni'n gwybod eu rhywedd. Mae'n cynrychioli 84% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2023.

  Dynion Menywod
Y boblogaeth sy'n ymarfer 47% (68,244) 53% (76,136)

Sylwch, mae'r data a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ymateb hunan-gofnodedig i'r cwestiwn canlynol: 'Beth yw eich rhyw: gwryw, benyw, disgrifiad arall sy'n well gennych neu a yw'n well gennych beidio â dweud'. Nid oes yn rhaid i gyfreithwyr sy'n ateb y cwestiwn hwn ateb yn unol â'u rhywedd cyfreithiol.

Ethnigrwydd

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 117,939 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roeddem ni'n gwybod eu hethnigrwydd. Mae'n cynrychioli 68% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2023.

  Gwyn Asiaidd Du Cymysg Arall
Y boblogaeth sy'n ymarfer 81% (95,626) 12% (14,606) 3% (3,466) 2% (2,304) 2% (1,937)

Oedran

Mae'r tabl isod yn dangos dadansoddiad o 172,713 o'r boblogaeth sy'n ymarfer lle roeddem ni'n gwybod eu hoedran. Mae'n cynrychioli 100% o'r boblogaeth sy'n ymarfer ar 1 Tachwedd 2023.

  16–24 25–34 35–44 45–54 55–64 65+
Y boblogaeth sy'n ymarfer 0% (397) 23% (40,231) 32% (55,305) 25% (42,734) 14% (25,009) 5% (9,037)

Anabledd

Mae'r siart isod yn dangos y 2,402 o gyfreithwyr sy'n ymarfer sydd wedi datgan anabledd (o 172,775).

  Dim anabledd wedi'i gofnodi Anabledd wedi'i gofnodi
Y boblogaeth sy'n ymarfer 99% (170,373) 1% (2,402)