Dadansoddiad o amrywiaeth gweithlu ffyrmiau cyfraith Cymru

English Cymraeg

Mae'r trosolwg hwn yn ymdrin â chyfreithwyr a chyflogeion eraill sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith a reoleiddir gan yr SRA sydd â'u prif swyddfa yng Nghymru. Mae wedi'i seilio ar ddata a gasglwyd oddi wrth y ffyrmiau yn ystod haf 2025. Nid yw'n cynnwys swyddfeydd cangen yng Nghymru os yw'r brif swyddfa yn Lloegr.

Gallwch hefyd ddarllen ein hadroddiad llawn ar gyfer pob ffyrm yng Nghymru a Lloegr. Mae gennyn ni hefyd ddau declyn rhyngweithiol y gallwch eu defnyddio i archwilio'n data:

  • un sy'n dangos yr holl ddata ar amrywiaeth ffyrmiau ar gyfer 2025 y gall ffyrmiau ei ddefnyddio i feincnodi eu data. Wrth hidlo yn ôl lleoliad, allwch chi ddim mireinio'r data ymhellach yn ôl maint y ffyrm neu'r math o waith. <
  • un arall sy'n dangos yr holl ddata am amrywiaeth ffyrmiau rydyn ni wedi'i gasglu ers 2015 fel y gellir gweld tueddiadau yn weledol.

Ynglŷn â'r data

Rydyn ni'n casglu data ar amrywiaeth gan y ffyrmiau cyfraith rydyn ni'n eu rheoleiddio yng Nghymru a Lloegr bob dwy flynedd.

Mae'r ffyrmiau yn casglu'r data gan eu staff yn unol â set safonol o gwestiynau am amrywiaeth ac yn adrodd y data agregedig i ni yn ôl categori rolau. Rydyn ni'n casglu'r data gan ddefnyddio 13 o gategorïau gwahanol, rydyn ni wedi'u cyfuno';n grwpiau ehangach yn y teclynnau data ac ar gyfer y dadansoddiad hwn.

Dyma'r grwpiau:

  • 'yr holl gyfreithwyr' a 'staff arall' – mae 'staff eraill' yn cyfeirio at staff nad ydyn nhw'n bersonau awdurdodedig sy'n gweithio mewn ffyrm, er enghraifft y rhai sy'n gweithio mewn rolau sy'n cefnogi enillwyr ffioedd neu mewn rolau gwasanaethau corfforaethol
  • cyfreithwyr sy'n bartneriaid ecwiti llawn ('partneriaid ecwiti llawn'), cyfreithiwr sy'n bartneriaid cyflogedig neu'n bartneriaid ecwiti rhannol ('partneriaid cyflogedig') a 'chyfreithwyr'. Mae cyfreithwyr awdurdodedig eraill sy'n gweithio mewn ffyrmiau cyfraith (megis gweithredwyr cyfreithiol siartredig a bargyfreithwyr) yn cael eu cyfrif yn y grŵp 'cyfreithwyr'.

Sut rydyn ni'n dangos canfyddiadau'r data

Yn yr adroddiad hwn, rydyn ni wedi nodi'r canfyddiadau allweddol ar gyfer yr holl nodweddion amrywiaeth a gynhwysir yn yr holiadur. Ar gyfer y dadansoddiad hwn, crëwyd is-set o'r data a gasglwyd gennym oddi wrth bob ffyrm cyfraith, er mwyn canolbwyntio ar ffyrmiau Cymru yn unig. Gan ein bod yn casglu'r data mewn fformat agregedig, mae defnyddio'r is-set hon yn golygu na allwn fireinio'r data ymhellach yn ôl prif faes y gyfraith neu faint y ffyrm.

Yn gyffredinol, rydyn ni'n rhoi canrannau yn yr adroddiad hwn wedi'u talgrynnu i rifau cyfan, ac eithrio pan fo'r gwerth yn llai nag 1%. Yn yr adrannau cyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd, oherwydd y niferoedd bach, rydyn ni'n talgrynnu i un lle degol. Oherwydd y talgrynnu, fydd rhai canrannau ddim yn adio i 100.

Tueddiadau a chymariaethau yn y data

Lle ceir newidiadau nodedig dros amser, rydyn ni'n cymharu canfyddiad 2025 â'r flwyddyn gynharaf y casglwyd y data hwn, sef 2015 yn achos y rhan fwyaf o'r nodweddion.

Mewn nodweddion eraill roedd yn ddiweddarach, er enghraifft, dechreuwyd casglu data am gefndir economaidd-gymdeithasol o 2019 ymlaen, a data am bartneriaid wedi'i rannu yn ôl partneriaid ecwiti llawn a phartneriaid cyflogedig o 2023 ymlaen.

Rydyn ni hefyd wedi dod o hyd i'r data cymharu cenedlaethol gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a Llywodraeth Cymru. Rydyn ni wedi defnyddio'r data cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru ar gyfer y boblogaeth o oedran gweithio lle bo'n bosibl. Lle nad oes data poblogaeth oedran gweithio diweddar, rydyn ni wedi defnyddio data Cyfrifiad 2021. Ar gyfer cyfeiriadedd rhywiol rydyn ni wedi defnyddio'r arolwg aelwydydd ar gyfer poblogaeth Cymru yn 2024. Ar gyfer yr ysgol a fynychwyd rydyn ni wedi defnyddio data'r cyfrifiad ysgolion o 2025. Does dim ystadegau cenedlaethol Cymreig penodol ar gefndir economaidd-gymdeithasol.

Open all

Roedd cyfran y cyfreithwyr benywaidd mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn uwch na chyfran y cyfreithwyr oedd yn ddynion ac mae wedi parhau i godi:

  • Roedd 61% o'r cyfreithwyr yn fenywod, i fyny o 57% yn 2023
  • Roedd 36% o'r cyfreithwyr yn ddynion, i lawr o 40% yn 2023
  • Roedd yn well gan 3% o'r cyfreithwyr beidio â dweud

Ac eithrio'r ymatebion dewisol peidio â dweud, menywod oedd 63% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Mae hyn yn cymharu â 50% o boblogaeth gweithlu Cymru yn 2025.

Er hynny, mae cyfran uwch o'r partneriaid ecwiti llawn yn ddynion na menywod, er bod y bwlch yn culhau:

  • Roedd 46% o'r partneriaid ecwiti llawn yn fenywod (i fyny o 35% yn 2023)
  • Roedd 61% o'r partneriaid cyflogedig yn fenywod (i fyny o 54% yn 2023)
  • Roedd 70% o'r cyfreithwyr yn fenywod (i fyny o 68% yn 2023).

Wrth edrych ar dueddiadau dros amser ar gyfer yr holl bartneriaid, cyfran y menywod ar lefel partner oedd 50%, i fyny o 33% yn 2015.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd cyfran uwch o fenywod (78%, i lawr o 80% yn 2015) o'i gymharu â dynion (19% yr un fath â 2015).

Cyfreithwyr o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig oedd 6% o'r holl gyfreithwyr yn gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o'r 3% a welwyd yn 2015. Ac roedd 90% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn Wyn. Roedd yn well gan 3% beidio â dweud eu hethnigrwydd.

Wrth ailgyfrifo ar ôl tynnu'r ymatebion roedd yn well ganddyn nhw beidio â dweud, roedd cyfreithwyr Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn ffurfio 7%, yr un gyfran â'r data diweddaraf ar boblogaeth oedran gweithio Cymru yn 2021. Oherwydd talgrynnu, mae'r dadansoddiad ar gyfer y grŵp Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yr un fath gyda'r ymatebion roedd yn well ganddyn nhw beidio â dweud neu hebddyn nhw. Dyma'r dadansoddiad:

  • 4% yn Asiaidd (o'i gymharu â 3% o boblogaeth Cymru)
  • 0.5% yn Ddu (o'i gymharu ag 1% o boblogaeth Cymru)
  • 2% yn Lluosog/Cymysg (o'i gymharu ag 1% o boblogaeth Cymru)
  • 0.2% yn Grwpiau ethnig eraill (o'i gymharu ag 1% o boblogaeth Cymru).

Roedd cyfran y partneriaid Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru yn 4% o'i gymharu â 5% o'r partneriaid cyflogedig ac 8% o'r cyfreithwyr.

Wrth edrych ar yr holl bartneriaid, roedd yn well gan 5% beidio â dweud o'i gymharu â 2% o'r cyfreithwyr.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd cyfran y bobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig yn 8%, cynnydd o 4% yn 2015.

Cyfreithwyr a nododd anabledd oedd 8% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru. Roedd hyn i fyny o 3% yn 2015. Ac atebodd 87% nad oedd ganddyn nhw anabledd, gyda 5% yn well ganddyn nhw beidio â dweud.

Ac eithrio'r ymatebion roedd yn well ganddyn nhw beidio â dweud, datganodd 9% o'r c yfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru anabledd, o'i gymharu ag21% o boblogaeth gyfan Cymru yn 2021 neu 17% o weithlu'r DU yn ei gyfanrwydd yn 2025.

O ddadansoddi hyn yn ôl graddfa'r swydd:

  • Dywedodd cyfran uwch o'r partneriaid ecwiti llawn fod ganddyn nhw anabledd (12%) na'r partneriaid cyflogedig (6%).
  • Roedd yn well gan gyfran uwch o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud a oedd ganddyn nhw anabledd (8%), o'i gymharu â'r partneriaid cyflogedig (4%).

O edrych ar bartneriaid yn gyffredinol, datganodd 10% anabledd (i fyny o 3% yn 2015), o'i gymharu â 7% o'r cyfreithwyr (i fyny o 3% yn 2015). Roedd yn well gan gyfran uwch o'r partneriaid beidio â dweud a oedd ganddyn nhw anabledd (7%) na'r cyfreithwyr (4%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, datganodd 10% anabledd gyda 5% yn ffafrio peidio â dweud.

Rydyn ni hefyd yn gofyn a yw gweithgareddau dyddiol rhywun wedi'u cyfyngu gan gyflwr iechyd neu anabledd. Yn 2025, dywedodd 4% o'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru fod eu gweithgareddau o ddydd i ddydd wedi'u cyfyngu ychydig gan gyflwr iechyd neu anabledd a dywedodd 1% eu bod yn gyfyngedig iawn, tra oedd yn well gan 6% beidio â dweud.

Galwedigaeth y rhieni

Rydyn ni wedi adrodd ar alwedigaeth y rhieni gan ddefnyddio tri chategori i nodi cefndir economaidd-gymdeithasol:

  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol proffesiynol (uwch) yn cynnwys galwedigaethau proffesiynol modern a thraddodiadol a rheolwyr neu weinyddwyr uwch, canol neu iau.
  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol canolradd yn cynnwys galwedigaethau clerigol a chanolradd a pherchnogion busnesau bach sy'n cyflogi llai na 25 o bobl.
  • Mae'r categori economaidd-gymdeithasol is (dosbarth gweithiol) yn cynnwys galwedigaethau technegol a chrefft a di-waith hirdymor.

Ers inni ddechrau casglu'r data hwn yn 2019, cafwyd rhywfaint o newid yn y dadansoddiad o broffesiwn yn ôl cefndir economaidd-gymdeithasol ar gyfer yr holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â chynnydd yn y gyfran o gyfreithwyr o gefndir canolradd a gostyngiadau cyfatebol yn y gyfran o gefndiroedd proffesiynol ac economaidd-gymdeithasol is.

  • cefndir proffesiynol – 51% o'r cyfreithwyr, i lawr o 55% yn 2019
  • cefndir canolradd – 15% o'r cyfreithwyr, i fyny o 5% yn 2019
  • cefndir economaidd-gymdeithasol is – 24% o'r cyfreithwyr, i lawr o 26% yn 2019
  • ymatebion eraill (fel 'Wn i ddim' neu 'wedi ymddeol') – 2% o'r cyfreithwyr, i lawr o 3% yn 2019
  • Mae'n well gen i beidio â dweud – 8% o'r cyfreithwyr, i lawr o 11% yn 2019.

O rannu hyn yn ôl graddfa'r swydd:

  • Roedd cyfran debyg o'r partneriaid cyflogedig o gefndir proffesiynol (54%), o'i gymharu â';r partneriaid ecwiti llawn (53%)
  • Roedd 17% o'r partneriaid ecwiti llawn o gefndir economaidd-gymdeithasol is o'i gymharu â 24% o'r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan gyfran uwch o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud (14%), o'i gymharu â'r partneriaid cyflogedig (6%).

Roedd rhai gwahaniaethau yng nghyfran y partneriaid drwyddi draw o'i gymharu â chyfreithwyr o ran cefndir economaidd-gymdeithasol:

  • Roedd 53% o'r partneriaid a 50% o'r cyfreithwyr o gefndir proffesiynol
  • Roedd 19% o'r partneriaid a 28% o'r cyfreithwyr o gefndir economaidd-gymdeithasol is
  • Roedd yn well gan gyfran uwch o'r partneriaid beidio â dweud eu cefndir (12%) na'r cyfreithwyr (5%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, y gyfran o gefndir proffesiynol oedd 39% a'r gyfran o gefndir economaidd-gymdeithasol is oedd 35%.

Yr ysgol a fynychwyd

Mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, cafwyd gostyngiad yng nghyfran y cyfreithwyr a aeth i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd ers 2015 a chynnydd cyfatebol yn y gyfran a aeth i ysgol wladol:

  • Aeth 8% o'r cyfreithwyr i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd o'i gymharu â 10% yn 2015
    • Chafodd 6% ddim bwrsariaeth
    • Cafodd 2% fwrsariaeth a dalodd 90% neu fwy o'r ffioedd.
  • Aeth 85% o'r cyfreithwyr i ysgol wladol o'i gymharu â 82% yn 2015
    • Aeth 20% i ysgolion oedd yn dethol
    • Aeth 65% i ysgolion nad oedden nhw';n dethol.
  • Aeth 2% o'r cyfreithwyr i ysgolion y tu allan i'r DU o'i gymharu ag 1% yn 2015
  • Roedd yn well gan 5% o'r cyfreithwyr beidio â datgan eu math o ysgol o'i gymharu â 6% yn 2015.

Ac eithrio'r ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud' a'r ymatebion 'mynychu ysgolion y tu allan i'r DU', aeth 8% o'r cyfreithwyr i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd o'i gymharu â 2% ledled Cymru yn 2025.

O rannu hyn yn ôl graddfa'r swydd:

  • Aeth 10% o'r partneriaid ecwiti llawn i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd, o'i gymharu ag 8% o'r partneriaid cyflogedig
  • Aeth 78% o'r partneriaid ecwiti llawn i ysgol wladol, o'i gymharu ag 87% o'r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan 11% o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud o'i gymharu â 4% o'r partneriaid cyflogedig.

Cafwyd rhai gwahaniaethau yng nghyfrannau'r partneriaid drwyddi draw o'i gymharu â chyfreithwyr o ran math o ysgol:

  • Aeth 9% o'r partneriaid a 7% o'r cyfreithwyr i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd
  • Aeth 81% o'r partneriaid ac 88% o'r cyfreithwyr i ysgol wladol
  • Roedd yn well gan gyfran uwch o'r partneriaid beidio â dweud eu math o ysgol (9%) na chyfreithwyr (3%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, aeth 3% i ysgol annibynnol/ysgol talu ffioedd, aeth 5% i ysgol y tu allan i'r DU, ac aeth 88% i ysgol wladol. Roedd yn well gan 5% o'r staff eraill beidio â dweud.

Mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, y gyfran fwyaf o gyfreithwyr oedd y rhai 25–34 a 35–44 oed (y ddau yn 26%).

Mae cyfran y cyfreithwyr ym mhob grŵp oedran yn dilyn yn fras yr hyn y byddem yn disgwyl ei weld, gyda chyfran is o'r grwpiau oedran ieuengaf a hynaf o'i gymharu â'r cyfrannau cenedlaethol. O gofio'r gofynion o ran cymhwyster, ni fyddem yn disgwyl i lawer o bobl ennill cymhwyster rhwng 16-24 oed, a byddem yn disgwyl i bobl ddechrau ymddeol yn y categori 65+. Mae'r canrannau wedi'u rhoi yn y tabl isod, ac maen nhw hefyd wedi'u hailgyfrifo heb werthoedd peidio â dweud er mwyn eu cymharu â chyfrannau cenedlaethol Cymru yn 2021:

Ystod oedran Cyfran y cyfreithwyr Cyfran wedi'i hailgyfrifo heb ymatebion gwell gen i beidio â dweud Cyfrannau cenedlaethol
16–24 2% 2% 11%
25–34 26% 26% 12%
35–44 26% 27% 12%
45–54 21% 22% 13%
55–64 16% 16% 14%
65+ 7% 7% 21%
Gwell gen i beidio â dweud 3% D/G D/G

Mae'r data yn ôl graddfa'r swydd yn adlewyrchu patrwm gyrfa arferol cyfreithwyr a'r oedran y bydd cyfreithwyr yn gyffredin yn sicrhau partneriaeth ecwiti llawn:

  • O ran partneriaid ecwiti llawn, y grŵp mwyaf oedd 45–54 (28%), ac yna 55–64 (26%) ac yna 35–44 (18%).
  • O ran partneriaid cyflogedig, y grŵp mwyaf oedd 35–44 (37%), ac yna 45–54 (31%) ac yna 55-64 (19%).
  • O ran cyfreithwyr, y grŵp oedran mwyaf oedd 25–34 (39%) ac yna 35–44 (28%) ac yna 45–54 (15%).

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd gwasgariad mwy cyfartal dros y rhan fwyaf o'r categorïau oedran. Roedd y gyfran fwyaf yn 25-34 oed (27%) a'r lleiaf yn 65+ (4%).

Cafwyd rhywfaint o newid yng nghyfansoddiad crefyddol y cyfreithwyr ers 2015. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â chynnydd yng nghyfran y cyfreithwyr nad oedd ganddyn nhw grefydd neu gred, a gostyngiad yng nghyfran y cyfreithwyr Cristnogol. Roedd y grŵp mwyaf o gyfreithwyr yn Gristnogion, ac yna'r rhai oedd heb grefydd neu gred. Y grŵp Mwslimaidd oedd y mwyaf o blith y grwpiau ffydd eraill. Yn y tabl isod rydyn ni wedi darparu'r national proportions cyfrannau cenedlaethol yn 2021 ar gyfer crefydd yng Nghymru o ran cymhariaeth.

Crefydd neu gred   Cyfran y cyfreithwyr   Cyfrannau cenedlaethol Cymru  
Cristnogol 45% 44%
Dim crefydd na chred 43% 47%
Mwslimaidd 2% 2%
Hindŵaidd 0.3% 0.4%
Sikh 0.3% 0.1%
Bwdhaidd 0.3% 0.3%
Iddewig 0.2% 0.1%
Unrhyw grefydd neu gred arall 1% 0.5%
Gwell gen i beidio â dweud 8% 6%

O rannu'r boblogaeth o gyfreithwyr yn ôl graddfa'r swydd ar gyfer y tri grŵp mwyaf (Cristnogol, dim crefydd neu gred a Mwslimaidd):

  • Roedd 50% o'r partneriaid ecwiti llawn, 49% o'r partneriaid cyflogedig a 41% o'r cyfreithwyr yn Gristnogol
  • Roedd 2% o'r partneriaid ecwiti a chyflogedig, a 3% o'r cyfreithwyr yn Fwslimiaid
  • Dywedodd 33% o'r partneriaid ecwiti llawn, 41% o'r partneriaid cyflogedig a 48% o'r cyfreithwyr nad oedd ganddyn nhw unrhyw grefydd neu gred
  • Roedd yn well gan 13% o'r partneriaid ecwiti llawn a 6% o'r partneriaid cyflogedig a'r cyfreithwyr beidio â dweud.

Wrth edrych ar dueddiadau dros amser ar gyfer yr holl bartneriaid, cafwyd rhai newidiadau:

  • gostyngiad yn y partneriaid Cristnogol o 61% yn 2015 i 50% yn 2025
  • cynnydd yn y partneriaid heb grefydd neu gred o 21% yn 2015 i 36% yn 2025
  • cynnydd yn y partneriaid Mwslimaidd o 0.5% yn 2015 i 2% yn 2025.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, y grŵp mwyaf oedd dim crefydd neu gred (51%), ac yna Cristnogol (35%), Mwslimaidd (3%) ac unrhyw grefydd neu gred arall (2%). Roedd yn well gan 8% o'r staff eraill beidio â dweud.

O'r holl gyfreithwyr yn gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd 36% yn brif ofalwyr i blentyn neu blant dan 18 oed, ac roedd gan 9% gyfrifoldebau gofalu di-dâl tuag at bobl eraill â salwch corfforol neu feddyliol hirdymor. Rydyn ni wedi talfyrru'r rhain i 'gyfrifoldebau gofal plant' a 'chyfrifoldebau gofal eraill' er hwylustod.

O'r holl gyfreithwyr, roedd yn well gan 5% beidio â dweud a oedd ganddyn nhw gyfrifoldebau gofal plant, ac roedd yn well gan 6% beidio â dweud a oedd ganddyn nhw gyfrifoldebau gofal eraill.

Does dim ystadegau a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfrifoldebau gofal plant. Er hynny, datganodd 12% o boblogaeth Cymru yn 2021 fod ganddyn nhw gyfrifoldebau gofal eraill. Ac eithrio'r ymatebion 'gwell gen i beidio â dweud', roedd gan 9% o'r holl gyfreithwyr yn gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru gyfrifoldebau gofalu eraill.

Roedd gan gyfran uwch o'r partneriaid cyflogedig mewn ffyrmiau yng Nghymru gyfrifoldebau gofal plant (50%) na'r partneriaid ecwiti llawn (31%). Ar gyfer y ddau fath o bartneriaid, roedd gan 9% gyfrifoldebau gofalu eraill.

Wrth edrych ar bartneriaid yn eu cyfanrwydd, roedd gan 37% o'r partneriaid gyfrifoldebau gofal plant o'i gymharu â 35% o'r cyfreithwyr. Roedd gan 9% o'r partneriaid a 9% o'r cyfreithwyr gyfrifoldebau gofalu eraill.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd gan 24% gyfrifoldebau gofal plant, ac roedd gan 10% gyfrifoldebau gofalu eraill.

Oherwydd y gwerthoedd bach, dangosir y cyfrannau hyn i un lle degol. O ran cyfreithwyr yn gweithio mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, roedd 3.2% yn lesbiaidd, hoyw, deurywiol (LHD) neu'n ffafrio disgrifiad arall, ac roedd 89.6% yn heterorywiol. Mae hyn yn cymharu ag 1.9% a 90.3% yn y drefn honno yn 2015.

Yn yr arolwg data cenedlaethol diweddaraf ar gyfer Cymru ar gyfeiriadedd rhywiol o 2024, dewisodd 0.7% o bobl beidio ag ateb y cwestiwn, o'i gymharu â'n cyfran ni o 'gwell gen i beidio â dweud' ar gyfer yr holl gyfreithwyr o 7.1%. Ar draws poblogaeth yr holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru:

  • Atebodd 2.0% eu bod yn hoyw neu'n lesbiaidd (o'i gymharu ag 1.7% o boblogaeth Cymru)
  • Atebodd 1.1% eu bod yn ddeurywiol (o'i gymharu ag 1.9% o boblogaeth Cymru)
  • Roedd yn well gan 0.2% ddisgrifiad arall (o'i gymharu ag 1.6% o boblogaeth Cymru).

Wrth edrych ar raddfa'r swydd:

  • nododd 2.5% o'r partneriaid ecwiti llawn eu bod yn LHD, o'i gymharu â 3.1% o'r partneriaid cyflogedig
  • Roedd yn well gan 11.8% o'r partneriaid ecwiti llawn beidio â dweud, o'i gymharu â 6.1% o'r partneriaid cyflogedig
  • Wrth edrych ar y partneriaid yn gyffredinol, nododd 2.7% eu bod yn LHD, o'i gymharu â 3.4% o'r cyfreithwyr.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, nododd 6.4% eu bod yn LHD ac roedd yn well gan 0.4% ddisgrifiad arall.

O'r holl gyfreithwyr mewn ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, datganodd 1.6% fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni (o'i gymharu â 0.4% o boblogaeth Cymru yn 2021). Roedd hyn yn ostyngiad o 1.7% yn 2017, pan gasglwyd y data hwn am y tro cyntaf.

Nodwch y cafeat mewn perthynas â'r data hwn ar wefan SYG.

Yn 2021, dewisodd 6.3% o boblogaeth Cymru beidio ag ateb y cwestiwn hwn, o'i gymharu â'n cyfran ni o 'gwell gen i beidio â dweud' ar gyfer yr holl gyfreithwyr o 3.4%.

O edrych ar raddfa’r swydd:

  • Dywedodd 0.3% o'r partneriaid fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni, o'i gymharu â 2.5% o'r cyfreithwyr
  • Roedd yn well gan 5.1% o'r partneriaid beidio â dweud, o'i gymharu â 2.2% o'r cyfreithwyr.

O ran staff eraill ffyrmiau cyfraith yng Nghymru, dywedodd 1.5% fod eu hunaniaeth rhywedd yn wahanol i'w rhyw a gofrestrwyd adeg eu geni.